Brythoniaid: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
ychwanegu Brwydr Dyrham (Bryste) |
dyrham dolen |
||
Llinell 48: | Llinell 48: | ||
{{Image label small|x=0.46|y=.62||scale={{{width|400}}}|text=[[Brwydr Caer|Х]]}} |
{{Image label small|x=0.46|y=.62||scale={{{width|400}}}|text=[[Brwydr Caer|Х]]}} |
||
{{Image label small|x=0.42|y=.68||scale={{{width|400}}}|text=[[Maes Cogwy|Х]]}} |
{{Image label small|x=0.42|y=.68||scale={{{width|400}}}|text=[[Maes Cogwy|Х]]}} |
||
{{Image label small|x=0.50|y=0.92||scale={{{width|400}}}|text=[[Brwydr Dyrham |
{{Image label small|x=0.50|y=0.92||scale={{{width|400}}}|text=[[Brwydr Dyrham|Х]]}} |
||
{{Image label small|x=0.50|y=0.97||scale={{{width|400}}}|text=[[Brwydr Mynydd Baddon|Х]]}} |
{{Image label small|x=0.50|y=0.97||scale={{{width|400}}}|text=[[Brwydr Mynydd Baddon|Х]]}} |
||
Fersiwn yn ôl 08:13, 14 Mehefin 2009
Y Brythoniaid (neu'r Brutaniaid a hefyd Brython fel enw unigol lluosog) oedd y bobl oedd yn byw yn ynys Prydain i'r de o Ucheldiroedd yr Alban cyn goresgyniad y Rhufeiniaid. Nid un "genedl" oeddynt ond yn hytrach gasgliad o deyrnasoedd annibynnol mawr a bach yn seiliedig ar batrymau llwythol. Mae llawer o ysgrifenwyr wedi anghofio am y Brythoniaid - maen' nhw'n defnyddio termau fel "Celtiaid" neu "Romano-British" gan amlaf.
Erbyn i'r Rhufeiniaid adael yn 410 OC roedd Lladin, iaith y Rhufeiniaid, wedi dylanwadu ar y Frythoneg ac roedd hi'n dechrau newid ei strwythr. Roedd yr iaith yn datblygu a'r ysgogiad i gofnodi gwahanol ddeunydd - ysgrifau am hanes a dirwyiad tybiedig y genedl gan y mynach Gildas, canu Taliesin ac Aneirin yn cael eu draddodi ar lafar, a chofnodion a phytiau mewn llawysgrifau eglwysig ac ar feini - yn arwain at gychwyn llenyddiaeth Gymraeg.
Yn llenyddiaeth gynnar Cymru, defnyddir yr enwau "Cymry" a "Brython" (Brythoniaid/Brutaniaid) ochr yn ochr.
Roedd y Cymry'n ymwybodol iawn o'u perthynas â'r Llydawyr yn Llydaw (fel y tyst yr enw Breton) a'r Cernywiaid yng Nghernyw, ynghyd â'u cyd-Frythoniaid yn yr Hen Ogledd. Dros y môr i Lydaw aeth nifer o'r Brythoniaid, yn ôl chwedl Macsen Wledig a ffynonellau eraill, wedi'r goresgyniad Sacsonaidd yn Lloegr - a dyma lle ymsefydlodd nifer o'r seintiau Brythonaidd cynnar.
Llyfryddiaeth
- Geraint Bowen (gol.), Y Gwareiddiad Celtaidd (Caerdydd, 1987). Gweler yn arbennig pennod 4, "Y Brydain Rufeinig" gan D. Ellis Evans a phennod 9, "Yr Ymfudo i Lydaw" gan Léon Fleuriot.
- Wendy Davies, Wales in the Early Middle Ages (Leicester, 1982)
- John Morris, The Age of Arthur (Llundain, 1973)
- Christopher Snyder, The Britons (Blackwell, 2003)
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
- ↑ Atgynhyrchwyd y map hwn yn "Hanes Cymru" gan John Davies; cyhoeddwyd gan Penguin Books, 1990)