Iago ab Idwal ap Meurig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
BDim crynodeb golygu |
TXiKiBoT (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: br:Iago ab Idwal ap Meurig |
||
Llinell 21: | Llinell 21: | ||
[[Categori:Hanes Cymru]] |
[[Categori:Hanes Cymru]] |
||
[[br:Iago ab Idwal ap Meurig]] |
|||
[[ca:Iago ab Idwal ap Meurig]] |
[[ca:Iago ab Idwal ap Meurig]] |
||
[[en:Iago ab Idwal ap Meurig]] |
[[en:Iago ab Idwal ap Meurig]] |
Fersiwn yn ôl 01:43, 8 Mehefin 2009
Roedd Iago ab Idwal ap Meurig (974? — 1039) yn frenin Gwynedd.
Daeth Iago, oedd o linach Idwal Foel, yn frenin ar Wynedd ar farwolaeth Llywelyn ap Seisyll yn 1023. Felly dychwelodd llinach Rhodri Mawr i rym yng Ngwynedd, oherwydd ymddengys nad oedd Llywelyn ap Seisyll o'r llinach yma.
Yn ol Llyfr Llandâf, dim ond ar Ynys Môn y teyrnasai Iago, gan fod Rhydderch ab Iestyn o Ddeheubarth yn teyrnasu ar ran o Wynedd.
Lladdwyd Iago gan ei ŵyr ei hun yn 1039, a dilynwyd ef gan fab Llywelyn ap Seisyll, Gruffydd ap Llywelyn.
Ymddengys i un o feibion Iago: Cynan ap Iago, ffoi i Iwerddon lle priododd â Ragnaillt o linach brenhinoedd Danaidd Dulyn. Pan ddychwelodd eu mab hwy, Gruffydd ap Cynan i hawlio teyrnas Gwynedd yn ddiweddarach, gan nad oedd ei dad yn adnabyddus yng Nghymru, cyfeirid ato fel "ŵyr Iago" yn hytrach na "Mab Cynan".
O'i flaen : Llywelyn ap Seisyll |
Brenhinoedd Gwynedd | Olynydd : Gruffydd ap Llywelyn |