Rhisga: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot yn ychwanegu: it:Risca, pt:Mineral#Traço (ou risca)
interwikifix
Llinell 20: Llinell 20:


[[en:Risca]]
[[en:Risca]]
[[it:Risca]]
[[pt:Mineral#Traço (ou risca)]]

Fersiwn yn ôl 21:05, 14 Mai 2009

Rhisga
Caerffili

Tref ger Cwmbrân a Chasnewydd, ym mwrdeistref sirol Caerffili, yw Rhisga (Risca yn Saesneg).

Mae'n gorwedd ar ochr dde-ddwyreiniol Maes Glo De Cymru ac roedd pwll glo yn y dref ar un adeg. Er ei bod yn un o drefi mwyaf y fwrdeistref sirol, mae ar ddechrau'r Cymoedd ac mae mynyddoedd gwyrdd o'i chwmpas. Mae mynyddoedd llawn coedwigoedd, gan gynnwys Mynydd Machen (1,188 troedfedd / 362m) a Thwmbarlwm i'r dwyrain (1,375 troedfedd / 419m).

Delwedd:Rhisga.jpg
Tai teras yn Rhisga

Mae côr meibion llwyddiannus yn y dref a nifer o lwybrau cyhoeddus, gan gynnwys y rhai sy'n mynd ar hyd y gamlas a thros y mynydd. Lleolir amgueddfa ddiwydiannol fach yn y dref a chlwb rygbi hefyd.

Roedd tafarn y "Welsh Oak" ar ochrau deheuol pentref Pont-y-Meistr, sydd bellach yn cael ei ystyried fel rhan o dref Rhisga, yn ymgullfan i'r Siartwyr, cyn iddynt orymdeithio i Gasnewydd.