Iapetws (lloeren): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Thijs!bot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot Modifying: af:Iapetus
B robot yn ychwanegu: vi:Iapetus (vệ tinh) yn newid: tr:Iapetus (uydu)
Llinell 52: Llinell 52:
[[sl:Japet (luna)]]
[[sl:Japet (luna)]]
[[sv:Japetus]]
[[sv:Japetus]]
[[tr:Iapetus]]
[[tr:Iapetus (uydu)]]
[[uk:Япет (супутник)]]
[[uk:Япет (супутник)]]
[[vi:Iapetus (vệ tinh)]]
[[zh:土卫八]]
[[zh:土卫八]]

Fersiwn yn ôl 14:12, 16 Mai 2009

Iapetws

Iapetws yw'r ail ar bymtheg o loerennau Sadwrn a wyddys:

Cylchdro: 3,561,300 km oddi wrth Sadwrn

Tryfesur: 1460 km

Cynhwysedd: 1.88e21 kg

Titan oedd Iapetws ym mytholeg Roeg, mab Wranws a thad Prometheus ac Atlas. Darganfuwyd y lloeren gan Cassini ym 1671. Gyda'i dwysedd o ddim ond 1.1 mae'n rhaid fod Iapetws wedi ei chyfansoddi bron yn gyfangwbl gan iâ dŵr.

Mae hemisfferau arweiniol a llusgol Iapetws yn wahanol iawn. Mae albedo'r rhan fwyaf o'i hemisffer arweiniol yn .04, bron yn ddu, ond mae albedo'r hemisffer llusgol yn .6, mor ddisglair ag Ewropa. Mae hemisffer arweiniol Iapetws wedi ei orchuddio gan ryw ddeunydd tywyll sydd yn gymharol ifanc. Ar y ffin rhwng y ddau hemisffer gellir gweld craterau lle ma un ochr wedi ei gorchuddio ond gweddill y crater yn rhydd.

Mae gan Iapetws grib sydd yn 13 km yn uwch na'r tir o'i amgylch ac sydd yn ymestyn tua 1300 km, bron yn gyfochrog â chyhydedd y lloeren.

Ac eithrio Iapetws a Phoebe mae lloerennau Sadwrn i gyd yn cylchio o fewn plaen cyhydedd Sadwrn. Mae Iapetws yn gogwyddo bron yn 15 gradd.