Dominiciaid: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Barn Dafydd ap Gwilym!
Llinell 1: Llinell 1:
[[Image:Blason LBP.svg|right|thumb|200px|Arfbais y Dominiciaid]]
[[Image:Blason LBP.svg|right|thumb|200px|Arfbais y Dominiciaid]]


Urdd mynachol yn perthyn i'r [[Eglwys Gatholig]] yw '''Urdd y Pregethwyr''' ([[Lladin]]: ''Ordo Praedicatorum''), yn fwy adnabyddus fel y '''Dominiciaid''' neu '''Urdd y Dominiciaid'''. Sefydlwyd yr Urdd gan [[Sant Dominic]] yn nechrau'r [[13eg ganrif]].
Urdd mynachol yn perthyn i'r [[Eglwys Gatholig]] yw '''Urdd y Pregethwyr''' ([[Lladin]]: ''Ordo Praedicatorum'' sef "Urdd y Pregethwyr"), yn fwy adnabyddus fel y '''Dominiciaid''' neu '''Urdd y Dominiciaid'''. Sefydlwyd yr Urdd gan [[Sant Dominic]] yn nechrau'r [[13eg ganrif]].

Gelwir y Dominiciaid "y Brodyr Duon" weithiau, oherwydd eu bod yn gwisgo clogyn neu ''cappa'' du. Defnyddia aelodau'r urdd y llythrennau '''O.P.''' (''Ordinis Praedicatorum'') ar ôl eu henwau.

==Cymru==
Mae un o'r Brodyr Duon Cymreig yn gymeriad mewn cerdd gan [[Dafydd ap Gwilym]]. Mae'r Brodyr hyn yn atgas gan Ddafydd:

:Duw a ŵyr, synnwyr a sôn,
:Deall y brodyr duon!
:Y rhain y sydd, ffydd ffalsddull,
:Ar hyd yr hollfyd yn rhull,
:Bŵl gwfaint, bobl ogyfoed,
:Bob dau dan yr iau erioed.<ref>Thomas Parry (gol.), ''Gwaith Dafydd ap Gwilym'' (Caerdydd, ail argraffiad 1963), cerdd 138 'Rhybudd Brawd Du', llau. 3-8.</ref>

Mae'r mynach yn rhybuddio'r bardd i ddiwygio ei hun a pheidio a'i [[canu serch|gerddi serch]] a hel merched neu wynebu poenau [[Uffern]] ond mae Dafydd yn ateb yn herfeiddiol mae rheitiach i ddyn lawenhau a charu na bod yn drist a chwerw.<ref>''Gwaith Dafydd ap Gwilym'', cerdd 138 'Rhybudd Brawd Du', llau. 28-34.</ref>

==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}


Gelwir y Dominiciaid "y brodut Duon" withiau, oherwydd eu bod yn gwisgo clogyn neu ''cappa'' du. Defnyddia aelodau'r urdd y llythrennau '''O.P.''' (''Ordinis Praedicatorum'') ar ôl eu henwau.


[[Categori:Urddau Mynachaidd Cristnogol]]
[[Categori:Urddau Mynachaidd Cristnogol]]

Fersiwn yn ôl 15:48, 4 Mai 2009

Arfbais y Dominiciaid

Urdd mynachol yn perthyn i'r Eglwys Gatholig yw Urdd y Pregethwyr (Lladin: Ordo Praedicatorum sef "Urdd y Pregethwyr"), yn fwy adnabyddus fel y Dominiciaid neu Urdd y Dominiciaid. Sefydlwyd yr Urdd gan Sant Dominic yn nechrau'r 13eg ganrif.

Gelwir y Dominiciaid "y Brodyr Duon" weithiau, oherwydd eu bod yn gwisgo clogyn neu cappa du. Defnyddia aelodau'r urdd y llythrennau O.P. (Ordinis Praedicatorum) ar ôl eu henwau.

Cymru

Mae un o'r Brodyr Duon Cymreig yn gymeriad mewn cerdd gan Dafydd ap Gwilym. Mae'r Brodyr hyn yn atgas gan Ddafydd:

Duw a ŵyr, synnwyr a sôn,
Deall y brodyr duon!
Y rhain y sydd, ffydd ffalsddull,
Ar hyd yr hollfyd yn rhull,
Bŵl gwfaint, bobl ogyfoed,
Bob dau dan yr iau erioed.[1]

Mae'r mynach yn rhybuddio'r bardd i ddiwygio ei hun a pheidio a'i gerddi serch a hel merched neu wynebu poenau Uffern ond mae Dafydd yn ateb yn herfeiddiol mae rheitiach i ddyn lawenhau a charu na bod yn drist a chwerw.[2]

Cyfeiriadau

  1. Thomas Parry (gol.), Gwaith Dafydd ap Gwilym (Caerdydd, ail argraffiad 1963), cerdd 138 'Rhybudd Brawd Du', llau. 3-8.
  2. Gwaith Dafydd ap Gwilym, cerdd 138 'Rhybudd Brawd Du', llau. 28-34.