Persli: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
newydd. chwaneg nes ymlaen |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 07:04, 16 Ebrill 2009
Perlysieuyn defnyddiol iawn yn y gegin yw'r Persli neu'r Perllys (Lladin: Petroselinum Crispum; Saesneg: Parsley) ac fe'i tyfir mewn gerddi i roi blas ar fwyd. Ond mae iddo ei beryglon hefyd. Mae ei flas yn eitha tebyg i flas llysiau'r bara (Sa: coriander), ond nad yw cweit mor gryf.
Gwahanol fathau
Ceir dau fath cyffredin: y ddeilen gyrliog a drafodir yn yr erthygl hon a'r ddeilen llyfn, fflat (Lladin: Petroselinum neapolitanum) sydd â blas cryfach oherwydd fod mwy o'r olew apiol ynddo. Ond am y math cyrliog mae llawer o arddwyr yn mynd gan ei fod yn fwy anhebyg i'r cegid (Sa: hemlock).
Math arall sy'n gyffredin drwy Ewrop ac [[UDA} yw'r 'Perllys gwreiddiog']] sy'n cael ei dyfu'n unswydd am ei wreiddyn - sy'n edrych yn debyg iawn i panas.