Ynys Gybi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Monsyn (sgwrs | cyfraniadau)
Llwybr yr arfordir
Llinell 13: Llinell 13:
O Gaergybi mae gwasanaethau fferi ar gael i [[Dún Laoghaire]] a [[Dulyn]], yn [[Iwerddon]].
O Gaergybi mae gwasanaethau fferi ar gael i [[Dún Laoghaire]] a [[Dulyn]], yn [[Iwerddon]].


Gorwedd tua 30 milltir o [[Llwybr Arfordirol Ynys Môn]] (125 milltir) ar Ynys Gybi.
Mae tua 30 milltir o [[Llwybr Arfordirol Ynys Môn|Lwybr Arfordirol Ynys Môn]] (sy'n 125 milltir o hyd) i'w gael o amgylch Ynys Gybi.


== Dolenni allanol ==
== Dolenni allanol ==

Fersiwn yn ôl 06:45, 30 Mehefin 2018

Mynydd Twr yw pwynt uchaf Ynys Gybi a Môn

Ynys oddi ar pen gogledd-orllewinol Ynys Môn yw Ynys Gybi (Saesneg: Holy Island). Ei harwynebedd yw tua 464 hectar neu 1.8 milltir sgwar. Fe'i henwir ar ôl Sant Cybi, nawddsant Caergybi. Ceir nifer sylweddol o safleoedd hynafol ar yr ynys, yn feini hirion, siambrau claddau a chytiau'r Gwyddelod a safleoedd cysylltiedig â Christnogaeth gynnar. Yn ôl Cyfrifiad 2001, mae gan Ynys Gybi boblogaeth o 13,579.

Daearyddiaeth

Y dref fwyaf ar yr ynys yw Caergybi, sy'n borthladd pwysig ers canrifoedd a lleoliad yr harbwr ar gyfer y llongau fferi i Iwerddon. Mynydd Twr (722') yw bryn uchaf Ynys Gybi a Môn.

Ceir nifer o glogwynni ar hyd yr arfordir gorllewinol gydag ynysoedd bychain fel Ynys Lawd, gyda'i goleudy enwog, ac Ynys Arw. Cafwyd nifer o londdrylliadau dros y blynyddoedd.

Cludiant

Cysylltir Ynys Gybi â thir mawr Môn gan sarnau sy'n dwyn y briffordd A5/A55 a Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru sy'n cysylltu Caergybi â Chaer a Llundain, a phont wreiddiol yr hen ffordd doll (A5). Yn ogystal ceir Pontrhydybont, a groesir gan ffordd 'B' ac sy'n llawer llai.

O Gaergybi mae gwasanaethau fferi ar gael i Dún Laoghaire a Dulyn, yn Iwerddon.

Mae tua 30 milltir o Lwybr Arfordirol Ynys Môn (sy'n 125 milltir o hyd) i'w gael o amgylch Ynys Gybi.

Dolenni allanol

Eginyn erthygl sydd uchod am Ynys Môn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato