Tsunami: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B →top: clean up |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Delwedd:2004-tsunami.jpg|300px|de|bawd|Tsunami 2004 yng [[Gwlad |
[[Delwedd:2004-tsunami.jpg|300px|de|bawd|Tsunami 2004 yng [[Gwlad Tai|Ngwlad Tai]]]] |
||
[[Delwedd:SH-60B helicopter flies over Sendai.jpg|bawd|300px|[[Daeargryn a tsunami Sendai 2011]]; awyrlun o'r difrod yn ardal [[Sendai]], gyda mwg du'n codi o safle puro olew Nippon |
[[Delwedd:SH-60B helicopter flies over Sendai.jpg|bawd|300px|[[Daeargryn a tsunami Sendai 2011]]; awyrlun o'r difrod yn ardal [[Sendai]], gyda mwg du'n codi o safle puro olew Nippon]] |
||
[[Delwedd:Simulación Tsunami.ogv|bawd|300px|Ffuglun 3D o tsunami.]] |
[[Delwedd:Simulación Tsunami.ogv|bawd|300px|Ffuglun 3D o tsunami.]] |
||
:''Gofal! Erthygl am ffenomenon daearyddol, morol yw hon; am y band cerdd, gweler [[Sŵnami]].'' |
:''Gofal! Erthygl am ffenomenon daearyddol, morol yw hon; am y band cerdd, gweler [[Sŵnami]].'' |
Fersiwn yn ôl 16:11, 14 Mehefin 2018
- Gofal! Erthygl am ffenomenon daearyddol, morol yw hon; am y band cerdd, gweler Sŵnami.
Ton neu nifer o donnau anferthol yw tsunami neu swnami (o'r 津波 Siapaneg 'ton fawr mewn porthladd'; ynganiad: swnami). Fel arfer, mae tsunami yn cael ei chreu yn dilyn symudiadau sydyn e.e. daeargryn, ffrwydriad llosgfynydd ar waelod y môr, ffrwydriad bom atomig, neu wedi i awyrfaen ddisgyn i'r môr.[1] Mae'n bosib mai un o'r tsunamis mwyaf creulon a fu erioed, o fewn cof bodau dynol, oedd hwnnw daeargryn a tsunami Sendai 2011 a laddodd tua 230,000 o bobl mewn 14 o wledydd oedd a'u harfordir ar Gefnfor India.
Mae ynni Tsunami yn gyson ac yn penderfynu uchder a chyflymder y tonnau. Felly mae uchder y don yn tyfu pryd mae hi'n dod i le mwy bas ger y tir ac mae ei chyflymder yn arafu. Tra bod y don yn symud ar wyneb y môr mae hi'n isel, yn gyflym ac o donfedd hir, ac felly mae'n anodd sylwi arni, ond mewn bae neu le arall cul a bas mae'n bosibl iddi fod yn fwy nag 30m uchder ac iddi achosi niwed erchyll.
Mae systemau rhybudd gan nifer o drefi ar lan y Môr Tawel (yn bennaf yn Siapan ac yn Hawaii) ac mae Sefydliadau Seismoleg a lloerennau yn gwylio a rhagfynegi Tsunami.
Nid ydynt yn debyg i lif tonnau tanfor o gwbwl, nac ychwaith yn debyg i donnau a greir ar wyneb y dŵr gan wynt. Y rheswm am hyn yw bod ei tonfedd yn hirach.[2] Yn hytrach nag ymddangos fel ton sy'n torri, ymddengys (ar y dechrau) yn debygach i ymchwydd sydyn y llanw. Oherwydd hyn, arferid eu galw gan leygwyr yn 'donnau-llanw'. Fel arfer ceir mwy nag un don, mewn cyfres, gyda rhai munudau neu weithiau oriau rhwng pob ton.[3] Gall cuhder y tonnau hyn fod yn ddegau o fetrau. Mae prif impact y don, fel arfer, ar yr arfordiroedd, dan wyneb y môr gallant hefyd gael gryn effaith ar wely'r mô.
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
- ↑ "Deep Ocean Tsunami Waves off the Sri Lankan Coast". Cyrchwyd 3 Tachwedd 2016.
- ↑ "NASA Finds Japan Tsunami Waves Merged, Doubling Power". Cyrchwyd 3 Tachwedd 2016.
- ↑ Fradin, Judith Bloom and Dennis Brindell (2008). Witness to Disaster: Tsunamis. Witness to Disaster. Washington, D.C.: National Geographic Society. tt. 42, 43.