Stranraer: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Muro Bot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: it:Stranraer |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 7: | Llinell 7: | ||
[[Categori:Trefi Dumfries a Galloway]] |
[[Categori:Trefi Dumfries a Galloway]] |
||
[[Categori:Trefi'r Alban]] |
|||
[[bg:Странрар]] |
[[bg:Странрар]] |
Fersiwn yn ôl 16:44, 8 Mai 2009
Mae Stranraer (Gaeleg: An t-Sròn Reamhar 'Y Trwyn Llydan') yn dref a phorthladd yn sir Dumfries a Galloway yn ne-orlewin Yr Alban. O'r porthladd mae gwasanaethau llong fferi yn cysytllu'r dref a Belffast, Gogledd Iwerddon. Poblogaeth: 10,807 (2001).
Mae Stranraer yn gorwedd ar gilfach môr Loch Ryan. I'r gorllewin mae bryniau isel hir Rinnau Galloway (Rinns of Galloway) yn ei chysgodi. Mae priffyrdd yn cysylltu'r dref â Girvan ac Ayr i'r gogledd a Newton Stewart a Dumfries i'r dwyrain. O borthladd Cairnryan, ar lan Loch Ryan tua 5 milltir o'r dref, mae gwasanaeth fferi arall yn rhedeg i Larne, Gogledd Iwerddon.
Tua 6 milltir i'r de-ddwyrain o Stranraer ceir pentref Dunragit a Rhos Dunragit. Credir fod yr enw Dunragit yn tarddu o'r enw 'Din Reged', "Caer Reged", a oedd yn ganolfan bwysig yn nheyrnas Rheged, un o deyrnasoedd Brythonaidd yr Hen Ogledd.