Dodecanese: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Alexbot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: ko:도데카니사 제도 |
B robot yn ychwanegu: war:Dodekanesa |
||
Llinell 62: | Llinell 62: | ||
[[uk:Додеканес]] |
[[uk:Додеканес]] |
||
[[ur:جزائر ڈوڈکینیز]] |
[[ur:جزائر ڈوڈکینیز]] |
||
[[war:Dodekanesa]] |
|||
[[zh:十二群島]] |
[[zh:十二群島]] |
Fersiwn yn ôl 00:10, 6 Mai 2009
Grŵp o ynysoedd yn nwyrain Gwlad Groeg yw'r Dodecanese. Ystyr yr enw Groeg yw "Y Deuddeg Ynys" ond mae'n enw camarweiniol braidd. Ceir 14 prif ynys yn y grŵp heddiw a cheir trigfannau ar ambell ynys lai yn ogystal. Yn ddiwylliannol ac yn wleidyddol maent yn perthyn i Wlad Groeg ond yn ddaearyddol mae nhw'n perthyn i Asia Leiaf am eu bod yn gorwedd yn agos iawn i'w harfordir de-orllewinol. Mae'r enw 'Dodecanese' yn deillio o 1908 pan unodd deuddeg ynys mewn protest yn erbyn colli eu breintiau traddodiadol dan lywodraeth yr Otomaniaid, a roddwyd iddynt yn y 16eg ganrif gan Suleiman y Mawreddog. Ystyrir ynys Rhodes, nad oedd yn un o'r deuddeg ynys gwreiddiol, fel y pennaf o'r Dodecanese heddiw gyda dinas Rhodes yn brifddinas y grŵp. Twristiaeth sy'n dominyddu'r economi lleol erbyn heddiw.