Bengal: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B →top: clean up |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 5: | Llinell 5: | ||
[[Bengaleg]] yw iaith Bengal a cheir llenyddiaeth gyfoethog yn perthyn iddi. |
[[Bengaleg]] yw iaith Bengal a cheir llenyddiaeth gyfoethog yn perthyn iddi. |
||
O ran [[crefydd]], [[Hindwiaid]] yn bennaf a geir yn y gorllewin tra bod bron pawb ym Mangladesh yn ddilynwyr [[Islam]]. Roedd y rhaniad yn bod ers canrifoedd, ond fe ddyfnheuwyd pan ymranwyd yr hen dalaith yn ddwy ran yn [[1947]], gyda'r gorllewin yn aros yn India a'r dwyrain, dan yr enw Dwyrain Pacistan, yn mynd yn rhan o'r [[ |
O ran [[crefydd]], [[Hindwiaid]] yn bennaf a geir yn y gorllewin tra bod bron pawb ym Mangladesh yn ddilynwyr [[Islam]]. Roedd y rhaniad yn bod ers canrifoedd, ond fe ddyfnheuwyd pan ymranwyd yr hen dalaith yn ddwy ran yn [[1947]], gyda'r gorllewin yn aros yn India a'r dwyrain, dan yr enw Dwyrain Pacistan, yn mynd yn rhan o'r [[Pacistan|wlad newydd honno]]. |
||
{{eginyn Asia}} |
{{eginyn Asia}} |
Fersiwn yn ôl 16:44, 13 Mehefin 2018
Rhanbarth yn is-gyfandir India yn ne Asia yw Bengal. Mae'n ymestyn rhwng Bangladesh yn y dwyrain a thalaith Gorllewin Bengal yn y gorllewin, yn India.
Gorwedd Bengal ar lan Bae Bengal yng ngogledd-ddwyrain yr is-gyfandir. Y prif afonydd yw Afon Ganges ac Afon Brahmaputra sy'n ffurfio aberoedd anferth, gyda'r gyntaf gyntaf yn gorwedd yn India a'r ail yn llifo trwy Fangladesh trwy gwastadir gorlif eang a ffrwythlon.
Bengaleg yw iaith Bengal a cheir llenyddiaeth gyfoethog yn perthyn iddi.
O ran crefydd, Hindwiaid yn bennaf a geir yn y gorllewin tra bod bron pawb ym Mangladesh yn ddilynwyr Islam. Roedd y rhaniad yn bod ers canrifoedd, ond fe ddyfnheuwyd pan ymranwyd yr hen dalaith yn ddwy ran yn 1947, gyda'r gorllewin yn aros yn India a'r dwyrain, dan yr enw Dwyrain Pacistan, yn mynd yn rhan o'r wlad newydd honno.