Bawd Bach: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
VolkovBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: ca:Polzet
SieBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn newid: nl:Klein Duimpje
Llinell 22: Llinell 22:
[[fr:Le Petit Poucet]]
[[fr:Le Petit Poucet]]
[[it:Pollicino]]
[[it:Pollicino]]
[[nl:Kleinduimpje]]
[[nl:Klein Duimpje]]
[[pt:O Pequeno Polegar]]
[[pt:O Pequeno Polegar]]
[[sv:Tummeliten]]
[[sv:Tummeliten]]

Fersiwn yn ôl 00:38, 18 Mai 2009

Bawd Fach: darlun gan Gustave Doré, 1867

Chwedl werin ac arwr y chwedl honno, a gyhoeddwyd wrth y teitl Le Petit Poucet gan Charles Perrault yn y gyfrol Les Contes de ma mère l'Oye, yn 1697 yw Bawd Bach (Ffrangeg Petit Poucet; Saesneg Tom Thumb).

Yn y chwedl mae'r wlad yn dioddef tlodi a newyn ofnadwy (adlewyrchiad o'r byd go iawn yng nghefn gwlad Ffrainc sawl gwaith yn yr 17eg ganrif, fu'n gyfnod o aeafau caled). Mae coediwr a'i wraig heb ddim byd i fwydo ei saith fab. Un noswaith, yn nyfnder eu hanobaith, maent yn penderfynu gadael y plant yn y goedwig. Yn ffodus, mae'r mab ieuengaf, a lysenwir Bawd Fach am ei fod mor fychan, yn eu clywed yn trafod hyn. Mae'n cymryd cerrig bach gwyn yn ei boced fel y gall ef a'i frodyr ailddarganfod eu llwybr. Yn y bore mae'r tad a'r fam yn ceisio gweithredu'r cynllyn trist. Ond mae Bawd Bach a'i frodyr yn cael eu ffordd yn ôl adref diolch i'w ystryw. Mae'r rhieni wrth eu bodd, wedi edifarhau o'u gweithred, gan fod pennaeth y pentref wedi talu ei ddyledion iddynt a bod ganddynt rwan fodd cynhaliaeth.

Ond mae'r arian yn rhedeg allan ac mae'r rhieni yn penderfynu gadael y palnt yn y goedwig unwaith eto. Maent yn cau'r Bawd Bach i fyny fel na all adael cerrig ar y llwybr ac mae'r plant yn cael eu hunain ar goll yn y goedwig fawr. Crwydrant a dod i fwthyn a gofyn i aros yno. Ond mae'r wraig sy'n byw yno yn ceisio eu perswadio i fynd oddi yno am fod ei ŵr yn ellyll sy'n bwyta plant. Gwell gan y brodyr, sydd ar fin llwgu, siawnsio hynny nac aros yn y goedwig i newynu. Gyda'r nos mae'r wraig yn eu cuddio mewn gwely ond daw'r ellyll i mewn a'u darganfod. Y cwbl mae'r wraig yn medru wneud ydy perswadio'r ellyll i aros tan fory cyn eu bwyta. Yn y nod mae Bawd Bach yn cyfnewid capiau cysgu y brodyr am daleithiau aur saith ferch yr ellyll rhag ofn iddo geisio eu bwyta yn eu cwsg. Daw'r ellyll i mewn a bwyta'r saith ferch gan gredu ei fod yn bwyta'r brodyr. Dihangant wrth i'r ellyll wledda ar ei blant ei hun. Rhed ar eu holau, gan wisgo ei esgid uchel. Wedi blino ar ôl rhedeg, mae'n eistedd ar garreg y mae'r palnt yn cuddio o dan hi. Mae'r Bawd Bach yn perswadio ei frodyr i ddianc adref tra ei fod yn dwyn y sgidiau uchel ac yn rhedeg i fwthyn yr ellyll. Mae'n dweud wrth y wraig fod herwyr y coed wedi dal ei ŵr ac yn gofyn ransom amdano; esbonia fod yr ellyll wedi rhoi benthyg ei sgidiau iddo iddo allu gyrraedd yn fuan. Mae'r wraig yn ei gredu ac yn rhoi'r trysor iddo ac aiff y Bawd Bach adre gyda'r cyfoeth, er mawr lawenydd ei frodyr a'i rieni.

Ffilm a ffuglen

Mae stori'r Bawd Bach wedi cael ei gyfieithu neu ei haddasu i sawl iaith. Yn Ffrangeg, ceir dwy ffilm i'r enw Le Petit Poucet.

Dolenni allanol