Rhys Meirion: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dafyddt (sgwrs | cyfraniadau) B Gwybodlen wicidata |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 13: | Llinell 13: | ||
Bu'n unawdydd gyda [[Cwmni Opera Cenedlaethol Lloegr|Rhaglen Cantorion Ifanc Jerwood, Opera Cenedlaethol Lloegr]] a [[Cwmni Opera Cymru|Chwmni Opera Cymru]]; ymhlith ei ganeuon mwyaf poblogaidd y mae 'Pedair Oed' a 'Llefarodd yr Haul' (gan [[Robat Arwyn]] a [[Robin Llwyd ab Owain]]). |
Bu'n unawdydd gyda [[Cwmni Opera Cenedlaethol Lloegr|Rhaglen Cantorion Ifanc Jerwood, Opera Cenedlaethol Lloegr]] a [[Cwmni Opera Cymru|Chwmni Opera Cymru]]; ymhlith ei ganeuon mwyaf poblogaidd y mae 'Pedair Oed' a 'Llefarodd yr Haul' (gan [[Robat Arwyn]] a [[Robin Llwyd ab Owain]]). |
||
Ymhlith ei uchafbwyntiau mewn cyngerddau, mae: cyngerdd gala yn [[Neuadd Frenhinol Albert]] gyda [[Bryn Terfel]], ei berfformiad cyntaf yng nghyngherddau Proms y BBC, a hynny ar y noson agoriadol (a ddarlledwyd ar BBC 2), recordiad byw gan y BBC o |
Ymhlith ei uchafbwyntiau mewn cyngerddau, mae: cyngerdd gala yn [[Neuadd Frenhinol Albert]] gyda [[Bryn Terfel]], ei berfformiad cyntaf yng nghyngherddau Proms y BBC, a hynny ar y noson agoriadol (a ddarlledwyd ar BBC 2), recordiad byw gan y BBC o Symffoni rhif 9 [[Beethoven]] dan arweiniad Richard Hickox, Cyngerdd Dathlu ''[[Desert Island Disks]]'' yn y ''[[Royal Festival Hall Llundain]]'' a ''Requiem Verdi'' yn Neuadd Frenhinol Albert. |
||
Canodd gyda Bryn Terfel ar yr albwm ''Benedictus'' - a gafodd ei gynnig am Wobr "Classical Brit" yn 2006.<ref>[http://www.harlequin-agency.co.uk/index.php?page=12&action=details&id=26 Gwefan ei Asiant "Harlequin Agency Limited", Caerdydd.]</ref> |
Canodd gyda Bryn Terfel ar yr albwm ''Benedictus'' - a gafodd ei gynnig am Wobr "Classical Brit" yn 2006.<ref>[http://www.harlequin-agency.co.uk/index.php?page=12&action=details&id=26 Gwefan ei Asiant "Harlequin Agency Limited", Caerdydd.]</ref> |
Fersiwn yn ôl 22:44, 30 Mehefin 2018
Rhys Meirion | |
---|---|
Rhys; Rhuthun, Mai 2011. | |
Ganwyd | 24 Chwefror 1966 Tremadog |
Label recordio | Cwmni Recordiau Sain |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr opera |
Arddull | opera |
Math o lais | tenor |
Tenor o Ruthun, Sir Ddinbych sy'n enedigol o ardal Porthmadog yw Rhys Meirion Jones. Cyn troi'n ganwr proffesiynol bu'n brifathro yn Ysgol Pentrecelyn, ger Rhuthun. Yn ôl Y Times, "Rhys has an engaging, clear tone singing the words, and brought a sweet vulnerability to the role."[1] Astudiodd yn gyntaf yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin ac yna'n ddiweddarach yn Ysgol Gerdd a Drama y Guildhall.
Gyrfa
Bu'n unawdydd gyda Rhaglen Cantorion Ifanc Jerwood, Opera Cenedlaethol Lloegr a Chwmni Opera Cymru; ymhlith ei ganeuon mwyaf poblogaidd y mae 'Pedair Oed' a 'Llefarodd yr Haul' (gan Robat Arwyn a Robin Llwyd ab Owain).
Ymhlith ei uchafbwyntiau mewn cyngerddau, mae: cyngerdd gala yn Neuadd Frenhinol Albert gyda Bryn Terfel, ei berfformiad cyntaf yng nghyngherddau Proms y BBC, a hynny ar y noson agoriadol (a ddarlledwyd ar BBC 2), recordiad byw gan y BBC o Symffoni rhif 9 Beethoven dan arweiniad Richard Hickox, Cyngerdd Dathlu Desert Island Disks yn y Royal Festival Hall Llundain a Requiem Verdi yn Neuadd Frenhinol Albert.
Canodd gyda Bryn Terfel ar yr albwm Benedictus - a gafodd ei gynnig am Wobr "Classical Brit" yn 2006.[2]
Rhannau
Mae ei rolau'n cynnwys Rodolfo yn La Boheme, Pinkerton yn Madam Butterfly, Alfredo yn La Traviata, Nemorino yn L’Elisir d’Amore, Nadir yn Y Pysgotwyr Perlau, Marcello yn La Boheme gan Leoncavallo, y Dug yn Rigoletto, Tebaldo yn Capuletti e Montecchi, Tamino yn Y Ffliwt Hud, y rôl deitl yn Ernani, Morwr yn Tristan und Isolde, Rinuccio yn Gianni Schicchi, Canwr Eidalaidd yn Der Rosenkavalier, Froh yn Das Rheingold, Zinovy yn Lady Macbeth of Mtzensk a nifer eraill.[3]
Cyfeiriadau
- ↑ Gwefan rhysmeirion.co.uk adalwyd 9 medi 2013.
- ↑ Gwefan ei Asiant "Harlequin Agency Limited", Caerdydd.
- ↑ Gwefan Rhys Meirion.com; adalwyd 9 Media 2013