Fitamin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot yn ychwanegu: tl:Bitamina
VolkovBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn newid: ar:فيتامين
Llinell 50: Llinell 50:
[[Categori:Diet]]
[[Categori:Diet]]


[[ar:حيمين]]
[[ar:فيتامين]]
[[bg:Витамин]]
[[bg:Витамин]]
[[bs:Vitamini]]
[[bs:Vitamini]]

Fersiwn yn ôl 12:28, 23 Ebrill 2009

Roedd yr hen Eifftiaid yn deall gwerth bwyta iau (neu afu (yng nghefn y llun) er mwyn gwella rhai afiechyd e.e. dallineb nos (nyctalopia)

Cyfansoddyn organig yw fitamin, sydd yn angenrheidiol ar lawer o organebau byw. Fel arfer mae'r organeb yn derbyn y fitamin drwy ei ddiet ond mae rhai eithriadau megis fitamin D sy'n dod o belydrau is-goch yr haul ac yn cael ei greu yn y croen.

Dosberthir fitaminau yn ôl yr hyn mae nhw'n ei wneud (eu gweithgaredd cemegol a biolegol yn hytrach na sut mae nhw wedi cael eu creu (hy eu gwneuthuriad strwythurol).

Mae dau fath o fitaminau: y rhai sy'n hydoddi mewn dŵr a'r rhai hynny sy'n hydoddi mewn olew.

Ei bwrpas

Mae llawer o effeithiau biocemegol i fitaminau yn y corff, a gallent gael effaith ar: hormonau (e.e. fitamin D), gwrthocsidant (e.e. fitamin E) a rheolwyr celloedd a datblygiad meinwe'r corff. Mae teulu fitaminau B yn rhagflaenu ensymau a chydensymau ('coenzymes') sy'n gweithio fel catalyddion y metaboledd. Yr adeg hon, maent yn clymu eu hunain yn sownd i'r ensymau a chânt eu galw yn gwrpiau prosthetig e.e. biotin, sy'n cynorthwyo ensymau i greu 'fatty acids' .

Hanes

Roedd yr hen Eifftiaid yn deall gwerth bwyta iau er mwyn gwella rhai afiechyd e.e. dallineb nos (nyctalopia); erbyn hyn fe wyddom mai diffyg fitamin A yw'r rheswm. Roedd fforwyr a morwyr y 17eg ganrif hefyd yn deall pwysigrwydd ffrwythau ffres i gadw'r clefri poeth (neu 'sgyrfi') i ffwrdd; diffyg fitamin C oedd y tu ôl i'r cwbwl.


Blwyddyn ei ddarganfod a'u tarddiad
Blwyddyn eu darganfod Fitamin Tarddiad
1909 Fitamin A (Retinol) Olew penfras
1912 Fitamin B1 (Thiamin) Reis
1912 Fitamin C (Asid Ascorbig) Lemonau
1918 Fitamin D (Calciferol) Olew penfras
1920 Fitamin B2 (Ribofflafin) Wyau ieir
1922 Fitamin E (Tocopherol) Gwenith, Cosmetic and Iau
1926 Fitamin B12 (Cyanocobalamin) Iau
1929 Fitamin K (Phylloquinone) Alfalfa
1931 Fitamin B5 (Asid Pantothenig) Iau
1931 Fitamin B7 (Biotin) Iau
1934 Fitamin B6 (Pyridocsin) Reis
1936 Fitamin B3 (Niacin) Iau
1941 Fitamin B9 (Asid Ffolig) Iau