Pelagius: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
BDim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 6: | Llinell 6: | ||
Wrth i'r [[Fisigothiaid]] baratoi i ymosod ar Rufain yn 410, ffoes o'r ddinas honno i dalaith Rufeinig [[Affrica (talaith Rufeinig)|Affrica]]. Yno wynebodd wrthwynebiad ffyrnig Awstin o Hippo. Oddi yno ffoes i [[Palesteina|Balesteina]]. |

Ysgrifenodd sawl traethawd yn egluro ei athrawiaeth, yn cynnwys ''De Natura'' a ''De Liber Arbitrio''. Cafodd athrawiaeth Pelagius ei chyhoeddi'n anathema yn y 5ed ganrif a'r ganrif olynol. Cadarnheuwyd hynny gan benderfyniad [[Cyngor Trent]] (1545-1563). |
Ysgrifenodd sawl traethawd yn egluro ei athrawiaeth, yn cynnwys ''De Natura'' a ''De Liber Arbitrio''. Cafodd athrawiaeth Pelagius ei chyhoeddi'n anathema yn y 5ed ganrif a'r ganrif olynol. Cadarnheuwyd hynny gan benderfyniad [[Cyngor Trent]] (1545-1563). Roedd ei athrawiaeth yn wrthun i'r [[Calfin]]iaid. |
||
Mae'r dystiolaeth yn gymysg am ddylanwad Pelagiaeth yn y Brydain ôl-Rufeinig a'r Gymru gynnar. Yn ôl traddodiad, ymwelodd Sant [[Garmon]] (Germanicus) â Phrydain i ymladd dylanwad 'Pelagiaeth'; awgryma hynny fod dilynwyr Pelagius yn niferus yno. Mae [[Gildas]] yn cyhuddo'r Brenin [[Maelgwn Gwynedd]] o fod yn Belagiad. Yn ôl ''Buchedd Dewi'', llyfr canoloesol sy'n honni adrodd hanes bywyd [[Dewi Sant]], cynhaliwyd [[synod]] [[Llanddewi Brefi]] yn y 6ed ganrif, lle galwyd ar Ddewi i gondemnio 'Pelagiaeth', oherwydd pryder fod dylanwad Pelagius yn gryf yng Nghymru. Nid yw'n amhosibl felly mai Cymro oedd Pelagius, ond does dim modd profi hynny. |

==Llyfryddiaeth== |
|||
* Brinley R. Rees, ''Pelagius: A Reluctant Heretic'' (Woodbridge, 1988) |
|||
==Gweler hefyd== |
==Gweler hefyd== |
||
Llinell 19: | Llinell 22: | ||
[[Categori:Cristnogaeth yng Nghymru]] |
[[Categori:Cristnogaeth yng Nghymru]] |
||
[[Categori:Diwinyddion]] |
[[Categori:Diwinyddion]] |
||
[[Categori:Llenorion Lladin]] |
|||
[[Categori:Yr Ymerodraeth Rufeinig]] |
|||
[[en:Pelagius]] |
[[en:Pelagius]] |
Fersiwn yn ôl 16:06, 5 Mai 2009
- Am bobl eraill o'r un enw gweler Pelagius (gwahaniaethu).
Diwinydd Brythonig oedd Pelagius (tua 350 - tua 418), a wrthwynebai athrawiaeth Awstin o Hippo am ras anorchfygol. Condemniwyd ef a'i ddysgeidiaeth, a elwir weithiau yn 'Belagiaeth', am fod yn heresïol yn nes ymlaen ond am gyfnod bu'n eithaf dylanwadol. Yn y traddodiad Cymreig cyfeirir ato weithiau fel Morgan (sy'n deillio o 'môranedig' efallai, cyfystyr â'r enw Lladin Pelagius).
Cymharol ychydig a wyddom am ei hanes ei hun. Roedd yn frodor o Brydain, o dras Brythonig, a deithiodd i ddinas Rhufain ac ymsefydlu yno; ffaith sy'n awgrymu ei fod yn ddinesydd Rhufeinig. Daeth yn adnabyddus yno fel dysgawdwr gyda chylch o ddisgyblion o dras bonheddig. Cyhoeddodd ei fod yn bosibl i ddyn ymberffeithio heb ymyraeth Duw ac arweiniodd hynny iddo gael ei gyhuddo o wrthod ag athrawiaeth pechod gwreiddiol.
Wrth i'r Fisigothiaid baratoi i ymosod ar Rufain yn 410, ffoes o'r ddinas honno i dalaith Rufeinig Affrica. Yno wynebodd wrthwynebiad ffyrnig Awstin o Hippo. Oddi yno ffoes i Balesteina.
Ysgrifenodd sawl traethawd yn egluro ei athrawiaeth, yn cynnwys De Natura a De Liber Arbitrio. Cafodd athrawiaeth Pelagius ei chyhoeddi'n anathema yn y 5ed ganrif a'r ganrif olynol. Cadarnheuwyd hynny gan benderfyniad Cyngor Trent (1545-1563). Roedd ei athrawiaeth yn wrthun i'r Calfiniaid.
Mae'r dystiolaeth yn gymysg am ddylanwad Pelagiaeth yn y Brydain ôl-Rufeinig a'r Gymru gynnar. Yn ôl traddodiad, ymwelodd Sant Garmon (Germanicus) â Phrydain i ymladd dylanwad 'Pelagiaeth'; awgryma hynny fod dilynwyr Pelagius yn niferus yno. Mae Gildas yn cyhuddo'r Brenin Maelgwn Gwynedd o fod yn Belagiad. Yn ôl Buchedd Dewi, llyfr canoloesol sy'n honni adrodd hanes bywyd Dewi Sant, cynhaliwyd synod Llanddewi Brefi yn y 6ed ganrif, lle galwyd ar Ddewi i gondemnio 'Pelagiaeth', oherwydd pryder fod dylanwad Pelagius yn gryf yng Nghymru. Nid yw'n amhosibl felly mai Cymro oedd Pelagius, ond does dim modd profi hynny.
Llyfryddiaeth
- Brinley R. Rees, Pelagius: A Reluctant Heretic (Woodbridge, 1988)