Ynys Gybi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Monsyn (sgwrs | cyfraniadau) Llwybr yr arfordir |
Monsyn (sgwrs | cyfraniadau) Poblogaeth ac arwynebedd |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Delwedd:Holyheadmountain.jpg|200px|bawd|[[Mynydd Twr]] yw pwynt uchaf Ynys Gybi a Môn]] |
[[Delwedd:Holyheadmountain.jpg|200px|bawd|[[Mynydd Twr]] yw pwynt uchaf Ynys Gybi a Môn]] |
||
⚫ | [[Ynys]] oddi ar pen gogledd-orllewinol [[Ynys Môn]] yw '''Ynys Gybi''' ([[Saesneg]]: ''Holy Island''). Ei harwynebedd yw tua 464 hectar neu 15.22 milltir sgwâr. Fe'i henwir ar ôl Sant [[Cybi]], nawddsant [[Caergybi]]. Ceir nifer sylweddol o safleoedd hynafol ar yr ynys, yn [[maen hir|feini hirion]], [[cromlech|siambrau claddau]] a [[cytiau Gwyddelod|chytiau'r Gwyddelod]] a safleoedd cysylltiedig â [[Cristnogaeth yng Nghymru|Christnogaeth gynnar]] ac olion [[Y Celtiaid|Celtaidd]]. Yn ôl Cyfrifiad 2011, mae gan Ynys Gybi boblogaeth o 13,659 ac roedd 11,431 (84%) o'r boblogaeth yn byw yng Nghaergybi ei hun. |
||
⚫ | [[Ynys]] oddi ar pen gogledd-orllewinol [[Ynys Môn]] yw '''Ynys Gybi''' ([[Saesneg]]: ''Holy Island''). Ei harwynebedd yw tua 464 hectar neu |
||
==Daearyddiaeth== |
==Daearyddiaeth== |
Fersiwn yn ôl 06:49, 30 Mehefin 2018
Ynys oddi ar pen gogledd-orllewinol Ynys Môn yw Ynys Gybi (Saesneg: Holy Island). Ei harwynebedd yw tua 464 hectar neu 15.22 milltir sgwâr. Fe'i henwir ar ôl Sant Cybi, nawddsant Caergybi. Ceir nifer sylweddol o safleoedd hynafol ar yr ynys, yn feini hirion, siambrau claddau a chytiau'r Gwyddelod a safleoedd cysylltiedig â Christnogaeth gynnar ac olion Celtaidd. Yn ôl Cyfrifiad 2011, mae gan Ynys Gybi boblogaeth o 13,659 ac roedd 11,431 (84%) o'r boblogaeth yn byw yng Nghaergybi ei hun.
Daearyddiaeth
Y dref fwyaf ar yr ynys yw Caergybi, sy'n borthladd pwysig ers canrifoedd a lleoliad yr harbwr ar gyfer y llongau fferi i Iwerddon. Mynydd Twr (722') yw bryn uchaf Ynys Gybi a Môn.
Ceir nifer o glogwynni ar hyd yr arfordir gorllewinol gydag ynysoedd bychain fel Ynys Lawd, gyda'i goleudy enwog, ac Ynys Arw. Cafwyd nifer o londdrylliadau dros y blynyddoedd.
Cludiant
Cysylltir Ynys Gybi â thir mawr Môn gan sarnau sy'n dwyn y briffordd A5/A55 a Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru sy'n cysylltu Caergybi â Chaer a Llundain, a phont wreiddiol yr hen ffordd doll (A5). Yn ogystal ceir Pontrhydybont, a groesir gan ffordd 'B' ac sy'n llawer llai.
O Gaergybi mae gwasanaethau fferi ar gael i Dún Laoghaire a Dulyn, yn Iwerddon.
Mae tua 30 milltir o Lwybr Arfordirol Ynys Môn (sy'n 125 milltir o hyd) i'w gael o amgylch Ynys Gybi.