Cynan Dindaethwy ap Rhodri: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dindaethwy; cat.
Dim crynodeb golygu
Llinell 23: Llinell 23:
[[Category:Marwolaethau 816]]
[[Category:Marwolaethau 816]]


[[br:Konan Dindaethwy]]

[[en:Cynan Dindaethwy ap Rhodri]]
[[en:Cynan Dindaethwy ap Rhodri]]
[[fr:Cynan Dindaethwy ap Rhodri]]
[[fr:Cynan Dindaethwy ap Rhodri]]

Fersiwn yn ôl 12:03, 31 Mai 2009

Yr oedd Cynan Dindaethwy ap Rhodri (bu farw 816) yn frenin Gwynedd.

Yn ôl yr achau, yr oedd Cynan yn fab i Rhodri Molwynog. Bu Rhodri farw yn 754 ac nid oes sôn am Cynan hyd 813, felly awgrymir yn Y Bywgraffiadur Cymreig fod gwall yn yr achau. Daeth Cynan yn frenin Gwynedd ar farwolaeth Caradog ap Meirion, y dywedir ei fod yn gefnder iddo. Bu Cynan yn ymladd a Hywel, ei frawd yn ôl Dr. David Powel, er ei fod yn cael ei alw yn Hywel ap Caradog ambell dro. Yn 814 llwyddodd Hywel i gipio Ynys Môn oddi wrth Cynan. Yn 816 enillodd Cynan yr ynys yn ôl, ond bu farw'r flwyddyn honno.

Mae'r gair Dindaethwy yn ei enw yn gyfeiriad at gwmwd Dindaethwy (Tindaethwy), un o ddau gwmwd cantref Rhosyr, yn ne-ddwyrain Môn. Gorweddai cwmwd Dindaethwy rhwng Afon Menai a Traeth Lafan i'r de a'r Traeth Coch ar Fôr Iwerddon i'r gogledd. Posiblrwydd arall yw mai Castell Dindaethwy a olygir wrth y "Dindaethwy" yn ei enw, a chredir mai caer ar fryn ger Plas Cadnant, Porthaethwy ar Ynys Môn ydoedd. Gellir derbyn yn bur hyderus felly mai brodor o'r rhan yma o Fôn oedd Cynan.

Daeth ei ferch Esyllt yn fam i Merfyn Frych, tad Rhodri Mawr.

Cyfeiriadau

  • Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 (Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion)
O'i flaen :
Caradog ap Meirion
Brenhinoedd Gwynedd Olynydd :
Hywel ap Rhodri Molwynog