Bologna: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
JAnDbot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: war:Bologna |
B robot yn ychwanegu: th:โบโลนยา |
||
Llinell 90: | Llinell 90: | ||
[[sr:Болоња]] |
[[sr:Болоња]] |
||
[[sv:Bologna]] |
[[sv:Bologna]] |
||
[[th:โบโลนยา]] |
|||
[[tr:Bolonya]] |
[[tr:Bolonya]] |
||
[[uk:Болонья]] |
[[uk:Болонья]] |
Fersiwn yn ôl 21:10, 3 Mai 2009
Dinas yng ngogledd yr Eidal yw Bologna (Lladin Bononia). Hi yw prifddinas talaith Emilia-Romagna, rhwng Afon Po a mynyddoedd yr Appenninau.
Sefydlwyd y ddinas gan yr Etrwsciaid fel Felsina oddeutu'r flwyddyn 534 CC. Yn y bedwaredd ganrif CC, concrwyd y ddinas gan lwyth Celtaidd y Boii, a chafodd yr enw Bononia. Daeth yn colonia Rhufeinig tua 189 CC, ac ychwanegwyd at bwysigrwydd y ddinas pan adeiladwyd y Via Aemilia yn 187 CC. Daeth yn municipium yn 88 CC, ac am gyfnod fe'i hystyrid yn ail ddinas yr Eidal.
Yn 728, cipiwyd y ddinas gan Liutprand, brenin y Lombardiaid. Yn 1088, sefydlwyd Prifysgol Bologna, Alma Mater Studiorum, y brifysgol hynaf yn y byd gorllewinol.
Roedd y boblogaeth yn 2007 yn 373,170.
Adeiladau a chofadeiladau
- Arca di San Domenico
- Basilica San Petronio
- Collegio di Spagna
- Palazzo d'Accursio
- Porta Saragozza
- Stadio Renato Dall'Ara
- Teatro Comunale di Bologna
Pobl o Fologna
- Domenichino (1581 - 1641), arlunydd
- Maria Gaetana Agnesi (1718-1799), mathemategydd
- Guglielmo Marconi (1874 - 1937), peiriannydd
- Ottorino Respighi (1879 - 1936), cyfansoddwr
- Rossano Brazzi (1916-1994), actor