Ariel (lloeren): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
TXiKiBoT (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: scn:Ariel
Amirobot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: fa:آریل (ماه)
Llinell 32: Llinell 32:
[[en:Ariel (moon)]]
[[en:Ariel (moon)]]
[[es:Ariel (luna)]]
[[es:Ariel (luna)]]
[[fa:آریل (ماه)]]
[[fi:Ariel (kuu)]]
[[fi:Ariel (kuu)]]
[[fr:Ariel (lune)]]
[[fr:Ariel (lune)]]

Fersiwn yn ôl 22:00, 27 Ebrill 2009

Delwedd:85629001 d8ca63123b m.jpg
Ariel

Ariel yw'r ddeuddegfed o loerennau Wranws a wyddys:

Cylchdro: 190,930 km oddi wrth Wranws

Tryfesur: 1158 km

Cynhwysedd: 1.27e21 kg


'Ariel' yw'r ysbryd awyr direidus yn y ddrama The Tempest gan Shakespeare.

Cafodd y lloeren ei darganfod gan Lassell ym 1851.

Mae Ariel a Thitania'n ymddangos yn debyg i'w gilydd er bod Titania'n 35% yn fwy. Mae Ariel -fel gweddill lloerennau mawr Wranws- wedi ei chyfansoddi o 40-50% dŵr a 50-60% deunydd creigiog.

Mae arwyneb Ariel yn gymysgedd o graterau a dyffrynnoedd rhyng-gysylltiedig sy'n gannoedd o gilomedrau o hyd a mwy na 10 km o ddyfnder. Mae hynny'n debyg i, ond yn fwy, na'r sefyllfa ar Ditania.Ymddengys rhai o'r craterau i fod wedi hanner eu tansuddo. Mae arwyneb Ariel yn gymharol ifanc; yn amlwg mae rhyw broses o adnewyddu'r arwyneb ar waith. Mae rhai o'r trumiau yng nghanol y dyffrynnoedd yn cael eu hystyried yn ymchwyddiadau iâ.

Gallai Ariel wedi bod yn boeth o'i mewn yn y gorffennol, ond bellach mae hi'n oer. Gallai'r dyffrynnoedd fod yn graciau a ffurfiwyd wrth i Ariel oeri.