Bryncir: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 6ed ganrif6g using AWB
CnauPell (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Mae '''Bryncir''' yn bentref yn [[Eifionydd]], [[Gwynedd]] ({{gbmapping|SH4812044837}}). Saif ar y briffordd [[A487]] rhwng [[Pant Glas]] a [[Dolbenmaen]], gyda [[Garndolbenmaen]] ychydig i'r de-ddwyrain. Mae gerllaw [[Afon Dwyfach]].
Mae '''Bryncir''' ({{Sain|Bryncir.ogg|ynganiad}}) yn bentref yn [[Eifionydd]], [[Gwynedd]] ({{gbmapping|SH4812044837}}). Saif ar y briffordd [[A487]] rhwng [[Pant Glas]] a [[Dolbenmaen]], gyda [[Garndolbenmaen]] ychydig i'r de-ddwyrain. Mae gerllaw [[Afon Dwyfach]].


[[Delwedd:Bryncir Village - geograph.org.uk - 141244.jpg|bawd|Bryncir]]
[[Delwedd:Bryncir Village - geograph.org.uk - 141244.jpg|bawd|Bryncir]]

Fersiwn yn ôl 09:13, 19 Mai 2018

Mae Bryncir ("Cymorth – Sain" ynganiad ) yn bentref yn Eifionydd, Gwynedd (cyfeiriad grid SH4812044837). Saif ar y briffordd A487 rhwng Pant Glas a Dolbenmaen, gyda Garndolbenmaen ychydig i'r de-ddwyrain. Mae gerllaw Afon Dwyfach.

Bryncir

Gellir gweld nifer o hynafiaethau yn yr ardal, yn cynnwys caer Rufeinig ym Mhen Llystyn, lle mae olion y muriau i'w gweld er bod y chwarel raean yno wedi difetha'r tu mewn. Ym mur yr ardd yn ffermdy Llystyn Gwyn, ychydig i'r gogledd o'r pentref mae carreg o'r 6g gydag arysgrif mewn Lladin ac Ogam. Yn y Lladin mae'n darllen ICORI(X) FILIUS / POTENT / INI (Icorix, mab Potentinus). Mae cerrig dwyieithog, Lladin ac Ogam, yn gyffredin yn ne-orllewin Cymru, ond dyma'r unig un yn y gogledd-orllewin.

Mae Bryncir yn bentref prysur, gyda canolfan arddio, tafarnau a siopau, ac yn enwedig y farchnad anifeiliad sy'n denu ffermwyr o gryn bellter. Er gwaethaf yr enw, mae Ffatri Wlân Bryncir gryn bellter i'r de-ddwyrain, gerllaw Golan.

Mae llwybr Cenedlaethol Lôn Las Cymru yn rhedeg drwy'r pentre, ac yma dechreuir adran Lôn Eifion, ar lwybr y rheilffordd Caernarfon-Afonwen.

Enwogion

Magwyd y cyflwynydd teledu a radio Gerallt Pennant (g. 1960, Bangor) ym Mryncir.

Llyfryddiaeth

  • Lynch, Frances (1995) Gwynedd (A guide to ancient and historic Wales) (Llundain:HMSO). Gw: Pen Llystyn. ISBN 0-11-701574-1

Dolenni allanol