William Williams, Pantycelyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
→‎top: Cyffredinol using AWB
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
→‎top: Gwybodlen: ychwanegu Draig Goch using AWB
Llinell 1: Llinell 1:
{{Gwybodlen person/Wicidata | fetchwikidata=ALL | onlysourced=no
{{Gwybodlen person/Wicidata | fetchwikidata=ALL | onlysourced=no
| suppressfields= cenedl dinasyddiaeth
| suppressfields= dinasyddiaeth | nationality = {{banergwlad|Cymru}}
| dateformat = dmy
| dateformat = dmy
}}
}}

Fersiwn yn ôl 14:38, 21 Mai 2018

William Williams, Pantycelyn
FfugenwWilliams Pantycelyn Edit this on Wikidata
Ganwyd11 Chwefror 1717 Edit this on Wikidata
Llanfair-ar-y-bryn Edit this on Wikidata
Bu farw11 Ionawr 1791 Edit this on Wikidata
Pantycelyn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Academi Llwynllwyd Edit this on Wikidata
Galwedigaethieithydd, bardd, emynydd, pregethwr, gweinidog yr Efengyl Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadHowel Harris Edit this on Wikidata

Bardd, emynydd ac awdur rhyddiaith grefyddol oedd William Williams (tua 11 Chwefror 171711 Ionawr 1791), neu (Williams) Pantycelyn. Roedd yn frodor o blwyf Llanfair-ar-y-bryn, Sir Gaerfyrddin. Mae'n cael ei adnabod fel "Pantycelyn" ar ôl enw y ffermdy y bu'n byw ynddo, yn y bryniau ger Pentre Tŷ-gwyn.

Ei fywyd

Cafodd droedigaeth wrth wrando ar Howel Harris yn pregethu yn Nhalgarth yn 1737. Er iddo fod yn gurad i Theophilus Evans am gyfnod, gwrthodwyd ei urddo yn offeiriad yn Eglwys Loegr yn 1743 oherwydd ei gysylltiadau â'r Methodistiaid. Ar ôl hynny canolbwyntiodd ar weithio dros y mudiad Methodistaidd. Roedd yn bregethwr teithiol a daeth yn enwog am ei allu arbennig i arwain seiadau. Ef ynghyd â Daniel Rowland a Howel Harris oedd prif arweinwyr y Methodistiaid yng Nghymru yn y ddeunawfed ganrif. Trwy ei emynau, yn enwedig, ef yw un o'r dylanwadau pwysicaf ar y diwylliant Cymraeg yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif. Saif Capel Coffa William Williams Pantycelyn yn Llanymddyfri. Claddwyd ef yn Eglwys Llanfair-ar-y-bryn ar gyrion tref Llanymddyfri.

Ei waith

Roedd yn awdur toreithiog yn y Gymraeg. Ei enw barddol oedd "Pantycelyn" ond fe'i adnabyddir hefyd fel "Y Pêr Ganiedydd" oherwydd dwysder a melysder ei ganu. Ysgrifennodd rai emynau Saesneg. Mae ei emyn, Guide me, O thou great Jehovah (sy'n cynnwys y geiriau Bread of Heaven, feed me now and evermore, ac a genir fel arfer ar yr emyn-dôn Cwm Rhondda) yn parhau yn hynod boblogaidd yn fyd-eang.

Llyfryddiaeth

Meddwl a Dychymyg Williams Pantycelyn gan Derec Llwyd Morgan; 1991
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Llyfrau Pantycelyn

Astudiaethau

  • Kathryn Jenkins, Cân y Ffydd: Ysgrifau ar Emynyddiaeth (Cymdeithas Emynau Cymru, 2011)
  • Glyn Tegai Hughes, 'Yr Hen Bant': Ysgrifau ar Williams Pantycelyn (Tal-y-bont: Y Lolfa, 2017)
  • H. A. Hodges, Flame in the Mountains: Williams Pantycelyn, Ann Griffiths and the Welsh Hymn (Tal-y-bont: Y Lolfa, 2017)
  • Ceir llyfryddiaeth lawn o weithiau gan Bantycelyn ac amdano yn y gyfrol Meddwl a Dychymyg Williams Pantycelyn gan Derec Llwyd Morgan (gol.), (Llandysul: Gwasg Gomer, 1991).

Dolen allanol