Gwennol y Gofod: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Ynyrhesolaf (sgwrs | cyfraniadau)
B wedi symud Gwennol Ofod i Gwennol y Gofod: y gair safonol
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 23:05, 20 Mai 2009

Math o long ofod ydy gwennol y gofod sy'n medru dianc o ddisgyrchiant y Ddaear a dychwelyd yn ôl, fel y wennol ei hun; bathwyd y term Cymraeg gan Owain Owain.[1] Mae nifer o wledydd a sefydliadau, gan gynnwys Prydain, y European Sapce Agency, Tseina a Siapan wedi cynllunio gwennol ofod, ond yr unig wledydd i lwyddo mewn adeiladu a lansio cerbyd o'r math yw'r UDA a Rwsia.

Gwennol ofod - America

Penderfynodd y sefydliad Americanaidd NASA ddylunio'r wennol ofod wedi i "raglen lleuad" Apollo ddod i ben yn 1972. Lansiwyd y wennol ofod gyntaf, Columbia, ar 12 Ebrill 1981, 20 mlynedd i'r diwrnod ar ôl i'r gofodwr cyntaf, Yuri Gagarin, gael ei lansio. Adeiladodd NASA bump o gerbydau: Columbia, Challenger, Discovery, Atlantis, ac Endeavour. Yn ogystal â bod yn gam ymlaen yn nhermau technolegol, bwriadwyd y wennol ofod oedd bod yn fwy economaidd nac unrhyw raglen arall.

Ystyriwyd bod yr hen sustem o rocedi a chapsiwlau gofod (space capsules) yn rhy wastraffus, achos roedd yn angenrheidiol i adeiladu roced a chapsiwl newydd sbon ar gyfer pob perwyl. Yn y dechreuad, y syniad oedd i greu sustem trafnidiaeth hollol wahanol; buasai pob elfen yn cael eu hail-ddefnyddio. Cyn bo hir, fodd bynnag, roedd toriadau cyllidol wedi gorfodi NASA i newid eu cynllun gwreiddiol. Erbyn heddiw, fodd bynnag, mae llawer yn gweld y cynllun fel cam yn ôl achos namau yn y cysyniad. Cafodd Challenger a Columbia eu dinistrio mewn damweiniau marwol yn 1986 a 2003, digwyddiadau a wnaeth orfodi NASA i ystyried dychwelyd i'r hen sustem o gapsiwlau. Bydd y rhaglen Aries yn cyflawni hyn yn y degawd nesaf.

Gwennol ofod - Rwsia

Wnaeth Rwsia ddechrau cynllunio gwennol ofod yn yr 70au cynnar. Y canlyniad oedd y cerbyd Buran, a lansiwyd (heb griw) yn 1988. Cafodd y cerbyd ei reoli o'r ddaear - y tro cyntaf yr oedd sefydliad wedi llwyddo gwneud hyn gyda gwennol ofod. Achos rhwystrau cyllidol, canslwyd y rhaglen Buran yn 1993 gan Boris Yeltsin a storiwyd y cerbyd, ond wnaeth y cerbyd ddioddef niwed difrifol yn 2002 pan syrthiodd to y storfa. Does yna ddim cynlluniau i adfywio'r rhaglen.

Cyfeiriadau

Gweler hefyd

Eginyn erthygl sydd uchod am seryddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.