Gwennol y Gofod: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
manion |
manion; cat; eginyn |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Math o long ofod ydy '''gwennol y gofod''' (neu '''wennol ofod''') sy'n medru dianc o [[disgyrchiant|ddisgyrchiant]] y Ddaear a dychwelyd yn ôl, fel y wennol ei hun; bathwyd y term Cymraeg gan [[Owain Owain]].<ref>[[http://www.owainowain.net/bathutermau.htm Geiriau a fathwyd yn y Gymraeg]]</ref> Mae nifer o wledydd a sefydliadau, gan gynnwys [[ |
Math o long ofod ydy '''gwennol y gofod''' (neu '''wennol ofod''') sy'n medru dianc o [[disgyrchiant|ddisgyrchiant]] y Ddaear a dychwelyd yn ôl, fel y wennol ei hun; bathwyd y term Cymraeg, am y gair Saesneg ''space shuttle'', gan [[Owain Owain]].<ref>[[http://www.owainowain.net/bathutermau.htm Geiriau a fathwyd yn y Gymraeg]]</ref> Mae nifer o wledydd a sefydliadau, gan gynnwys y [[DU]], yr [[European Space Agency]], [[Gweriniaeth Pobl Tsieina]] a [[Siapan]] wedi cynllunio gwennol ofod, ond yr unig wledydd i lwyddo mewn adeiladu a lansio cerbyd o'r math yw'r [[UDA]] a [[Rwsia]]. |
||
==Gwennol ofod America== |
==Gwennol ofod America== |
||
Llinell 15: | Llinell 15: | ||
==Gweler hefyd== |
==Gweler hefyd== |
||
* [[NASA]] |
* [[NASA]] |
||
* [[Lleuad|Y Lleuad]] |
* [[Lleuad|Y Lleuad]] |
||
⚫ | |||
[[Categori: |
[[Categori:Cerbydau gofod]] |
||
[[Categori:Seryddiaeth| ]] |
|||
⚫ | |||
{{eginyn gwyddoniaeth}} |
|||
[[en:Space shuttle]] |
Fersiwn yn ôl 23:32, 20 Mai 2009
Math o long ofod ydy gwennol y gofod (neu wennol ofod) sy'n medru dianc o ddisgyrchiant y Ddaear a dychwelyd yn ôl, fel y wennol ei hun; bathwyd y term Cymraeg, am y gair Saesneg space shuttle, gan Owain Owain.[1] Mae nifer o wledydd a sefydliadau, gan gynnwys y DU, yr European Space Agency, Gweriniaeth Pobl Tsieina a Siapan wedi cynllunio gwennol ofod, ond yr unig wledydd i lwyddo mewn adeiladu a lansio cerbyd o'r math yw'r UDA a Rwsia.
Gwennol ofod America
Penderfynodd y sefydliad Americanaidd NASA ddylunio'r wennol ofod wedi i "raglen lleuad" Apollo ddod i ben yn 1972. Lansiwyd y wennol ofod gyntaf, Columbia, ar 12 Ebrill 1981, 20 mlynedd i'r diwrnod ar ôl i'r gofodwr cyntaf, Yuri Gagarin, gael ei lansio. Adeiladodd NASA bump o gerbydau: Columbia, Challenger, Discovery, Atlantis, ac Endeavour. Yn ogystal â bod yn gam ymlaen yn nhermau technolegol, bwriadwyd y wennol ofod oedd bod yn fwy economaidd nac unrhyw raglen arall.
Ystyriwyd bod yr hen sustem o rocedi a chapsiwlau gofod (space capsules) yn rhy wastraffus, achos roedd yn angenrheidiol i adeiladu roced a chapsiwl newydd sbon ar gyfer pob perwyl. Yn y dechreuad, y syniad oedd i greu sustem trafnidiaeth hollol wahanol; buasai pob elfen yn cael eu hail-ddefnyddio. Cyn bo hir, fodd bynnag, roedd toriadau cyllidol wedi gorfodi NASA i newid eu cynllun gwreiddiol. Erbyn heddiw, fodd bynnag, mae llawer yn gweld y cynllun fel cam yn ôl achos namau yn y cysyniad. Cafodd Challenger a Columbia eu dinistrio mewn damweiniau marwol yn 1986 a 2003, digwyddiadau a wnaeth orfodi NASA i ystyried dychwelyd i'r hen sustem o gapsiwlau. Bydd y rhaglen Aries yn cyflawni hyn yn y degawd nesaf.
Gwennol ofod Rwsia
Dechreuodd Rwsia gynllunio gwennol ofod yn yr 70au cynnar. Y canlyniad oedd y cerbyd Buran, a lansiwyd (heb griw) yn 1988. Cafodd y cerbyd ei reoli o'r ddaear - y tro cyntaf yr oedd sefydliad wedi llwyddo gwneud hyn gyda gwennol ofod. Achos rhwystrau cyllidol, canslwyd y rhaglen Buran yn 1993 gan Boris Yeltsin a storiwyd y cerbyd, ond wnaeth y cerbyd ddioddef niwed difrifol yn 2002 pan syrthiodd to y storfa. Does yna ddim cynlluniau i adfywio'r rhaglen.