Mabinogi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
YurikBot (sgwrs | cyfraniadau) B robot Adding: br:Mabinogi |
YurikBot (sgwrs | cyfraniadau) B robot Adding: pt:Mabinogion |
||
Llinell 48: | Llinell 48: | ||
[[nl:Mabinogion]] |
[[nl:Mabinogion]] |
||
[[pl:Mabinogion]] |
[[pl:Mabinogion]] |
||
[[pt:Mabinogion]] |
|||
[[sv:Mabinogion]] |
[[sv:Mabinogion]] |
||
[[zh:马比诺吉昂]] |
[[zh:马比诺吉昂]] |
Fersiwn yn ôl 15:52, 1 Awst 2006
Casgliad o bedair stori yn seiliedig ar y traddodiad llafar Cymreig yw'r Mabinogi. Oherwydd i'r Arglwyddes Charlotte Guest gamddeall y gair 'mabynogyon' yn un o'r llawysgrif fe ddefnyddir y gair Mabinogion ers iddi hi gyhoeddi ei chyfieithiad Saesneg o Bedair Cainc y Mabinogi ond hefyd am nifer eraill o chwedlau llafar sydd yn rhannol a rhyw sylfaen hanesyddol o'r canol oesoedd iddyn nhw ond hefyd mae elfennau cynharach yn perthyn iddynt hefyd.
Gwnaed y ffilm cartŵn Y Mabinogi (90 munud; cyfarwyddwr: Derec Hayes) ym 2002.
Gwelir y chwedlau mewn dwy lawysgrif canoloesoedd, sef Llyfr Gwyn Rhydderch a ysgrifenwyd rywbryd rhwng 1300 - 1325 Oed Crist, a Llyfr Coch Hergest a ysgrifenwyd rywbryd rhwng 1375 a 1425.
Pedair Cainc y Mabinogi yw:
Cyfieithodd a chyhoeddodd yr Aglwyddes Guest saith chwedl arall yn ei chasglaid. Mae pedair chwedl yn adradd deunydd o chwedloniaeth a thraddodiad Cymreig, sef:
- Breuddwyd Macsen Wledig
- Llud a Llefelys
- Culhwch ac Olwen
- Breuddwyd Rhonabwy
Gan fod Culhwch ac Olwen a Breuddwyd Rhonabwy wedi cadw olion henach am Y Brenin Arthur mae'r storiau hyn o ddiddordeb arbennig i ysgolheigion. Mae Breuddwyd Macsen Wledig yn adrodd hanes yr Ymerawdwr Rhufeinig Magnus Maximus.
Mae tair stori yn chwedlau arthuraidd sydd yng ngwaith Chrétien de Troyes hefyd. erbyn hyn cred ysgolheigion bod y ddau gasgliad yn annibynnol are ei gilydd ond yn seiliedig ar waith hŷn.
- Iarlles y Fynnon
- Peredur fab Efrawg
- Geraint ap Erbin
Cynhwysir hefyd gan yr Arglwyddes Guest ond na chynhwysir mewn argraffiadau dilynol wythfed chwedl nad oedd yn y Llyfr Gwyn na'r Llyfr Coch, sef