Cymathiad: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
SieBot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: mk:Едначење по звучност |
B robot yn newid: ko:동화 (언어학) |
||
Llinell 27: | Llinell 27: | ||
[[it:Assimilazione linguistica]] |
[[it:Assimilazione linguistica]] |
||
[[ja:同化 (音声学)]] |
[[ja:同化 (音声学)]] |
||
[[ko: |
[[ko:동화 (언어학)]] |
||
[[li:Assimilatie (taolkunde)]] |
[[li:Assimilatie (taolkunde)]] |
||
[[lt:Asimiliacija (kalbotyra)]] |
[[lt:Asimiliacija (kalbotyra)]] |
Fersiwn yn ôl 14:06, 18 Mai 2009
Math o gyfnewid seinegol lle mae sain yn newid i fod yn debycach i sain arall yn ei gyd-destun yw cymathiad.
Gelwir cymathiad lle mae sain yn dylanwadu ar sain ddilynol yn gymathiad blaen. Enghraifft o gymathiad blaen yn y Gymraeg yw simme a glywir ar lafar yn y gorllewin am simne. Yma mae'r m wedi troi'r n sy'n ei dilyn yn m hefyd.
Gelwir cymathiad lle mae sain yn dylanwadu ar sain flaenorol yn gymathiad ôl. Enghraifft o gymathiad ôl yn y Gymraeg yw tac-cu, a glywir yn aml am tad-cu yn y de. Yma mae'r c yn y cu wedi troi'r d ar ddiwedd tad yn c; mae hwn yn gymathiad llwyr. Mae campunt, a glywir yn gyffredin ar lafar am canpunt, yn enghraifft o gymathiad ôl rhannol. Yma mae'r p yn punt wedi dylanwadu ar y llythyren n flaenorol a'i thynnu yn nes at ei sain ei hun, drwy ei throi yn m. Enghraifft o gymathiad ôl sy'n effeithio ar lafariaid yw bwgwth am bygwth.