Jalalabad: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B newid hen enw, replaced: Kyrgyzstan → Cirgistan using AWB
Dim crynodeb golygu
Llinell 3: Llinell 3:
:''Am y ddinas yn Azerbaijan, gweler [[Jalilabad]].''
:''Am y ddinas yn Azerbaijan, gweler [[Jalilabad]].''


Mae '''Jalālābād''' ([[Pashto]]/[[Perseg]]: '''جلال آباد''') yn ddinas yn nwyrain [[Affganistan]]. Fe'i lleolir 1,814 troedfedd uwch lefel y môr ger cyflifiad [[afon Kabul]] ac [[afon Kunar]], ac mae'n brifddinas talaith [[Nangarhar]]. Mae priffordd yn ei chysylltu â [[Kabul]], prifddinas y wlad, 90 milltir i'r gorllewin, a gyda dinas [[Peshawar]] ym [[Pakistan|Mhacistan]], tua'r un pellter i'r dwyrain dros [[Bwlch Khyber|Fwlch Khyber]]. Mae gan Jalalabad boblogaeth o tua 96,000 o bobl (amcangyfrifiad 2002).
Mae '''Jalālābād''' ([[Pashto]]/[[Perseg]]: '''جلال آباد''') yn ddinas yn nwyrain [[Affganistan]]. Fe'i lleolir 1,814 troedfedd uwch lefel y môr ger cyflifiad [[afon Kabul]] ac [[afon Kunar]], ac mae'n brifddinas talaith [[Nangarhar]]. Mae priffordd yn ei chysylltu â [[Kabul]], prifddinas y wlad, 90 milltir i'r gorllewin, a gyda dinas [[Peshawar]] ym [[Pacistan|Mhacistan]], tua'r un pellter i'r dwyrain dros [[Bwlch Khyber|Fwlch Khyber]]. Mae gan Jalalabad boblogaeth o tua 96,000 o bobl (amcangyfrifiad 2002).


== Hanes ==
== Hanes ==

Fersiwn yn ôl 16:47, 13 Mehefin 2018

Golygfa ger Jalalabad
Am y ddinas yn Cirgistan, gweler Jalal-Abad.
Am y ddinas yn Azerbaijan, gweler Jalilabad.

Mae Jalālābād (Pashto/Perseg: جلال آباد) yn ddinas yn nwyrain Affganistan. Fe'i lleolir 1,814 troedfedd uwch lefel y môr ger cyflifiad afon Kabul ac afon Kunar, ac mae'n brifddinas talaith Nangarhar. Mae priffordd yn ei chysylltu â Kabul, prifddinas y wlad, 90 milltir i'r gorllewin, a gyda dinas Peshawar ym Mhacistan, tua'r un pellter i'r dwyrain dros Fwlch Khyber. Mae gan Jalalabad boblogaeth o tua 96,000 o bobl (amcangyfrifiad 2002).

Hanes

Yn 630 OC, cyrhaeddodd Xuan Zang, mynach Bwdhaidd a theithiwr enwog o Tsieina, Jalalabad gan tybied ei fod wedi cyrraedd Hindwstan. Sefydlwyd y ddinas bresennol yn 1570 gan Jalal-uddin Mohammad Akbar, trydydd ymerawdwr yr Ymerodraeth Foghul. Roedd yn arosfa pwysig ar yr hen lwybr masnach rhwng Canolbarth Asia ac is-gyfandir India.

Cipiwyd y ddinas a'i hanrheithio gan Dost Muhammad yn 1834. Cafodd ei feddianu gan luoedd Prydeinig yn Rhyfel Cyntaf Affganistan (1839-1843), dan arweiniad y Cadfridog Robert Sale. Fe'i daliwyd gan Sale a garsiwn bychan yn erbyn ymosodiadau gan filwyr Muhammad Akbar Khan. Fe'i meddianwyd gan filwyr Prydeinig unwaith yn rhagor yn Ail Ryfel Affganistan (1879-1880) a chodwyd caer yno.[1]

Cafodd Seraj-ul-Emarat, palas brenhinol Amir Habibullah Khan a'r Brenin Amanullah Khan, ei ddinistrio yn 1929. Gyferbyn ceir beddrod y ddau.

Ar hyn o bryd mae corfflu Americanaidd yn Jalalabad.

Cyfeiriadau

  1. Imperial Gazeteer of India: Afhganistan and Nepal (Calcutta, 1908; adargraffiad, Delhi Newydd, 1989)

Dolenni allanol