Rheged: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B robot Ychwanegu: no:Rheged |
delwedd |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Delwedd:North Britain 547-685.png|thumb|240px|Rheged a'r teyrnasoedd o'i chwmpas]] |
[[Delwedd:North Britain 547-685.png|thumb|240px|Rheged a'r teyrnasoedd o'i chwmpas]] |
||
[[Delwedd:Britain 500 CE.png|bawd|de|300px|Teyrnasoedd Brythoneg Ôl-Rufeinig posibl]] |
|||
Roedd '''Rheged''' yn deyrnas [[Brython|Frythonig]] yn [[Yr Hen Ogledd]] oddeutu’r [[6ed ganrif]]. Ymddengys mai [[Caerliwelydd]] oedd canolfan y deyrnas, ac roedd yn ymestyn dros ran sylweddol o’r hyn sy’n awr yn ogledd-orllewin [[Lloegr]] ac efallai dros ran o dde-orllewin [[Yr Alban]]. |

Fersiwn yn ôl 16:03, 4 Mai 2009
Roedd Rheged yn deyrnas Frythonig yn Yr Hen Ogledd oddeutu’r 6ed ganrif. Ymddengys mai Caerliwelydd oedd canolfan y deyrnas, ac roedd yn ymestyn dros ran sylweddol o’r hyn sy’n awr yn ogledd-orllewin Lloegr ac efallai dros ran o dde-orllewin Yr Alban.
Mae cyfeiriadau at Rheged ym marddoniaeth Taliesin, sy’n cynnwys cerddi i frenin Rheged, Urien Rheged, ac i’w fab Owain fab Urien. Disgrifir Urien fel arglwydd Llwyfenydd (dyffryn Afon Lyvennet heddiw), ac hefyd fel arglwydd Catraeth.
Roedd brenhinoedd Rheged yn cynnwys:
- Meirchion Gul
- Cynfarch Oer
- Urien Rheged neu Urien ap Cynfarch
- Owain ab Urien
Yn ôl yr achau traddodiadol, roedd llinach arall yn disgyn o frawd Cynfarch, Elidir Lydanwyn; ei fab ef oedd Llywarch Hen.
Wedi i deynasoedd Eingl-Sacsoniaid Brynaich a Deifr uno I ddod yn deyrnas Northumbria, meddiannwyd Rheged gan Northumbria rywbryd cyn 730. Cofnodir priodas rhwng Oswiu, brenin Northumbria a thywysoges o Rheged tua 638, ac efallai iddo etifeddu’r deyrnas o ganlyniad I’r briodas yma.
Rhoddwyd enw’r deyrnas I’r Rheged Discovery Centre gerllaw Penrith, Cumbria. Mae’r enw Cumbria ei hun yn dod o’r un gwreiddyn a Cymry.