Dindaethwy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B dolen
Llinell 3: Llinell 3:
Gorweddai cwmwd Dindaethwy rhwng [[Afon Menai]] a [[Traeth Lafan]] i'r de a'r [[Traeth Coch]] ar [[Môr Iwerddon|Fôr Iwerddon]] i'r gogledd. Roedd yn cynnwys pwynt de-ddwyreiniol yr ynys, Trwyn Du ym [[Penmon|Mhenmon]], gyferbyn ag [[Ynys Seiriol]]. Ffiniai â chwmwd [[Menai]], ail gwmwd Rhosyr, i'r gorllewin a chwmwd [[Twrcelyn]], cantref [[Cemais (cantref ym Môn)|Cemais]], i'r gogledd.
Gorweddai cwmwd Dindaethwy rhwng [[Afon Menai]] a [[Traeth Lafan]] i'r de a'r [[Traeth Coch]] ar [[Môr Iwerddon|Fôr Iwerddon]] i'r gogledd. Roedd yn cynnwys pwynt de-ddwyreiniol yr ynys, Trwyn Du ym [[Penmon|Mhenmon]], gyferbyn ag [[Ynys Seiriol]]. Ffiniai â chwmwd [[Menai]], ail gwmwd Rhosyr, i'r gorllewin a chwmwd [[Twrcelyn]], cantref [[Cemais (cantref ym Môn)|Cemais]], i'r gogledd.


Roedd gan Dindaethwy lys cymydol yn [[Llan-faes]], canolfan bwysicaf y cwmwd. Yn ddiweddarach yn yr Oesoedd Canol, sefydlodd [[Llywelyn Fawr]] fynachlog yn Llan-faes a chladdwyd ei wraig [[Siwan]] yno. Cyn hynny roedd gan y cwmwd un o ddau [[clas|glas]] pwysicaf yr ynys ym Mhenmon, a drowyd yn briordy yn y [[12fed ganrif]], sef [[Priordy Penmon]].
Roedd gan Dindaethwy lys cymydol yn [[Llan-faes]], canolfan bwysicaf y cwmwd. Yn ddiweddarach yn yr Oesoedd Canol, sefydlodd [[Llywelyn Fawr]] [[Brodordy Llan-faes|fynachlog yn Llan-faes]] a chladdwyd ei wraig [[Siwan]] yno. Cyn hynny roedd gan y cwmwd un o ddau [[clas|glas]] pwysicaf yr ynys ym Mhenmon, a drowyd yn briordy yn y [[12fed ganrif]], sef [[Priordy Penmon]].


Ymhlith canolfannau grym diweddarach y cwmd oedd [[Penmynydd]], plas teuluol [[Tuduriaid Môn]].
Ymhlith canolfannau grym diweddarach y cwmd oedd [[Penmynydd]], plas teuluol [[Tuduriaid Môn]].

Fersiwn yn ôl 16:45, 6 Mehefin 2009

Dindaethwy oedd un o ddau gwmwd cantref Rhosyr, yn ne-ddwyrain Môn.

Gorweddai cwmwd Dindaethwy rhwng Afon Menai a Traeth Lafan i'r de a'r Traeth Coch ar Fôr Iwerddon i'r gogledd. Roedd yn cynnwys pwynt de-ddwyreiniol yr ynys, Trwyn Du ym Mhenmon, gyferbyn ag Ynys Seiriol. Ffiniai â chwmwd Menai, ail gwmwd Rhosyr, i'r gorllewin a chwmwd Twrcelyn, cantref Cemais, i'r gogledd.

Roedd gan Dindaethwy lys cymydol yn Llan-faes, canolfan bwysicaf y cwmwd. Yn ddiweddarach yn yr Oesoedd Canol, sefydlodd Llywelyn Fawr fynachlog yn Llan-faes a chladdwyd ei wraig Siwan yno. Cyn hynny roedd gan y cwmwd un o ddau glas pwysicaf yr ynys ym Mhenmon, a drowyd yn briordy yn y 12fed ganrif, sef Priordy Penmon.

Ymhlith canolfannau grym diweddarach y cwmd oedd Penmynydd, plas teuluol Tuduriaid Môn.

Yr enw

Ystyr yr enw Dindaethwy yw 'Caer y Daethwy' (din 'caer neu amddiffynfa' + Daethwy). Ceir yr amrywiadau Tindaethwy a Tyndaethwy hefyd. Llwyth Celtaidd lleol oedd y Daethwy. Cedwir eu henw yn yr enw lle Porthaethwy yn ogystal. Mae'n bosibl mai amddiffynfa Dinas, plwyf Llandysilio, fu canolfan y llwyth.

Ymddengys fod y gair Dindaethwy yn enw Cynan Dindaethwy, brenin Gwynedd ar ddechrau'r 9fed ganrif, yn deillio o'r ffaith ei fod yn frodor o'r rhan yma o Ynys Môn.

Plwyfi

Ffynonellau

  • A. D. Carr, Medieval Anglesey (Llangefni, 1982)
  • Melville Richards, 'Rhaniadau'r Canol Oesoedd', yn Atlas Môn (Llangefni, 1972)