Wicipedia:Y Caffi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
GerardM (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 314: Llinell 314:
*Currently 96.17% of the MediaWiki messages and 16.26% of the messages of the extensions used by the Wikimedia Foundation projects have been localised. Please help us help your language by localising and proof reading at [[betawiki:Special:LanguageStats/{{CONTENTLANGUAGE}}|Betawiki]]. This is the [http://translatewiki.net/w/i.php?title=Special:RecentChanges&translations=only&trailer=/{{CONTENTLANGUAGE}} recent localisation activity] for your language. Thanks, [[Defnyddiwr:GerardM|GerardM]] 08:56, 25 Mawrth 2009 (UTC)
*Currently 96.17% of the MediaWiki messages and 16.26% of the messages of the extensions used by the Wikimedia Foundation projects have been localised. Please help us help your language by localising and proof reading at [[betawiki:Special:LanguageStats/{{CONTENTLANGUAGE}}|Betawiki]]. This is the [http://translatewiki.net/w/i.php?title=Special:RecentChanges&translations=only&trailer=/{{CONTENTLANGUAGE}} recent localisation activity] for your language. Thanks, [[Defnyddiwr:GerardM|GerardM]] 08:56, 25 Mawrth 2009 (UTC)
*Currently 96.00% of the MediaWiki messages and 15.04% of the messages of the extensions used by the Wikimedia Foundation projects have been localised. Please help us help your language by localising and proof reading at [[betawiki:Special:LanguageStats/{{CONTENTLANGUAGE}}|Betawiki]]. This is the [http://translatewiki.net/w/i.php?title=Special:RecentChanges&translations=only&trailer=/{{CONTENTLANGUAGE}} recent localisation activity] for your language. Thanks, [[Defnyddiwr:GerardM|GerardM]] 10:21, 12 Ebrill 2009 (UTC)
*Currently 96.00% of the MediaWiki messages and 15.04% of the messages of the extensions used by the Wikimedia Foundation projects have been localised. Please help us help your language by localising and proof reading at [[betawiki:Special:LanguageStats/{{CONTENTLANGUAGE}}|Betawiki]]. This is the [http://translatewiki.net/w/i.php?title=Special:RecentChanges&translations=only&trailer=/{{CONTENTLANGUAGE}} recent localisation activity] for your language. Thanks, [[Defnyddiwr:GerardM|GerardM]] 10:21, 12 Ebrill 2009 (UTC)
*Currently 97.00% of the MediaWiki messages and 21.91% of the messages of the extensions used by the Wikimedia Foundation projects have been localised. Please help us help your language by localising and proof reading at [[betawiki:Special:LanguageStats/{{CONTENTLANGUAGE}}|Betawiki]]. This is the [http://translatewiki.net/w/i.php?title=Special:RecentChanges&translations=only&trailer=/{{CONTENTLANGUAGE}} recent localisation activity] for your language. Thanks, [[Defnyddiwr:GerardM|GerardM]] 17:11, 9 Mai 2009 (UTC)


== Carwn gynnig Alan yn Fiwrocrat ==
== Carwn gynnig Alan yn Fiwrocrat ==

Fersiwn yn ôl 17:11, 9 Mai 2009

Coffi
Coffi

Croeso i Gaffi y Wicipedia Cymraeg. Dyma dudalen i chi ofyn cwestiynau ynglŷn â Wicipedia, yn Gymraeg neu Saesneg, a bydd rhywun yn trio rhoi ateb i chi. Os yw'r cwestiwn yn un ieithyddol, ewch â hi draw i Wicipedia:Cymorth iaith os gwelwch yn dda.

I ychwanegu cwestiwn, cliciwch yma i ddechrau pennawd newydd, a teipiwch eich neges. Cofiwch lofnodi'r neges drwy ychwanegu pedair tilde (~~~~) ar y diwedd, os gwelwch yn dda.

Welcome to Welsh Wikipedia's Cafe. This is a page for you to ask questions about Wikipedia, in Welsh or English, and someone will try to answer you. If you need help on Welsh language usage, please ask in Wicipedia:Cymorth iaith. See also the learners' corner.

To pose a question, click here to start a new section, and type your message. Remember to sign your message with four tildes (~~~~) at the end, please.

Archifau'r Caffi __ ak:Wikipedia:Community Portal

25,000 erthygl: Trafodaeth

Y ddolen i'r drafodaeth am hyn yw: Wicipedia:Y Caffi/25,000 erthygl. PWYSIG: Cyfranwch yno yn hytrach nag ar brif dudalen y Caffi, os gwelwch yn dda. Anatiomaros 17:23, 5 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]

Betawiki update

Uwchlwytho

Rydym wrthi'n trafod derbyn polisi gosod lluniau a ffeiliau eraill ar Wicipedia (gweler 'copyright' uchod). Rwyn credu y byddai'n beth call i ni drafod y gwaith arall sydd ynghlwm wrth y polisi hwn rhag ofn i ni bendefynu ar bolisi na allwn ei gweithredu! Hyd y gwelaf y gwaith hwn yw:

  • Ysgrifennu tudalennau cymorth ar gyfer y defnyddwyr sydd am uwchlwytho ac ar gyfer y rhai fydd yn gweinyddu'r drefn uwchlwytho
  • Cynllunio trefn ar gyfer y rhai fydd yn gorfodi'r polisi.
  • Cysylltu â Sefydliad Wikimedia ynglŷn â'r polisi ac ynglŷn â'r drefn cofnodi caniatad oddi wrth deilwyr hawlfraint.
  • Gorffen creu'r trwyddedi a'r nodiadau i hysbysu uwchlwythwyr.
  • Gorffen dylunio'r ffurflen uwchlwytho. Mae angen tipyn o wybodaeth ynglŷn â'r math arbennig o nodiadau sy'n cael eu defnyddio yma - mwy nag wyf wedi gallu deall ers dechrau straffaglu gyda hwn. Oes rhywun wedi gallu deall sut mae cael input box newydd i ymddangos ar ôl clicio ar un o'r trwyddedi cyfyngedig?
  • Gwneud y gwaith o orfodi'r polisi gyda'r ffeiliau sy'n cael eu huwchlwytho o hyn ymlaen.
  • Mynd trwy'r holl ffeiliau sydd eisoes wedi eu huwchlwytho i orfodi'r polisi ar y rhain.

Cyn i'r gwaith trafod ar y polisi ddod i ben byddai'n dda cael syniad o pwy fydd yn gweithio ar hyn oll. Byddaf fi yn sicr ddim ar gael i wneud unrhyw waith ar orfodi'r polisi o ddydd i ddydd. Rwyn gobeithio gallu helpu gyda'r tudalennau cymorth a'r ffurflen uwchlwytho, os byth y dof i'w ddeall!

Uwchlwytho ffeiliau rhydd

Ar y wikipedia Ffrangeg nid ydynt yn caniatau uwchlwytho ffeiliau â thrwyddedi rhydd iddynt, y gallent gael eu huwchlwytho ar Gomin Wikimedia. Mantais uwchlwytho ar y Comin yw bod holl brosiectau Wikimedia yn gallu defnyddio ffeil. Ar yr un pryd, gwirfoddolwyr y Comin fyddai'n sicrhau bod y lluniau hynny'n dilyn y polisi ar y Comin sydd felly'n llai o waith i wirfoddolwyr Wicipedia Cymraeg. Beth am ddilyn esiampl y Ffrancwyr? Lloffiwr 22:25, 13 Hydref 2008 (UTC)[ateb]

Mae'n ddrwg gen i fod mor hir cyn ymateb i hyn, Lloffiwr, ond rhywsut dwi wedi anghofio bob tro ar ôl logio i mewn a dechrau sgwennu. Yr anhawster mawr gyda'r awgrym am ddilyn esiampl y francophones ydy bod nifer fawr o'n delweddau ni o leoedd yng Nghymru yn dod o Geograph, sy'n ffynhonnell werthfawr iawn. Hoffwn i ddim gweld y delweddau hynny yn diflannu (gellid ychwanegu llawer mwy ohonyn nhw hefyd). Yn ail, dwi'n gwybod o brofiad fod Comin yn gwrthod delweddau eraill am resymau "technegol" er eu bod yn cael eu derbyn ar en: a wicis eraill, a buasai hynny yn effeithio efallai ar rai o'n lluniau yma (lluniau o gloriau a wynebddalennau hen lyfrau Cymraeg efallai; lluniau gan y Llyfrgell Genedlaethol yn sicr). Yn drydydd, mae'r broses o uwchlwytho lluniau i Gomin yn gymhleth ac yn debyg o rwystro nifer o gyfranwyr achlysurol rhag gwneud hynny; colled arall i ni. Mewn gair, dwi'n meddwl bod yr anfanteision yn pwyso'n drymach o lawer yn y fantol na'r manteision, er bod y syniad o gael llai o waith gweinyddol yn ddeniadol, wrth gwrs. Anatiomaros 17:16, 24 Hydref 2008 (UTC)[ateb]

Dod yn weinyddiwr?

S'mae? Rwyf just am ofyn os yr wyf yn gallu ddod yn weinyddwr Wicipedia Cymraeg? Rwyf ond wedi sylwi ar y rhestr gweinyddwyr ac mae pawb yr wyf wedi siarad a hwy dros y rhwydwaith yn weinyddwr (fi'n teimlo ychydig yn left out!!!) Rwyf yn golygu tudalennau ac yn defnyddio wicipedia yn aml iawn erbyn hyn ac am wybod os yr wyf yn amodi fod yn weinyddiwr? Rwyf yn astudio Cemeg, Ffiseg, Daearyddiaeth a Mathemateg trwy gyfrwng y Gymraeg felly mae gen i lawer i gyfrannu ac ar yr un pryd bydd hyn yn fy helpu gyda fy ngwaith astudio. Rwyf hefyd wedi sylwi nid oes yna cymaint o dudalennau yn y meysydd yma ( Gwyddoniaeth, mathemateg..a.y.y.b) nag sydd o erthyglau llenyddiaeth a diwylliant. Rwyf wedi dysgu llawer o sgiliau golygu wicipedia dros y flwyddyn dwethaf ac felly wrth cael pwerau weinyddiwr, gallai helpu tacluso tudalenau newydd ac helpu atal pobl camdefnyddio'r rhwydwaith.

Diolch --Rhys 11:15, 14 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]

Atebaf i achos bod rhaid i rywun gychwyn... Dwi'n barod i'w gefnogi. Dwi'n meddwl bod y pwerau weinyddiwr yn llai bwysig nag yw Rhys yn credu efallai (e.e. ceir dacluso tudalennau newydd hebddyn nhw), ond 'dwi'n hyderus na fasai e'n eu camddefnyddio. Alan 08:50, 16 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]
Does gen i ddim gwrthwynebiad. Y cwbl mae bod yn weinyddwr yn ei olygu yw medru gwneud rhai tasgau, megis blocio fandaliaid, ac mewn ffordd, gorau po fwyaf o weinyddwyr. Rhion 12:19, 16 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]
Ymddiheuraf am fod cyhyd cyn ymateb, ond dwi wedi bod yn brysur, llai o amser nag arfer ar gyfer y Wici. Does gen i ddim gwrthwynebiad o gwbl; y pwynt roeddwn i'n wneud yn fy ateb i neges Rhys ar fy nhudalen Sgwrs oedd fod angen canllaw(iau) o ryw fath arnom ni (ond wedi dweud hynny mae angen sawl peth arall hefyd - pwysicach efallai - fel sgwennu erthyglau newydd!). Anatiomaros 21:13, 16 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]
'Wrth eu ffrwythau yr adnabyddir hwynt.' ac mae ffrwythau Rhys wastad yn gwerth eu gweld, eu blasu a'u mwynhau! Dio ddim ots beth ydy oed na lliw y person. Llywelyn2000 07:39, 17 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]

Erthyglau mwyaf poblogaidd

O ran diddordeb, mae hwn yn gadael i chi ddarganfod pa rai yw'r erthyglau sydd wedi bod yn fwyaf poblogaidd o ran ymweliadau. Fe allai roi syniad pa erthyglau y dylid canolbwyntio ar sicrhau eu bod o safon. Rhion 13:44, 15 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]

Neis gweld fod pidyn, gwaun a hunan-leddfu wedi cyrraedd y 100 uchaf!! ;o) Rhodri77 17:03, 15 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]

Ia, cweit... 'dwi'n hollol mortified bod hunan-leddfu yn fwy poblogaidd na Lloegr ;-) Basai hi'n dda edrych ar y rhestr o erthyglau mwyaf poblogaidd yn y wiciau mawr, er mwyn gweld pa erthyglau sy'n haeddu fersiynau Cymraeg os nad ydynt yn bodoli eisoes fan hyn. Ond wedi gweld y rhestr o erthyglau Cymraeg poblogaidd, wna i ddim edrych ar y rhestr Saesneg oddi wrth y swyddfa, oherwydd bod ein ffiltr rhyngrwyd yn deall y geiriau llanw yn Saesneg... Alan 17:45, 15 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]
Ydech chi'n awgrymu ein bod ni'n dathlu'r 25,000ed erthygl drwy roi'r erthyglau pidyn, gwain a hunan-leddfu ar y clawr? :-) Llywelyn2000 22:54, 15 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]
Dwi wedi edrych ar y rhestr ac mae'n anodd credu rhai o'r pethau sydd arni: er enghraifft, roedd fy nhudalen defnyddiwr yn eitha poblogaidd nôl ym mis Awst gyda bron i 200 115 o ymweliadau! Anatiomaros 21:18, 16 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]
"Neis gweld fod pidyn, gwaun a hunan-leddfu wedi cyrraedd y 100 uchaf!!"
Gall hyn ond bod yn beth da - mae'n dangos bod y wefan yn cael ei defnyddio'n helaeth gan fechgyn 15 oed y genedl :-) I ddweud y gwir, dyna beth ysgogodd fi i gynnwys erthyg am y cyffur cannabis!.--Ben Bore 09:12, 21 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]

Site notice arall

Mae site notice arall newydd ymddangos. Rwyf wedi drafftio cyfieithiad iddo yma. All rhywun olygu hwn, ac yna naill ai newid y statws 'proofreading' i 'ready' draw myn'co neu gadael neges mynhyn bod y cyfieithiad yn paso? Lloffiwr 20:16, 20 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]

Wedi gwneud.--Ben Bore 09:05, 21 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]

Ynysoedd Prydain

Hi. Apologies firstly for not being able to communicate in an appropriate manner, however, your help is requested at en:Talk:British_Isles#Undue weight to this list where attempts are being made to remove "Ynysoedd Prydain" from the info box listing "British Isles" in native languages. Your help with copious references for the term would be appreciated. Thanks 86.162.176.87 18:51, 21 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]

Thanks for letting us know. It seems typical of the attitude of some people on en: that the name for these islands in their oldest living language should be treated in this way! Anatiomaros 19:51, 21 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]

Nid 'Amheus' ond 'Erthygl sydd angen ei lanhau'

Efallai nad oes dim byd amheus ynglyn â Wicca, ond mae hi'n erthygl flêr iawn ei hiaith. Hyd nes y ceith rywun yr amser i'w glanhau a'i thwtio, oes 'na rywbeth tebyg i'r categori

Sylwch!

Mae'r dudalen hon wedi cael ei gosod ar y rhestr Tudalennau amheus.

y gallaf i sticio arni, er mwyn ei rhoi mewn corlan arbennig? Fel hyn, byddai pob erthygl sydd angen ei thacluso (o ran cywirdeb iaith yn bennaf) gyda'i gilydd yn daclus yn barod i rywun ei golygu. Llywelyn2000 12:36, 24 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]

Newydd gweld yr erthygl rwan oeddwn i. Dwi wedi gadael nodyn am yr iaith ayyb ar y dudalen sgwrs. Mae angen cywirio pob brawddeg a defnyddio termau Cymraeg priodol yn lle'r termau estron. Fel mae Llywelyn yn dweud, buasai'n dda o beth cael nodyn ar gyfer erthyglau fel hyn (a chategori hefyd, fel eu bod yn hawdd eu cyrchu i'w cywirio yn lle mynd yn anghof). Anatiomaros 23:07, 24 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]
(Ugh, I typed my reply in Welsh but then closed the window without saving. So sorry, you're going to get it in English now.) I think the template is a good idea. I've just renamed an old unused template called Nodyn:Iaith so as to free up the title for this more useful purpose, though I haven't myself created the template. The one question is whether to make a template for use in articles or on their talk pages. We do have certain templates about the editing process which are used in articles themselves (Nodyn:Tudalen amheus and the stub templates), but maybe we don't want more boxes etc in the articles. Of course if the template goes on a talk page, it's the talk page which will be put into the category, but it doesn't matter as it will clearly refer to the article itself. Alan 18:03, 25 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]
Hi Alan. Some pages are not 'amheus', but need correcting. They need to be tagged or catalogued even so that someone can get hold of them easily to edit. The important question here is should they be visible along with the rest of the show, or hidden. The complaints I keep getting about Wici is that it's full of mistakes! So, If there is a choice, let's keep them out of view, grouped together ready for correcting. Llywelyn2000 00:20, 26 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]
Diolch am yr ateb (doedd ddim rhaid iti ateb yn Saesneg, ond wedi colli fy nhestun i gyd gan deipio ctrl-W -- h.y. cau ffenest -- trwy gamgymeriad, do'n i ddim yn barod i'w ail-deipio yn Gymraeg!) Faswn i ddim yn awgrymu cuddio'r erthyglau eu hunain oni bai eu bod nhw'n hollol ofnadwy. Bwriad fy sylw uchod oedd ble rhoi'r nodau, naill ai yn yr erthyglau neu yn y tudalennau sgwrs. Alan 13:54, 26 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]
Yr erthygl ei hun ydy'r drwg, felly, fano mae'n debyg. Thank you old chap!Llywelyn2000 20:27, 26 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]
A barnu wrth rai o'r cyfraniadau rydym wedi cael yn cael yn ddiweddar mae gwir angen nodyn fel hyn. Oes rhywbeth yn digwydd? Dim rhaid iddi fod yn gymhleth. Anatiomaros 23:15, 29 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]
Cytuno. Ymlaen! Llywelyn2000 00:36, 5 Chwefror 2009 (UTC

Welsh "Wales" yw ei enw -- Alan (sefydlydd Wiki) yn dweud yn y Sunday Times heddiw fod cynlluniau ar y gweill i wneud rywbeth tebyg i'r uchod. Yr hyn sydd ei angen, meddai, yw cyfnod gwiro / cadarnhau ffeithiau (dyweder wythnos) CYN i'r erthygl fynd yn weladwy / gyhoeddus. Bwriad hyn, wrth gwrs, yw dileu rwts-mi-rwts, ffeithiau anghywir a gwallau iaith. Hwre. Ar yr un gwynt, oes gennym ni fachyn Cymraeg megis 'Citation Needed' y gallwn ei ddefnyddio ar Wici? Llywelyn2000 22:19, 8 Chwefror 2009 (UTC) [ateb]

Dwi'n gwybod bod llawer o sgwrs am "approved revisions" neu debyg ar y wici Saesneg. Maen nhw wedi eu defnyddio ers rhai amser erbyn hyn yn y wici Almaeneg, ond nid yw hi'n glir i mi y basai'r effaith yn hollol bositif ar ein wici ni. Basai hynny'n creu ychydig o waith ychwanegol i brofi'r erthyglau newydd i gyd cyn iddyn nhw ymddangos, ac rhaid i ni feddwl os yw'r manteision yn ddigon i haeddu'r gwaith, felly. Alan 22:43, 8 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]
Digon Teg, Alan. Llywelyn2000Mae'r elfen 'fyw' yn bwysig. Llywelyn2000 22:48, 8 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]
O.N. Am "citation needed" - nac oes, dwi'n meddwl. Ond mae'n hawdd creu nodyn os oes angen. Baswn i ei chreu fy hun, ond dwi'm yn siŵr am y geiriad gorau. "Angen dyfyniad", efallai? Neu "angen ffynhonnell"? Rhaid i'r nodyn roi'r erthyglau i mewn i gategori er mwyn ein helpu rhestri'r erthyglau ag eisiau ffynonellau. Alan 22:54, 8 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]
Beth am "Angen Ffynhonnell" " gan greu Categori o'r un enw? A chategori arall o'r enw "Angen Cywiro Iaith" i erthyglau sydd angen eu cywiro? Llywelyn2000 23:03, 8 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]

Drafft ar sut i drin â phroblemau Hawlfraint

Rhag ofn nad yw pobl wedi gweld hwn yn barod mae Alan wedi llunio drafft ynglyn a sut i drin a chynnwys sydd wedi ei gopio o wefannau eraill heb bod caniatad amlwg. Gweler: Sgwrs Wicipedia:Gwireddu hawlfraint. --Ben Bore 22:21, 26 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]

Diolch Rhys. Alan 22:25, 26 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]
Ga i ofyn os ydym ni'n barod i alw hyn yn "bolisi" yn hytrach na chynigiad, os gwelwch yn dda? Basai hi'n dda pe bai ni'n fynd at benderfyniad cyn iddi hi ddigwydd y tro nesaf bod rhywun yn copïo testun o rai wefan i mewn i Wicipedia. Diolch. Alan 20:22, 21 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]

Newid y tudalen Hafan

Hello. Rwyf wedi bod yn arbrofi ar golygu'r hafan ac wedi dod lan a hyn. Cymerais "screenshot" o'r newid. A fydd hyn yn iawn i mi ychwanegu.

Hafan Newydd

Diolch --Rhys 17:35, 27 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]

Dwi'n gweld dy fod ti wedi gofyn y cwestiwn ar Sgwrs:Hafan hefyd. Diolch am roi sylw yma, ond er mwyn peidio â rhannu'r un sgwrs rhwng dwy dudalen, dwi'n awgrymu i bawb ymateb yna yn hytrach nag yma. Diolch. Alan 17:43, 27 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]
Yn bersonol, fyddai'n well gyda fi ei adael fel y mae. Mae llawer o wybodaeth ar y tutalen flaen yn barod, gwybodaeth am sut i ddefnydido'r wefan a tamiad o erthygl dethol (gyda delwedd) - byddai cael rhes o ddelweddau yn gwthio'r pethau hyn yn is lawr y dudalen ac yn ychwanegu dim. Sori.--Ben Bore 20:08, 27 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]
Iawn! Dim ond am treial e mas anyway. Mae'r tudalen prawf yma. --Rhys 20:22, 27 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]
Wps, newydd ddarllen awgrymaid Alan rwan. Rhaid i mi bostio hwn ar y dudalen sgwrs cywir rwan ac edrych yn rêl missery ar ôl ymatebion cadarnhaol pawb arall - o wel, does dim byd newydd!--Ben Bore 20:45, 27 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]
Neith rywun ddewis Hafan Newydd (am gyfnod o fis, i ddechrau?) a gweithredu?! Plis. Mae amser yn drech na fi am dipyn. Llywelyn2000 00:38, 5 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]
Ia wir, Llywelyn! Rwyt yn llygad dy le!!! Gewn ni symud ymlaen, ffrindia annwyl? Llywelyn2000 23:38, 19 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]

Angen dileu erthygl plis!

A oes modd i rywun ddileu'r erthygl Gwyl Ffilmiau Cannes o.g.y.dda? Gwnes i'r erthygl heb gynnwys yr acen grom a heb sylweddoli fod erthygl eisoes yn bodoli. Dw i wedi trosglwyddo'r wybodaeth o'n erthygl i i'r erthygl wreiddiol eisoes. Mawr ddiolch! Rhodri77 19:26, 3 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]

Dwi wedi ailgyfeirio'r dudalen. Mae hynny'n well na'i dileu weithiau os ydy rhywun yn debygol o chwilio am erthygl trwy ddefnyddio'r enw yna (mae'n syniad da creu tudalennau ailgyfeirio heb acen i erthyglau sydd ag acenion yn yr enw hefyd, am nad ydy pawb yn medru rhoi llythrennau gydag acen yn y blwch chwilio. Hwyl, Anatiomaros 19:33, 3 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]

Grêt! (gyda'r acen, sylwer!) Rhodri77 19:37, 3 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]

Dylid bod bot sy'n creu tudalennau ail-gyfeirio fel yr hon yn awtomatig. Basai hynny wedi dy atal rhag gwastraffu amser i greu erthygl sy eisoes yn bodoli... Alan 20:00, 3 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]

Enwebu gweinyddwr newydd

Hoffwn enwebu Rhodri i ddod yn weinyddwr. Mae Alan a Ben Bore yn eilio'r cynnig. Anatiomaros 17:12, 11 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]

Cytuno'n llwyr. (A dweud y gwir, mi gredais ei fod eisioes yn weinydwr!) Llywelyn2000 23:43, 11 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]
Dwi ddim yn meddwl bod unrhyw wrthwynebiad felly dwi am wneud Rhodri yn weinyddwr yn nes ymlaen heddiw (mae'n arferol aros 2-3 diwrnod i gael barn pobl). Un broblem (dim byd i wneud efo'r enwebiad): dwi'n cael lot o helynt efo'r llinell ffôn ar hyn o bryd gyda'r cysylltiad rhyngrwyd yn torri am ddim reswm neu'n disgyn i gyflymder isel iawn heb rybudd (fel sydd newydd ddigwydd unwaith eto, rwan!). Felly, os na fedraf ddod yma yn nes ymlaen, fedra rhywun gofyn i Rhion neu Deb i wneud Rhodri yn weinyddwr? Gobeithio bydd y llinell ffôn yn cael ei thrwsio erbyn dechrau'r wythnos, yn y cyfamser os dwi'n diflannu ar ganol sgwrs efo rhywun mi wyddoch y rheswm am hynny(!). Anatiomaros 16:13, 13 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]
Rwyf newydd wneud Rhodri yn weinyddwr. Rhion 19:14, 13 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]
Diolch i ti, Rhion. A llongyfarchiadau i Rhodri! Anatiomaros 19:50, 13 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]
Ia wir. Llongyfarchiadau. "Wrth eu ffrwythau yr adebyddir hwy." Mae holl waith Rhodri eisioes yn dwyn ffrwyth - ar ei ganfed! Gwych! Llywelyn2000 23:37, 19 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]

Translatewiki.net update

  • Translatewiki.net formerly known as Betawiki is where the Internationalisation and Localisation of MediaWiki is concentrated. Over 300 languages are supported, issues with MediaWiki programs are dealt with. We need all the help we can get to ensure that we can maintain this service in the face of an increasing workload.

Carwn gynnig Alan yn Fiwrocrat

Mi garwn i ddyrchafu Alan yn fiwrocrat. Llywelyn2000 23:45, 19 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]

Wel, dwi ddim yn gwrthwynebu, wrth gwrs. Ond mae gwaith y biwrocrat yn anaml iawn fan hyn -- sef y gallu technegol i roi'r statws bot, a'r statws gweinyddwr (a'r statws biwrocrat ei hun). Ond mae rhaid i'r penderfyniadau hynny, yn arbennig i'r penderfyniad i roi statws gweinyddwr, gael eu gwneud ar ôl cyrraedd consensws trwy sgwrs yma yn y caffi. Ac, mewn ymarfer, mae gennym ni eisoes dri biwrocrat actif, sy'n golygu nad oes oediad sylweddol rhwng ein bod yn cyrraedd consensws a phan ydy biwrocrat yn rhoi'r statws a gytunwyd (e.e. pan roddom ni statws gweinyddwr i Rhodri yn ddiweddar). Dwi ddim yn meddwl ei bod hi'n angenrheidiol i'r prosiect gael rhagor o fiwrocratau, felly. Fy mhryder yw: os dydy hi ddim am reswm ymarferol, mae hynny'n golygu ein bod ni'n dechrau meddwl am y galluoedd hyn fel rhyw fath o fraint, ac mae rhaid i hynny fod yn anghywir. Y tasg pwysicaf o bell ffordd fan hyn ydy creu erthyglau da, ac mae pawb yn medru gwneud hynny, hyd yn oed pobl heb gyfrifon. Alan 00:32, 20 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]
Fe'th gynigiaf eto - yn dy absenoldeb. Mae dy graffter, dy sgiliau technegol, dy amynedd a'th ddidwylledd - er ein bod yn aml o farn wahanol ... Llywelyn2000 09:42, 1 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]
Rwyn cytuno! Mae Alan yn gwneud gwaith ardderchog ar pob math o feusydd yma. Gallai hefyd dyrchafu Glanhawr yn weinyddiwr?

Taflen Gynnwys

Taflen Gynnwys ddylai fod, nid Taflen Cynnwys. Sut mae newid hyn? Llywelyn2000 06:51, 23 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]

Dwi wedi ei newid. Yn gyffredinol, mae'r negeseuon o'r meddalwedd mewn tudalennau ag enwau sy'n dechrau gyda "MediaWici:". Dim ond gweinyddwyr a fedra eu golygu nhw. Os oes neges y mae angen cywiro arni, chwilio ar Arbennig:AllMessages yw'r dull arferol i'w ffeindio hi. Ond byddi'n ofalus wrth golygu'r negeseuon hynny os gweli di'n dda, am resymau digon eglur. Alan 08:46, 23 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]
Ydy ni am ddal ati i ddefnyddio 'Taflen Gynnwys' neu a oes chwant mentro ychydig, trwy ddefnyddio 'Mynegai' neu 'Mynegai'r dudalen' yn ei le? Lloffiwr 14:13, 23 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]
Dw iddim yn siwr at ba dudalen mae hyn yn cyfeirio, ond mae 'Mynegai' yn llawer gwell beth bynnag ac yna air sy'n cael ei ddefnyddio'n rheolaidd. I mi mae taflen yn rhywbeth o bapur. --Ben Bore 15:16, 23 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]
Ydy'r gwahaniaeth yn Saesneg rhwng "contents" (rhestr adrannau dogfen) ac "index" (lle i chwilio allweddeiriau) yn bodoli yn Gymraeg hefyd? Os ydy, mae'n ymddangos yn ôl fy ngeiriaduron bod "mynegai" yn cyfateb i "index". Alan 18:14, 23 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]
Alan - rwyt ti'n symudwr sydyn! Diolch.
Ben Bore: 'dwyt ti ddim yn siwr at ba ddalen dwi'n cyfeirio ato. Pob tudalen gyda dros 4 o benawdau:
Taflen Gynnwys
Diolch. Llywelyn2000 21:28, 23 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]
Diawch, doeddwn i erioed wedi sylwi ar yr enw o'r blaen! O weld hynny a chymryd i ystyriaeth mai index yw 'Mynegai', efallai dylid ei adael fel y mae (ond gyda'r treiglad!), neu ei newid i dim ond 'Cynnwys'? -- Ben Bore
Rwy'n hoffi 'Cynnwys' wrth ei hunan - mae llawer o'r wicïau eraill i'w gweld wedi dewis rhywbeth yn debyg. 'Taflen gynnwys' byddai'r term technegol amdano o hyd wrth drafod y peth ar y tudalennau cymorth ag ati. Lloffiwr 13:14, 24 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]
A minnau. Er nad oes rhaid i ni ddilyn y wici Saesneg, dwi'n nodi y gwnaethpwyd yr un newidiad yno. A oes unrhyw gwrthwynebiad? Alan 13:27, 24 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]
Dwi'n meddwl fod 'Cynnwys' yn ddigon. Mae'n llawer mwy naturiol; pam gael dau air yn lle un? Anatiomaros 17:46, 24 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]

Wedi ei newid i 'Cynnwys' yn unig.--Ben Bore 21:48, 24 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]

Agor tun arall o bry genwair: Categori Terfysgwyr

O ddilyn dolenni o'r erthygl Tŷ haf, dyma fi'n dod ar draws erthygl am Sion Aubrey Roberts sydd wedi cael ei restru yn y categori Categori:Terfysgwyr. Mae'r categori yma yn fach iawn ar hyn o bryd, unia oherwydd diffyg erthyglau am derfysgwyr, neu nad yw rhai sy'n bobli wedi eu categareiddio gywir eto. Ond rhiad i mi ddweud mae cynnwys y categori yma yn edrcyh braidd yn od:

Mae'r diffiniad o bwy sy'n derfysgwr yn gallu bod reit pen agored, ond o'r chwech bonheddwr uchod, mae tri yn genedlaetholwyr Cymreig a'u dedfrydwyd i garchar am ddinistrio eiddo, tra mae'r lleill yn eithafwyr Islamaidd sydd wedi/eisiau lladd pobl ar sail eu cred (cwyriwch fi as dw i'n anghywir).

Efallai bod bias yn fan hyn o fy rhan i, ond dw i ddim yn credu bod y tri Cymro yma'n haeddu cael eu hystyried yn derfysgwyr, ac a gawsant i gyd eu cyhuddo o dan ddeddfau terfysgaeth neu dim ond difrodi eiddo preifat/cyhoeddus? Hefyd, gelli'r dadlau y dylai pobl fel Nelson Mandela (a garcharwyd am fod yn aelod o grŵp terfysgol?) fod o fewn y categori hefyd.--Ben Bore 08:55, 26 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]

Efallai mai'r ateb gorau fyddai dileu'r categori Terfysgwyr. Mae'n siwr fod modd defnyddio categoriau eraill sydd ddim yn mynegi barn am y person yn yr un modd. Rhion 12:35, 26 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]
Dileu'r categori yw un posibilrwydd. Penderfynu am safonau gwrthrychol yw un arall. Mae enghraifft o restr o safonau digon gwrthrychol i'w gweld ar en:Category:Terrorists; mae'r pwyntiau sy'n cael eu rhestri yna yn ymddangos i mi yn resymol yn gyffredinol, ond rhaid diffinio beth yn union mae "violence" yn golygu. Efallai ceir ei ddifinio fel trais yn erbyn pobl yn hytrach na thrais yn erbyn eiddo, os ydym ni am i'r safonau fod yn llai cynhwysol. Ond dwi'm yn siwr pa mor hawdd yw hi i wahaniaethu fel hynny -- pan osodir bom, pwy a ŵyr be fydd y canlyniadau? Alan 18:05, 26 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]
Mae hyn yn codi pob math o broblemau. Roedd y Natsïaid yn rhoi'r label "terfysgwyr" ar y resistance yn Ffrainc am eu bod yn chwythu trenau i fyny (llawn o filwyr Almaenig fel rheol ond roedd sifiliaid diniwed yn cael eu lladd mewn canlyniad hefyd weithiau). Ac fel mae Ben yn dweud, "terfysgwr" oedd Mandela, a hynny yn swyddogol (barn yr awdurdodau apartheid, wrth gwrs...). Cofier hefyd nad yw gwladwriaeth sy'n lladd miloedd o bobl diniwed mewn rhyfel yn cael y label "terfysgwr" chwaeth, fel rheol (a hynny mewn rhyfel yn erbyn terfysgaeth, efallai!). Ond os ydym ni am ei ddileu be gawn ni yn ei le? Anatiomaros 22:54, 28 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]
Byddwn i o blaid dileu'r categori. Allai i ddim meddwl bod un categori arall yn mynd i allu cymryd ei le, a dyna oedd fy mhwynt, ni ddylai, Mandela, D.J Williams a Osama bin Laden fod yn yr un categori yn y lle cyntaf (yn fy marn i wrth gwrs!). --Ben Bore 09:49, 2 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]
Cytuno. Llywelyn2000 20:16, 2 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]
Tynnais D. J. o'r categori rhai dyddiau'n ôl (sôn am benderfyniad hurt, ei roi o yno yn y lle cyntaf: "Llenor a therfysgwr oedd D. J. Williams..."!). Efallai y peth hawsaf yw ei ddileu, er bod rhai pobl a mudiadau sy'n haeddu bod yno. Anatiomaros 16:52, 4 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]
ON Beth am Categori:Troseddwyr. Unwaith yn rhagor mae rhaid bod yn ofalus. I mi, mae "troseddwr" (h.y. criminal) yn rhywun sy'n dewis mygio neu rywbeth tebyg fel gyrfa, a dydi o ddim yn cynnwys pobl a dorrodd y gyfraith (neu a gafwyd yn euog, yn gam neu'n gymwys) ar ryw achlysur neilltuol neu dros egwyddorion (ymgyrchwyr iaith a heddwch, er enghraifft). Rhaid bod yn arbennig o ofalus yn achos pobl byw neu gawn ni achos enllib! Anatiomaros 17:04, 4 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]
Troseddwyr: fy awgrym i ynghlyn a hwn fisoedd yn ol oedd dileu personau byw. Hyn yw fy marn heddiw hefyd. Llywelyn2000 22:31, 4 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]

Allan o ddiddordeb

Jest allan o ddiddordeb, sut fyddech chi'n cyfieithu "groin" i'r Gymraeg? Dw i'n ceisio dweud fod cancr Jade Goody wedi ymledu i'w "groin". Yn ol Bruce, y term anatomolegol yw naill ai "gafl" neu "ffwrch"... (ie, wir i chi!) A fyddai'n dderbyniol dweud fod ei chancr wedi "ymledu i'w afu, coluddyn a'i ffwrch" neu a ddylwn i ddefnyddio "gafl"? Beth yw barn y bobl? Diolch Rhodri77 12:47, 28 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]

Fallai basai'n well dweud "gafl". S'gen i ddim syniad beth yw'r gair ond dwi wedi clywed y gair "ffwrch" o'r blaen gyda chynodiadau gwahanol... Glanhawr 15:20, 28 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]
Ie, dw i'n cytuno. Do'n i, a dw i dal ddim yn siwr o ystyr y gair "gafl" ond mae'n siwr ei fod yn fwy addas yn y cyd-destun. 86.128.182.105 16:19, 28 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]
Ewch i Anatomeg ddynol (gwaelod y ddalen am enwau rhannau o'r corff). Arffed faswn i'n ei ddweud: y plyg lle mae gwaelod y bol yn cyfarfod y cluniau ydy arffed. Hy "groin". Mae gafl fwy cyffredinol ac yn medru golygu: "croth", "arffed","y tu mewn i'r forddwyd" neu "fforch". Llywelyn2000 16:43, 28 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]
Dwi'n ffeindio'r wefan [1] yn un dda! Cefais allan "bachell y forddwyd"
Hwyl,Rhys 20:55, 28 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]

Glanhawr newydd i'r caffi: dim briwsion geiriol os gwelwch yn dda!

Ok te, dwi'n fodlon (fod yn weinyddwr) os bydd bawb yn cytuno. Diolch! Glanhawr 21:03, 1 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]

Rhys ac Anatiomaros wedi dy gynnig, minnau'n eilio. A chroeso cynnes i ti. Llywelyn2000 21:14, 1 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]
Hoffwn enwebu Glanhawr yn swyddogol yma, am y record. Mae o/hi yn gwneud gwaith ardderchog a does gen i ddim amheuaeth y bydd yn gaffaeliad i waith y wicipedia. Ond hoffwn nodi hefyd, tra bod ni ar y pwnc, be wnes i ddeud wrth gynnig "dyrchafiad" Glanhawr ar ei dudalen sgwrs, sef: "A deud y gwir rydym ni'n eithriad i'r drefn yma ar y wici Cymraeg am fod gennym ni ganran uchel iawn o weinyddwyr, [-]. Ond dwi'n meddwl bydd rhaid i ni droi hyn yn "closed shop" am sbel wedyn ac adolygu'r sefyllfa a phenderfynu ar bolisi (does 'na ddim un ar hyn o bryd)." H.y. mae angen polisi ar hyn. Does dim llawer iawn o ni ar hyn o bryd ond os ydym yn tyfu bydd rhaid wrth reol o ryw fath. Neu mi fydd hi fel yn y dywediad Saesneg "too many cooks spoil the broth" efallai. Mae rhai o'r wicis llai heb weinyddwr o gwbl hyd yn oed, felly mae 'na berygl y bydd rhywun o Fetawici yn sbiad ar ein dudalen ystadegau ryw ddydd a meddwl "Bois bach! Mae ganddyn nhw fwy o weinyddwyr na'r wicipedia Almaeneg!". Fel arall, croeso ar y bwrdd i Glanhawr! Anatiomaros 21:26, 1 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]
Fi'n cytuno. Mae yna lawer iawn o weinyddwyr yma- ond os ydych yn edrych ar y rhestr, mae rhai gyda nodau fel "cyfraniad dwethaf 2006" arnynt. Dylai rhain ddal cael statws gweinyddiwr pan mae rhai cyfrannwyr (rhai ddim yn gweinyddwyr) yma yn gweithio pob nos? Rhys Thomas 21:35, 1 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]
Mae gan Rhys bwynt. Beth am gael rheol fod statws unrhyw Weinyddwr sydd heb gyfrannu o gwbl i'r Wici ers dwy flynedd neu fwy yn cael eu newid yn ôl i fod yn ddefnyddiwr cyffredin? Rhion 21:49, 1 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]
Dwi'n cytuno'n llwyr a Rhys a Rhion. Wnes i awgrymu rhywbeth tebyg y tro dwetha, uchod, ond roedd 'na wrthwynebiad. Bydd hynny'n golygu i un o'r biwrocratiaid wneud cais i un o'r stiwardiaid ar Feta (gw. [http://meta.wikimedia.org/wiki/Bureaucrat yma). Anatiomaros 21:59, 1 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]
Clywch clywch! Llywelyn2000 22:57, 1 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]
Efallai y dylem adael hyn am ryw wythnos rhag ofn bod gwrthwynebiad, yna, os nad oes, cyflwyno cais. Rwy'n meddwl mai Defnyddiwr:Okapi yw'r gweinyddwr sydd wedi bod hiraf heb gyfrannu; roedd ei chyfraniad diwethaf yn 2005. Rhion 13:57, 4 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]
Llongyfarchiadau i Glanhawr ar ddod yn weinyddwr. Bydd yn gaffaeliad i'r wicipedia, dwi'n siwr.
Dwi'n cytuno ag awgrym Rhion hefyd. Mae'n anodd gwybod faint o amser heb gyfrannu sy'n briodol, ond mae 18 mis - 2 flynedd yn ddigon teg. Gellid rhoi neges ar dudalen sgwrs y defnyddiwr yn esbonio be sydd am ddigwydd a pham, allan o ffurfioldeb. Anatiomaros 16:43, 4 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]
Ydy wir, mae hyn yn fwy na digon o amser. Gall ailafael fel defnyddiwr eto, wrth gwrs, a gallem ninnau ailystyried y penderfyniad yr adeg honno. Llywelyn2000 22:33, 4 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]
Diolch pawb! Glanhawr 23:00, 4 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]

Delweddau'r Llyfrgell Genedlaethol unwaith eto

1. Rhag ofn nad yw Sgwrs Defnyddiwr:Paul Bevan (aelod staff y Llyfrgell) ar eich rhestr wylio, mae ychydig o sylwadau newydd wedi bod yno'n ddiweddar ac mae ychydig o ddryswch ynglyn a beth sy'n mynd i ddigwydd nesaf parthed hawl defnyddio delweddau. Mae'n werth ychwangu hwn at eich rhestr gwylio.

2. Mae'r Llyfrgell Genedlaethol yn bwriadu newid eu gwefan, ac mae ffurflen adborth (a chyfle i ennill £50!) ar dudalen blaen eu gwefan. Hanner ffordd trwyddo, mae'n gofyn i chwi enwi dwy wefan arall rydych yn ei hoffi ac yn meddwl sy'n enghreifftiau da o wefannau sydd â chynnwys sy'n hawdd ei gyrchu - felly mae'n werth meddwl am y rhain o flaen llaw. Efallai bod Wicipedia'n engrhaifft da? O'r leading quesitons mae'n ofyn, dw i'n cymeryd bydd yn Gwe2.0'aidd.--Ben Bore 15:58, 2 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]

Diolch am hyn, Ben Bore. Ia, mi hoffwn i wybod beth yn union sy'n mynd i ddigwydd hefyd, ar ôl cael cychwyn mor addawol. Anatiomaros 16:45, 4 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]
Mae angen creu trwydded ar gyfer delweddau nad ydynt o dan drwydded rhydd arnom. Rwyf wedi bod yn ceisio deall sut mae gwneud hyn a gwneud i'r ffurflen uwchlwytho weithio'n iawn ers mis Awst ond heb gael digon o amser ben bwy gilydd i ddeall y peth yn iawn. Efallai mai'r peth callaf fyddai creu trwydded ar gyfer y Llyfrgell yn unig i ddechrau ac yna gwneud un mwy cyffredinol ar gyfer y delweddau eraill. Fe welais enghraifft o drwydded ar Wikipedia Saesneg ar gyfer y Boston Public Library oedd yn edrych yn addas i'w addasu ar gyfer y Llyfrgell. Dwi'n cynnig ein bod yn paratoi drafft o'r 'drwydded' a gofyn i'r Llyfrgell gadarnhau ei fod yn cyfateb i'w hanghenion nhw. Fe ges ar ddeall gan y Llyfrgell nad oeddent yn rhydd i roi trwydded i neb arall - dyna oedd rhan o bwrpas yr arbrawf fis Awst oedd gweld faint o gamddefnyddio fyddai ar y lluniau a roddwyd ar Wicipedia. Cyfeirio at dermau'r Llyfrgell yn uniongyrchol sydd raid i ni wneud ar ein 'trwydded' ni os dwi'n deall yn iawn. Mae hefyd yn bosib y cawn drafferth yn cael Wikimedia i dderbyn ein polisi defnyddio lluniau ni oherwydd y byddwn yn defnyddio lluniau'r Llyfrgell heb ganiatad ysgrifenedig oddi wrthynt - ymbalfalu y byddwn tan bod y cwbwl o'r materion technegol a'r materion polisi yn dod at ei gilydd. Dim amser i ysgrifennu mwy nawr. Lloffiwr 09:02, 9 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]
Diolch Lloffiwr. Mae dy gyfraniad caboboledig arferol fel manna i mi: mae hwn yn fater holl bwysig a braf fyddai ein gweld yn symud ymlaen yn handi efo hyn. Os fedraf i gyfieithu unrhyw beth, cofia ofyn. Ydy hi ddim yn bosib i'r Llyfrgell uwchlwytho'r lluniau ar Wici eu hunain? Yna, fyddai'r Llyfgrell ddim yn "rhoi trwydded i neb arall" a mi fyddent yn dal yr hawlfraint (neu a yw hyn yn gor-symlhau'r sefyllfa?). Yn ail wyt ti mewn trafodaeth efo rhywun o'r Llyfrgell, ers i'w cynrychiolydd nhw adael? Llywelyn2000 22:52, 9 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]
Unrhyw ymateb? Llywelyn2000 14:39, 22 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]

Sut dw i'n creu tudalen wahaniaethu?

Dw i'n ceisio creu tudalen wahaniaethu ar gyfer Les Miserablés er mwyn nodi'r gwahaniaeth rhwng y nofel a'r sioe gerdd a.y.y.b. ond dw i'n cael trafferth? Allai unrhyw un rhoi rhyw faint o oleuni ar y mater? Diolch! Rhodri77 18:16, 5 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]

Mae'n hawdd. Teipio yr enw Les Miserablés yn y blwch chwilio i greu erthygl, fel arfer, ac wedyn rhoi'r nodyn {{gwahaniaethu}} ar waelod y dudalen ar ôl sgwennu'r testun. Dyna'r unig wahaniaeth rhwng tudalen wahaniaethu ac erthygl arferol. Anatiomaros 18:22, 5 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]
Dw i'n credu mod i wedi gwneud cawlach o bethe... triais i newid enw'r erthygl Les Misérables i Les Misérables (nofel) ond nawr, pryd bynnag dw i'n teipio mewn "Les Misérables " ar ei ben ei hun, mae'n ail-gyfeirio i Les Misérables (nofel) yn awtomatig ac felly dw i ddim yn gallu creu'r dudalen wahaniaethu... Sori - fy mai i yw e! Mae 'di bod yn ddiwrnod hir!! Rhodri77 18:43, 5 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]
Dwi'n gweld be roeddet ti'n trio wneud rwan. Mae hynny'n wahanol ond does dim problem. Y cwbl mae rhaid i ti wneud ydy dilyn y ddolen yn ôl: clicio ar y ddolen "ail-gyfeiriwyd o..." ac mi gei di'r dudalen ail-gyfeirio. Troi hynny'n dudalen wahaniaethu wedyn, fel wnes i yma gyda Les Misérables. Gobeithio fod hynny'n egluro pethau. Anatiomaros 19:23, 5 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]
A-ha! Nawr dw i'n deall - ail-gyfeirio'r ail-gyfeiriad, fel petai ... Diolch am y cymorth. Wedi llwyddo i greu tudalen gwahaniaethu arall bellach! Rhodri77 19:54, 5 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]

Categoriau?

A oes modd golygu tudalen categori? Y rheswm yw fod rhai tudalennau categori yn edrych yn fler ac mae angen tacluso. Diolch, Rhys Thomas 15:43, 8 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]

Gellir golygu tudalen categori, ond fel arfer, os rwyt yn gweld erthygl yn y categori anghywir, rhaid golygu'r côd ar waelod yr erthygl dan sylw. Byddai'n haws esbonio os rhoi di enghraifft o ba un ti'n bwriadu dacluso, ac yna mi ro i enghraifft o beth angen ei newud i'w newid.--Ben Bore 08:54, 9 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]
Nid yw'r erthyglau yma yn disgyn odan y llythrennau ac nid yw'n drefnus! Sut allai golygu'r tudalen yma? Diolch, Rhys Thomas 16:26, 10 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]
Nid Catergori Categori:Trydan sydd ar fai, ond fel awgrymais uchod, mae angen newid côd ar waelod yr erthyglau dan sylw. Dwi wedi trwsio erthygl 'Trydan' a 'Gwrthiant' (gweler gweler y newid esiampl).--Ben Bore 17:06, 10 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]
Popeth yn daclus rwan. Un peth arall, dw i wedi newid Golau Holgen, fel ei fod yn ymddangos o dan 'H' yn hytrach na 'G'. i wenud hyn, ti'n newid y côd i [[Categori:Trydan|Halogen]] pwysig iawn mewn categori fel Categori:Tîmau Pêl-droed Cenedlaethol neu byddai popeth o dan 'T'.--Ben Bore 21:48, 10 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]
Diolch yn fawr i chi, rydych wedi bod yn lot o help! Hwyl, Rhys Thomas 22:12, 10 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]

Pigion Comic Relief

A fydd yn iawn os rwyn rhoi hwn ar y tudalen hafan os gwelwch yn dda ar gyfer y diwrnodau nesaf hyd at comic relief. Mae o yn achos da :) Diolch, Rhys Thomas 19:28, 11 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]

Pigion

Logo'r elusenElusen Prydeinig yw Comic Relief. Fe'i sefydlwyd yn 1985 gan ysgrifennydd sgript comig Richard Curtis mewn ymateb i'r newyn yn Ethiopia. Cychwynodd gwaith yr elusen gydag adroddiad yn fyw o wersyll ffoaduriaid yn Sudan ar BBC 1 ym 1985. Syniad gweithiwr elusennol Jane Tewson oedd Comic relief a'r 'diwrnod trwyn coch'. Mae'r elusen yn codi llawer o arian drwy ddarlledu rhaglenni doniol sy'n cynnwys nifer o pobl enwog yn creu sbort, mewn ymgais i godi arian ar gyfer elusennau Gwledydd Prydain ac yn bennaf elusennau Affrica sy'n help cael gwared o clefydau megis HIV, AIDS a Malaria.

Mae Comic relief 2009 yn cael ei ddarlledu ar y BBC, Dydd Gwener, 13fed o Fawrth.

 


Mwy o bigion · Newidiadau diweddar

Erthyglau dewis


Top dde? Pam lai - dangos ein bod yn fyw, yn gyfoes ac yn gorlifo o gariad! O blaid. (Oes angen y sgwennu? Mae'r llun yn siarad cyfrolau, cofia. Llywelyn2000 20:57, 11 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]
Rwyf wedi rhoi ar y tudalen hafan nawr......gallwn ni cael llun trwyn coch i rhoi i fynu ar y top dydd gwener os yr ydych eisiau? Rhys Thomas 22:16, 11 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]

Linc mewn cyfeiriad

Cyfeillion. Rwyf wedi methu a dod o hyd i gystrawen llawn gosod cyfeiriadau. Sut mae cynnwys linc allanol (ee rhif DOI) mewn cyfeiriad ? [1]

  1. ??

--Deri 11:23, 1 Ebrill 2009 (UTC) [ateb]

Mi ffindist yr ateb dy hun! Gret. Fe weli yn yr erthygl 'Gellbilen' fy mod wedi newid y term Saesneg i'r ffurf gywir ('cyfeiriadau'). Mae hon yn tyfu'n erthygl dda a mi fydd o ddefnydd mewn ysgolion a cholegau. Croeso, Deri i'r criw. Llywelyn2000 11:54, 1 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]
Diolch am y geiriau caredig a'r cymorth. (Ofnaf ni fedraf fod mor ddiwyd a'r "criw" - ond mi gyfrannaf yn achlysurol, gobeithio.) Ond na, nid wyf eto wedi deall sut i gysylltu'n allanol o'r cyfeiriad i wefan (http:). Ar tudalen "Dŵr" rwyf wedi gosod DOI - ond mi fyddai angen hyperddolen llawn mae'n debyg ? Sut mae cynnwys hwn ? A'i defnyddio'r botwm "Cyswllt allanol" ar y cyfeiriad wedi'i rhanni gan "|" o weddill y cyfeiriad ? Mater arall - a oes modd cysylltu a tudalennau Wikipedia (neu ydy hynny'n esgymun !) --Deri 12:09, 1 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]
Oes mae angen y blaengyfeiriad hhtp... Dyma'r un ddolen, mewn dwy fformat:
Na. Wiki ieithoedd eraill. Dwi ddim yn meddwl fod hyn yn cael ei groesawu. O'i wneud, mae Wici ein hiaith ein hunain yn cael ei lastwreiddio gydag ieithoedd eraill ac felly'n colli ei rym a'i bwrpas. Ond efallai fod barn arall, cofia.
Dal ati i ofyn cwestiynnau! Dwi'n dal i wneud a llawer i'w ddysgu fy hun! Llywelyn2000 12:21, 1 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]
Tydi rhoi dolenni i Wici's ieithoedd eraill ddim yn syniad da, gan ei fod, mewn ffordd, yn self-referencing.--Ben Bore 07:46, 3 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]

Y Fandal Disney (eto!)

Mae'r fandal sy'n cael ei adnabod ar y wicipedia Saesneg fel "The Disney Vandal" (Bambifan101 etc etc etc...) wedi bod yn ôl yn fy absenoldeb a gadael ei lanastr arferol yma.

Manylion ar "en":

1. Rhestr o'i hen enwau en:Category:Wikipedia sockpuppets of Bambifan101 (gweler yr is-gategori "Suspected sockpuppets...." hefyd).
2. Trafodaeth rhyngof a rhywun sy'n ceisio cadw golwg ar y fandal ar en: 1, 2 + rhestr o socks.

Mae wedi bod wrthi yn ddiweddar dan yr enwau Defnyddiwr:Boatshops, Arbennig:Contributions/Kneehideep a Arbennig:Contributions/Rockskeeper. Dwi wedi blocio'r rhain. Roedden nhw wedi'u blocio yn barod ar en.

Gweler hefyd fy nhudalen Sgwrs a thudalen Sgwrs Llywelyn.

Byddwch yn wyliadwrus, os gwelwch yn dda, am unrhyw gyfraniadau gan rywun diarth i erthyglau am ffilmiau Disney neu ffilmiau animeiddiedig. Yn ogystal â defnyddio nifer o ffugenwau mae'n troi i fyny fel cyfranwr IP hefyd, gyda chyfeiriadau sy'n cychwyn gyda 67./68./69. (defnyddiwch SamSpade i weld eu bod yn dod o Georgia, mae'n byw yn Atlanta mae'n debyg (gweler yma). Ei rwydwaith arferol yw BellSouth.net.

Blociwch y cyfifon defnyddiwr am byth ('Indefinite') a'r IPs am gyfnod o 6 mis (prin ydy'r cyfranwyr o Georgia yma!), os gwelwch yn dda a dadwneud pob cyfraniad hyd yn oed os ydyw'n ymddangos yn rhesymol. Diolch yn fawr! Anatiomaros 23:03, 2 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]

Ydy'r sawl a greodd Afon Tuedd felly yr un person â Defnyddiwr:Boatshops, ac angen ei ddadwneud? Llywelyn2000 04:40, 3 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]
a hefyd: 68.220.177.97 ? Llywelyn2000 05:24, 3 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]
Mae'n rhaid bod hi'n bosibl creu bot bach i ddadwneud y cwbwl mewn un clic? Mae dadwneud y cyfan bro yn amhosib! Does dim i ddweud pa ddudalennau sydd wedi eu dadwneud a pha rai sydd heb! Neu ydw i'n methu rhywbeth? Llywelyn2000 05:24, 3 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]
Os mwy I wneud? Llywelyn- os ydych am edrych ar gyfraniadau defnyddiwr sbesifig, cliciwch "fy gyfraniadau" ac yna amnewidiwch eich enw defnyddiwr chi am un rhywyn arall. Roeddwn allan neithiwr ac felly sai'n hollol siwr beth i wneud. Rhys Thomas 10:07, 3 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]
Os ydy'r cyfraniadau i'w dadwneud yn cynnwys cywiriadau/ychwanegiadau gan y botiau peidiwch a phoeni amdanynt achos bydd y bot druan yn dychwelyd eto. Defnyddiwch y dewis 'gwrthdroi' yn lle 'dadwneud' gan fynd yn ôl gydag un clic i'r golygiad dilys olaf; fel arall, fel chi'n ddweud, mae'n cymryd oes. Wna'i siecio'r cyfranwr rwyt ti'n crybwyllo rwan hyn, Llywelyn. Diolch am y cymorth. Y wers ydy: byddwch ar wyliadwraeth! Anatiomaros 19:59, 3 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]
ON Rwyt ti'n iawn, Llywelyn. Anghofiais nodi'r ddau gyfeiriad IP 68.220.177.97 a 65.0.160.15 (blociwyd)="Boastshops"="BambiFan101". Anatiomaros 20:02, 3 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]
Dwi wedi dileu 'Afon Tuedd'. Cyfeiriad IP o Jersey Newydd, UDA (:Arbennig:Contributions/69.143.20.11|69.143.20.11). Mae'n bell o Georgia, ond... Anatiomaros 20:09, 3 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]
Mi wn fod peryg, ond sut beryd. Mae'r stwff yn ymddangos yn gwbwl di-beryg, di-feirws ac yn gywir!!! Beth, felly (paid a neidio allan o dy groen!)... beth felly sy'n ein hatal rhag eu cadw fel ag y mae nhw!? Llywelyn2000 20:19, 3 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]
Fel yna mae o'n gweithio. Cymysgu'r dilys a'r annilys gyda nifer o fân olygiadau, ailgyfeirio a dadailgyfeirio, troi pethau o gwmpas, newidiadau mân ond camarweiniol ayyb (yn ogystal â fandaliaeth amlwg pan mae'n gwylltio). Yr unig ffordd i wybod os ydy rhywbeth yn gywir neu beidio ydy siecio'r erthygl ar en (gan ofalu fod o ddim wedi newid hynny ei hun yn ddiweddar!). I gael syniad o'r ffordd mae o'n gweithio ewch i en:Category:Wikipedia sockpuppets of Bambifan101 a sbiad ar ei gyfraniadau i ambell erthygl ar y wici Saesneg a sylwadau ar y tudalennau sgwrs aayb. Un cyfrwys ydy o, er yn wallgo (yn fy marn i, wrth gwrs!). Wir y, does dim modd dibynnu ar unrhyw beth mae'n ychwanegu (ar wahân i ambell enghraifft o "tacluso" heb newid y ffeithiau). Y peth hawsa ydy gwrthdroi popeth mae o wedi wneud neu mi gymrith oes. Anatiomaros 20:30, 3 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]
Diddorol, felly gwneud Wici yn wefan na fedrir mo'i chredu ydy ei ymgais. Sabotage-io'r gwirionedd! Swnio fel ambell gyhoeddwr llyfra Cymraeg eiddigeddus!!! Rhaid gwarchod hygrededd a geirwiredd ein Wici annwyl yn fwy na dim! Llywelyn2000 20:37, 3 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]
Lwcus i mi bigio nôl cyn roi'r gorau iddi ar y we heno. Roedd o yma dan yr enw Hatruthnoble, cyfrif sydd eisoes wedi ei flocio fel "sock puppet" Bambifan101 ar y wicipedia Saesneg (gweler yma). Anatiomaros 23:41, 7 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]
A yw'n syniad i diogelu'r tudalenau disney? Gallwn ni rhoi bach o gig iddynt yn y dyfodol. Sai'n credu bod nifer fawr o bobl yn dod yma i darllen stwff am ffilmiau disney anyway! Rhys Thomas 09:59, 9 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]
Mae na fwy o bobl yn troi yma i ddarllen am stwff Disney na sydd am Gronyn isatomig neu Cyflymydd gronynnol!!! Paid a phoeni, dim ond tynnu coes ydw i! Llywelyn2000 21:53, 9 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]
A mae e/hi nol eto! Yma heddiw o dan yr enw Patling a chyfeiriad IP 72.255.46.5. Dw i'n dueddol o gytuno â Rhys. Pe bawn ni'n gwella'r erthyglau un am un, a fyddai modd diogelu'r tudalennau? Wedi'r cyfan, mae'n bur anhebygol y bydd y wybodaeth yn newid ac o leia' bydd dim rhaid i ni boeni wedyn am y niwsans hyn yn gwneud mwy o ddifrod? Rhodri77 19:30, 13 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]
Cytuno gyda Rhodri a Rhys - daeth e nol ddwy waith heddiw: yn amlwg wedi bod yn aros am amser tawel cyn ymosod. Os diogelwn ni'r tudalennau Disney am nawr, fe all e ddim ddod nol. Glanhawr 19:38, 13 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]
Mae'n debygol o fod yn un person sy'n gwneud y fandaliaeth yma, felly os rhown floc arno nawr, efallai aiff i ffwrdd a gallwn ni (tîm gweinyddwyr) adeiladu ar yr erthyglau yn y dyfodol agos. Beth bynnag- y gweinyddwyr yw'r prif gyfranwyr yma ar wici, ar unig gyfranwyr disney arall yw'r fandalwyr. Syniad arall yw creu nodyn i fynd ar dop y dudalen yn dweud "mae'r dudalen yma wedi'i diogelu oherwydd fandaliaeth" -neu rywbeth fel yna i adael i ddefnyddwyr wybod am y sefyllfa.Rhys Thomas 20:26, 13 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]
Cytuno - mae'n well na gorfod delio 'da'r gwallgofyn 'ma drwy'r amser! Gallai nodyn ddweud wrth unrhyw un sydd am ychwanegu at yr erthyglau Disney i roi eu testun yn y dudalen sgwrs ac yna fydd gweinyddwr yn ei roi ar yr erthygl. Glanhawr 20:32, 13 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]
Ar ôl hanner nos pan welais hyn ar ôl picio i mewn "am bum munud" (!) cyn ei throi hi am y gwely. Dwi wedi diogelu pob un o'r tudalennau gafodd eu fandaleiddio (3 mis) a hynny fel mai dim ond gweinyddwyr sy'n medru eu golygu neu eu symud. O leia mae wedi dangos ei wir lliwiau y tro yma, rhag ofn bod unrhyw amheuaeth amdano yn aros. Rhy hwyr i fynd trwy popeth ond dwi'n cytuno ei bod yn syniad da i ddiogelu pob ffilm Disney, fel yr awgrymir. Gyda llaw, yn ôl y sgyrsiau mae wedi cael gyda rhai o'r golygwyr ar y wici Saesneg, llanc o Atlanta ydy o. Mae ganddo fo obsesiwn seicopathig gyda'r byd Disney, sy'n od braidd gan ei fod yn fandaleiddio'r erthyglau am yr union bethau sy'n golygu cymaint iddo... Anatiomaros 00:00, 14 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]
Dwi newydd fynd drwy bob erthygl Disney a'u diogelu am 3 mis. Gobeithio ddaw e ddim nôl! Glanhawr 04:28, 14 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]
Chysgaist ti yr un winc drwy'r nos! Wyt arwr Arthuraidd y trysorau. Diolch. Llywelyn2000 07:13, 14 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]
Logiais i mewn heno 'ma (bore 'ma!?) i weld y cyfeiriad IP 74.230.35.108 yn ychwanegu at dudalennau ail-gyfeirio Disney - mae'r cyfeiriad o Alabama ond roedd ei olygiadau union fel y fandal Disney felly dwi'n tybio taw ef sy'n gwneud hyn. Rhoddais floc o 6 mis. Glanhawr 01:22, 20 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]
Diolch, Glanhawr. Yr un boi ydy o, mae'n amlwg. Mae'n debyg fod o'n newid ISP(au) i geisio osgoi rhai o'r blociau mawr ar ei hen gyfeiriadau ISP, yma ac ar rai o'r wicis eraill. Dwi wedi diogelu'r tudalennau a fandalwyd. Anatiomaros 16:57, 20 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]

Cyfieithu Nodyn

S'mae? Rwyf wedi bod yn cyfieithu a creu nodau yn diweddar ar gyfer erthyglau. Rwyf wedi bod yn iawn hyd yn hyn, ond y trwbwl yw bod hi'n anodd copio'r templates o wikipediau eraill oherwydd mae angen newid y iaith. Oes yna ffordd syml o wneud hyn? Sai'n gallu ffeindio nodyn yn debyg i hyn ar cy - os mae yna, does dim problem! Dyma shot o'r nodyn rwyf am cyfieithu- y dewislen ar y chwith sy'n gwneud hi'n anodd i'w copio!

Diolch yn fawr. Rhys Thomas 11:17, 5 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]

Nodyn:Blwch llywio yw fersiwn ni o en:Template:Navbox. Newidiwch y paramedrau "title" i "teitl" (sef y teitl sy'n ymddangos ar ben y nodyn), "name" i "enw" (sef beth sy'n dilyn "Nodyn:" yn y blwch URL), a "group1", "list1" ayyb i "grŵp-1", "rhestr-2" ayyb. Sa i'n siŵr am en:Template:SubatomicParticle, efallai byddech eisiau creu cyfieithiad o'r nodyn hwn ar Wicipedia os wyt yn deall y cystrawen wici (gallai helpu ti os oes angen). Gofynnwch os oes unrhyw gwestiynau eraill gennyt. --Adam (Sgwrs) 11:36, 5 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]
Diolch yn fawr iawn! Mae o wedi gweithio!! A oes tudalen yma efo'r cyfieithiadau (fel list- rhestr a.y.y.b) i gyd? Rhys Thomas 11:50, 5 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]
Y person gorau i ysgrifennu canllaw cymorth ar rywbeth yw'r un sydd newydd ymladd ag ef a'i goncro! Fydde un ohonoch yn fodlon mynd ati i ysgrifennu tudalen gymorth ar wneud nodiadau a rhestr o'r nodiadau? Hefyd, byddai'n haws cael hyd i fersiwn o Nodyn sydd i gael yn Gymraeg petai'r cyswllt rhyngwici wedi ei osod ar y nodyn Saesneg. Beth am fynd trwy'r nodiadau yn creu'r cysylltiadau rhyngwici? Lloffiwr 19:29, 13 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]

Sut ydw i'n creu nodyn?

'Mond neges cyflym i ofyn pa mor hawdd yw e i greu nodyn (e.e. nodyn hinsawdd, neu wybodlen awdur a.y.y.b.)? Dw i'n gweld bod nifer o bobl eraill yn llwyddo i'w creu ac maen nhw'n edrych yn arbennig ar dudalennau ond fedra i ddim dod o hyd i ganllawiau ar sut i wneud hyn. Ar hyn o bryd, dw i'n dueddol o gopïo a phastio o dudalennau eraill ond dyw'r nodau ddim bob amser yn addas. Oes rhywun yn gallu esbonio sut mae gwneud hyn, mewn ffordd syml (iawn!) plis? Diolch! Rhodri77 17:47, 7 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]

Dwi'n gwneud yr un peth a ti! Just copio nhw a treial addasu nhw. Mae'r nodyn fel nodyn hinsawdd yn hawdd i'w greu. Ffeindia llun addas o unrhyw wikipedia, amnewid y cynnwys am beth bynnag ti eisio ac yna creu erthygl newydd yn dechrau gyda nodyn: . Yna i rhoi mewn i erthygl rhoi beth bynnag sydd tu ol ir nodyn mewn i gromfachau fel hyn {{blah blah}}. Mae'n anodd mewnfudo nodiadau o en (sai'n gwbod pam!) ond mae mewnfudo o rhai ieithoedd arall yn gweithio'n well.

Edrycha ar rhai o rhain i weld os wyt yn gallu addasu nhw i bethau eraill-

Pob lwc! Rhys Thomas 18:16, 7 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]

Codi maint y ffont

Mae maint y ffont yn llai nag ydyw mewn ambell i Wiki; yn fy marn i, mae'n rhy fach. Beth am ei godi ychydig? Llywelyn2000 20:01, 8 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]

Dwi ddim yn meddwl bod hynny'n bosibl. Yr un maint ydy o dros y wicipedia cyfan, dwi'n meddwl. Pa borwr gwe wyt ti'n iwsio? Cofia fod newid y ffont yng ngosodiadau dy borwr e.e. o Times New Roman i Courier yn cael effaith hefyd. Yn Firefox medrir chwyddo'r dudalen gwe hefyd (neu chwyddo'r testun yn unig) a chadw hynny fel dewis gosod. (Mae cydranedd y sgrin yn gwneud coblyn o wahaniaeth hefyd.) Anatiomaros 20:28, 8 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]
Just pwyso Ctrl a + neu - ydw i! Rhys Thomas 22:02, 8 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]
Toglwch o'r Gymraeg i'r Saesneg. Ydy e'r un maint? Llywelyn2000 22:17, 8 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]
ON: mater digon hawdd ydy cynnyddu maint y testun yn fewnol; dwi wedi gwneud hyn ar: Hafan/Prawf4 er enghraifft. Yn ail, Rhys, mater bach i ti a fi, efallai, ydy i ni gynyddu / codi maint y ffont, ond a ydy'r darllenydd arferol yn gwybod sut i'w wneud? Dwi ddim yn meddwl. Llywelyn2000 07:49, 9 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]

Lluniau Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Helo. Rwy'n rhan o dîm bach sy'n gobeithio ymchwilio, yn ystod mis Awst, i rannu rhywfaint o'r cynnwys digidol sy'n perthyn i Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Un o'r ffyrdd o wneud hyn yw trwy rannu rhai o'n delweddau a ddigidwyd ag erthyglau perthnasol ar Wikipedia a Wicipedia. Byddwn yn ddiolchgar iawn petaech yn anfon unrhyw adborth atom, felly mae croeso i chi bicio draw at ein tudalen 'Defnyddiwr' er mwyn gweld mwy o wybodaeth am y prosiect neu adael sylwadau ar y dudalen Sgwrs. Diolch! Llyfrgell Genedlaethol Cymru 09:32, 31 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]

Syniad ardderchog : byddai'n hwb mawr i waith y wicipedia Cymraeg. (Gweler hefyd eich Tudalen Sgwrs). Anatiomaros 14:58, 31 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]
Fedrith rhywun ddweud wrthyf ym mhle mae dod o hyd i'r hen luniau yma? Dwi wedi edrych ymlaen cymaint i'w gweld nhw, ond a ydyw'r Llyfrgell wedi dal at eu gair a'u rhannu ar Wicipedia? Byddai'n wych eu cael a'u defnyddio fel rhan o'n gwersi hanes. Diolch. Yn siomedig ond eto yn hyderus, RWJ.
Mi osodais rhai mewn categori arbennig Categori:Delweddau o gasgliad John Thomas, ond ynglyn â'u defnydd fel rhan o wersi hanes, bydda rhaid gofyn i'r Llyfrgell am ganitad penodol dw i'n meddwl, yn ôl proffeil y llyfrgell (ar y gwaelod). Fel arfer, mae popeth sy'n cael ei cynnwys ar Wikipedia a Wicipedia ar gael ei bawb eu defnydido heb unrhyw gyfyngiadau, ond bu rhaid cael trwydded hawlfriant newydd er mwyn i'r Llyfrgell allu rhannu eu delweddau. Er bod hyn yn gores i ysbryd Wicipedia, cerdi'r ei bopd yn syniad da fel arbrawf er mwyn caniatau i'r Llyfgrell fynd ymlaen gyda'r prosiect peilot yma.--Ben Bore 16:42, 9 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]
Ategaf yr hyn mae Ben Bore wedi dweud. Rwyf wedi cysylltu eto gyda'r Llyfrgell wedi iddynt ychwanegu rhai sylwadau at eu tudalen. Byddant yn ysgrifennu rhagor am ddefnyddio'r lluniau mewn ysgolion ar dudalen y prosiect rwyn credu. Yr hyn ddywedwyd wrthyf oedd bod cytundeb i gael rhwng y Llyfrgell a'r 'National Grid for Learning' ynglŷn â defnyddio lluniau'r llyfrgell mewn ysgolion. Rwyf wedi ail-ddrafftio 'trwydded' y Llyfrgell ar ôl cael ymateb y Llyfrgell iddo felly dylwn allu ychwanegu hwn at eu delweddau cyn bo hir. Ond rhaid pwysleisio hyn: os mai'r lluniau'n unig yr ydych â diddordeb ynddynt yna dylai fod yr un mor hawdd cael gafael arnynt ar wefan y Llyfrgell ag yw hi fan hyn. Cyn uwchlwytho'r lluniau hyn fan hyn bydd rhaid ysgrifennu'r erthyglau y bydd y lluniau yn ymddangos ynddynt. Felly os am weld y llun, ysgrifennwch yr erthygl gyntaf! Mae'n debyg mai hwn fydd y gwaith mwyaf, yn hytrach na datrys problem technegol yr uwchlwytho. Yn ôl tudalen y Llyfrgell fe gawn fynd ati i uwchlwytho (unwaith y bydd y 'drwydded' wedi ei gwblhau) ein hunain. Mae drafft y polisi ar ddefnyddio lluniau pan nad yw'r drwydded yn rhydd yn barod i'w drafod. Byddaf yn cynnig bod lluniau'r Llyfrgell yn eithriad i'r polisi (oherwydd eu bod yn cael eu huwchlwytho ar ddatrysiad sgrin yn hytrach na datrysiad isel). Mae angen ysgrifennu canllaw ar sut i wneud yr uwchlwytho - dyna'r cam nesaf os oes rhywun am fynd ati i ddraftio. Fe af finnau ati os na fydd rhywun wedi achub y blaen arnaf, ond does wybod pryd - mae pwysau gwaith yn gwaethygu arnaf yn lle gwella. Fe fyddaf yn hen ddigon balch o weld diwedd y gwaith anferth hwn. Yn y cyfamser, os oes rhywun am uwchlwytho llun ac heb wybod sut, gallwch roi nodyn ar y Caffi yn gofyn am gymorth ac mae'n siwr y cewch gymorth neu gyngor ar sut i fynd ati. Lloffiwr 18:35, 13 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]

Mae'r drafft o'r polisi wedi ei altro ychydig bach er mwyn cyfateb i'r un ar Wikipedia Saesneg, a hynny fel ei bod yn hawdd ei amddiffyn pan yn dweud wrth Mediawiki beth yw'n polisi ni (mae'n rhaid sicrhau bod y polisi hwn yn cyfateb i ofynion y polisi perthnasol ar gyfer yr holl brosiectau Mediawiki). Y gwahaniaeth mwyaf yw bod y polisi'n sôn am ddelio teg (fair dealing) yn hytrach na defnydd teg (fair use) oherwydd mai ym Mhrydain mae'r rhan fwyaf o ddefnyddwyr Wicipedia'n byw ac yn Ewrop rwyn credu mae'r gweinydd sy'n cynnal Wicipedia. Ewch draw yn llu i'w drafod fel y gallwn ei roi ar waith.

Ar yr un pryd, rhaid penderfynu a ydym yn fodlon gwneud eithriad i'r polisi ar gyfer Lluniau Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Y mae'r Llyfrgell yn fodlon i ni uwchlwytho ar ddatrysiad uwch na'r datrysiad isel a ganiateir yn ôl y polisi. Ar hyn o bryd ni allaf gael gafael ar y dudalen ar Wikipedia oedd yn diffinio pa mor isel oedd 'datrysiad isel'. All rhywun ddod o hyd i honno - dim amser gennyf! Gan mai prosiect peilot yw hwn, mae'n debyg y gallai'r Llyfrgell holi inni ddileu'r holl luniau o'u heiddo a chau'r prosiect. Ond gan gymryd na fyddant yn gwneud hynny, yr hyn y byddwn yn ei golli, o dderbyn y lluniau, yw'r gallu i ddweud bod holl gynnwys Wicipedia yn rhydd i'w ail-ddefnyddio gan unrhywun. Yr oeddwn wedi drafftio nodyn i'w roi ar bob tudalen a fyddai'n defnyddio lluniau'r Llyfrgell yn rhybuddio nag oedd y lluniau'n rhydd i'w defnyddio. Ond gan nad yw'r Llyfrgell yn pwyso am gael y nodyn yma efallai mai ei gadael heb ei defnyddio sydd orau. Beth yw'r farn? Lloffiwr 19:08, 13 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]

Rargian mi rwyt ti wedi bod yn brysur, a hynny yn y maes pwysicaf un!!! Os nad yw'r Llyfrgell yn pwyso am gael y nodyn yma yna, fel y dywedi di, ei adael heb ei ddefnyddio fyddai orau. Ie wir. O leiaf mi fydd ein pobol a'n plant yn cael mynediad i rai o'n creiriau pwysicaf ni, ac, yn ail, mi fydd hyn yn esiampl i'r cyrff eraill (e.e. yr Amgueddfa GC), y gallent hwythau ddefnyddio Wici fel cyfrwng i gyflwyno ac i boblogeiddio eu gwaith. Mae gen i ddigon o ffydd ynot ti, Lloffiwr, i wneud penderfniadau dros y gweddill ohonom. Rwyf gant-y-cant y tu ôl i ti. Llywelyn2000 08:57, 14 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]
Ynglŷn ag ail bwynt Lloffiwr: Dwi ddim yn cofio lle yn union mae'r ddogfen yng nghanol holl aparatws biwrocrataidd "en:", ond y drefn yna yw rhoi'r nodyn ar dudalen y ffeil (delwedd) ei hun. Dim angen yn yr erthygl felly. Dydy'r ffaith fod yna filoedd lawer o ddelweddau o'r fath ar y wicipedia Saesneg ddim wedi rhwystro nhw rhag ddweud ei fod yn wyddoniadur rhydd (math o ôl-nodyn i'r datganiad hwnnw yw achos arbennig y delweddau yn y categori yma). A sôn am y Llyfrgell Genedlaethol, be ydy'r sefyllfa rwan? Dim gair ganddynt ers sbel. Anatiomaros 13:27, 14 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]
Mae rhoi'r nodyn ar y llun 1. yn symlach 2. yn ei gwneud hi'n gwbwl amhosib i neb ddadlau nad oedd ar y dudalen 3. yn dileu'r amheuaeth o ba lun / lluniau y cyfeirir ato. Mae angen ailwampio'r geiriad, felly (os derbynir cynnig Anatiomaros) i (i aralleirio Nodyn Lloffiwr): Mae'r llun hwn wedi'i osod ar dermau trwydded nad yw'n rhydd. Cyn argraffu'r llun neu ei ail-ddefnyddio, darllenwch dermau'r drwydded (DOLEN) ar dudalen ddisgrifiad y llun, os gwelwch yn dda. Llywelyn2000 06:04, 3 Mai 2009 (UTC)[ateb]
Swnio'n iawn i mi. Y peth pwysig am rwan ydy cael y polisi yn y lle cyntaf. Wedyn, os bydd rhaid, medrem ni fynd ati i'w ddiwygio (siwr gen i fod y ddogfen Saesneg wedi newid cryn dipyn dros y blynyddoedd yn ei manylion ac yn debyg o wnweud eto yn y dyfodol). Rhaid symud ymlaen. Anatiomaros 23:46, 3 Mai 2009 (UTC)[ateb]

Wikicyfrwng DU

Ni yw Wicicyfrwng DU - y criw lleol o Wicigyfryngwyr sy'n ceisio cynorthwyo'r Sefydliad i
"greu byd lle mae pob un bod dynol yn medru rhannu a derbyn am ddim byd cyfan o wybodaeth".
Mwynhau Wicipedia? Wedi eich lleoli yn y DU?
Fedrwch chi ein cefnogi drwy prosiectau greu ffotograffau sy'n rhydd o hawlfraint, drwy ryddhau deunydd mewn archifau a thrwy gysylltu gyda'r cyfryngau? Neu a oes yna brosiectau y carwch i ni eich cynorthwyo?
os oes, yna cliciwch yma i Ymuno, Gyfrannu a Dod yn rhan

AndrewRT 22:31, 15 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]

Merge?

Why do we have both Ffugbidlen and Cala goeg ?

Penbleth llwyr... hollol bizarre!

Newydd edrych ar y newidiadau diweddar ac mae'n dweud mod i wedi newid y dudalen ar ITV (gwrthdroi golygiadau rhyw gyfeiriad IP) ond dw i ddim hyd yn oed wedi edrych ar y dudalen heb son am newid unrhyw beth? Sut mae hynny wedi digwydd?? Rhodri77 06:56, 18 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]

Mi ges i rywbeth tebyg yn digwydd tua deufis yn ol. Ysbryd yn y peiriant alwais i'r peth yr adeg honno. Ych-a-fi! Efallai mai'r syrfyr yn cymysgu dau Ddefnyddiwr wrth eu cadw? Dwn i ddim! Llywelyn2000 22:41, 30 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]

Gwybodlen Sefydliad

Trio creu Gwybodlen sefydliad ydw i - wedi'i seilio ar y fersiwn Saesneg isod (wedi tynnu cromfachau):

Infobox Organization |name = WJEC |image = WJEC.png |size = 100px |formation = 1948 |purpose = Examination board |headquarters = Cardiff, Wales |region_served = England, Wales and Northern Ireland |website = www.wjec.co.uk


Yn anffodus, dwy' ddim wedi llwyddo i ddyfalu beth yw'r termau Cymraeg priodol ar gyfer y wybodlen, nac ychwaith fedru canfod ymhle byddai diffiniadau o'r math yma'n cael eu storio. Yr unig lwyddiannau sy' gen i hyd yn hyn yw:

gwybodlen sefydliad = infobox organisation; name = enw; image = delwedd; size = maint; formation = sefydlwyd; headquarters = pencadlys

unrhyw syniad am y gweddill? Cwestiwn dwl, siwr o fod - ond dal i ddysgu yma! Gwydion 11:59, 5 Mai 2009 (UTC)[ateb]

Ai dyma'r un ar y wiki Saesneg ([2])? Mae'n cynnwys rhai termau diarth. Y broblem gyda throsglwyddo rhai o'r gwybodlenni hyn ydy bod rhaid creu sawl nodyn arbennig yma ar ein system ni weithiau er mwyn iddyn nhw weithio. Gellid addasu un o'r gwybodlenni sy gennym yn barod, efallai, gan newid y meusydd? (gweler Categori:Gwybodlenni). Dwi wedi dysgu rhywfaint am y pethau 'ma, trwy arbrofi, ond efallai bydd rhywun sy'n fwy o giamstar ar yr ochr dechnegol yn medru helpu pan ddônt yma, nes ymlaen? Anatiomaros 14:51, 5 Mai 2009 (UTC)[ateb]
Ie, edrych yn debyg iawn i fi. A - do'n i ddim yn deall bod angen gwneud newidiadau ar y system yr ochr yma i gael pethau i weithio. Dim problem - medra i fyw heb y manylion ychwanegol. Efallai y gwna' i arbrofi ychydig yn bellach i weld beth sy'n bosib. Ymhellach: Nodyn:Gwybodlen_Sefydliad yn bod yn barod - do'n i jyst ddim yn gwybod sut i gyrraedd ato... ambell faes y medra' i'u defnyddio - gwych! (a diolch eto) Gwydion 15:08, 5 Mai 2009 (UTC)[ateb]
A, wel mae hynny'n help! Dwi'n dechrau colli trac! Anatiomaros 15:15, 5 Mai 2009 (UTC)[ateb]
Dwi wedi gwella'r gwybodlen i wneud fel yr un Saesneg. Nid wyf yn defnyddio'r gwybodlen sefydliad- yn hytrach rwyf yn addasu a chwarae o amgylch gyda gwybodlenni sydd ar gael yma yn barod. Yn anffodus mae'n anodd iawn copio nodiadau o'r saesneg- weithiau mae copio nhw o ieithoedd eraill yn haws!!- mae'n boendod! Pob hwyl, Rhys Thomas 07:52, 9 Mai 2009 (UTC)[ateb]
Mi rwyt ti'n cael hwyl aruthrol ar y Nodynau (!) yma. Ond paid ag anghofio'r arholiadau! Llawer pwysicach ar hyn o bryd! Llywelyn2000 12:57, 9 Mai 2009 (UTC)[ateb]