Pelagius: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: :''Am bobl eraill o'r un enw gweler Pelagius (gwahaniaethu).'' Diwinydd Brythonig oedd '''Pelagius''' (tua 350 - tua 418), a wrthwynebai…
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 16:01, 5 Mai 2009

Am bobl eraill o'r un enw gweler Pelagius (gwahaniaethu).

Diwinydd Brythonig oedd Pelagius (tua 350 - tua 418), a wrthwynebai athrawiaeth Awstin o Hippo am ras anorchfygol. Condemniwyd ef a'i ddysgeidiaeth, a elwir weithiau yn 'Belagiaeth', am fod yn heresïol yn nes ymlaen ond am gyfnod bu'n eithaf dylanwadol. Yn y traddodiad Cymreig cyfeirir ato weithiau fel Morgan (sy'n deillio o 'môranedig' efallai, cyfystyr â'r enw Lladin Pelagius).

Cymharol ychydig a wyddom am ei hanes ei hun. Roedd yn frodor o Brydain, o dras Brythonig, a deithiodd i ddinas Rhufain ac ymsefydlu yno; ffaith sy'n awgrymu ei fod yn ddinesydd Rhufeinig. Daeth yn adnabyddus yno fel dysgawdwr gyda chylch o ddisgyblion o dras bonheddig. Cyhoeddodd ei fod yn bosibl i ddyn ymberffeithio heb ymyraeth Duw ac arweiniodd hynny iddo gael ei gyhuddo o wrthod ag athrawiaeth pechod gwreiddiol.

Wrth i'r Fisigothiaid baratoi i ymosod ar Rufain yn 410, ffoes o'r ddinas honno i dalaith Rufeinig Affrica. Yno wynebodd wrthwynebiad ffyrnig Awstin o Hippo. Oddi yno ffoes i Balesteina.

Ysgrifenodd sawl traethawd yn egluro ei athrawiaeth, yn cynnwys De Natura a De Liber Arbitrio. Cafodd athrawiaeth Pelagius ei chyhoeddi'n anathema yn y 5ed ganrif a'r ganrif olynol. Cadarnheuwyd hynny gan benderfyniad Cyngor Trent (1545-1563).

Mae'r dystiolaeth yn gymysg am ddylanwad Pelagiaeth yn y Brydain ôl-Rufeinig a'r Gymru gynnar. Yn ôl traddodiad, ymwelodd Sant Garmon (Germanicus) â Phrydain i ymladd dylanwad 'Pelagiaeth'; awgryma hynny fod dilynwyr Pelagius yn niferus yno. Mae Gildas yn cyhuddo'r Brenin Maelgwn Gwynedd o fod yn Belagiad. Yn ôl Buchedd Dewi, llyfr canoloesol sy'n honni adrodd hanes bywyd Dewi Sant, cynhaliwyd synod Llanddewi Brefi yn y 6ed ganrif, lle galwyd ar Ddewi i gondemnio 'Pelagiaeth', oherwydd pryder fod dylanwad Pelagius yn gryf yng Nghymru. Nid yw'n amhosibl felly mai Cymro oedd Pelagius, ond does dim modd profi hynny.

Gweler hefyd