Mererid Wigley: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 14: Llinell 14:
Gadawodd Mererid y [[BBC]] yn 2004 er mwyn ymuno â thîm cyflwyno [[Ffermio (rhaglen deledu)|Ffermio]] yn Ionawr 2005, gan ddod yn brif gyflwynydd ar [[Bwletin Ffermio]], chwaer rhaglen y gyfres.
Gadawodd Mererid y [[BBC]] yn 2004 er mwyn ymuno â thîm cyflwyno [[Ffermio (rhaglen deledu)|Ffermio]] yn Ionawr 2005, gan ddod yn brif gyflwynydd ar [[Bwletin Ffermio]], chwaer rhaglen y gyfres.


Yn 2008, sefydlodd gwmni ei hun [[Sili Bili]] [http://www.ffermio.tv/ Sili Bili]sy'n cynhyrchu dillad i fabanod.
Yn 2008, sefydlodd ei chwmni ei hun [http://www.silibili.co.uk/ Sili Bili]sy'n cynhyrchu dillad i fabanod.


Mae'n byw yng [[Caerdydd|Nghaerdydd]].
Mae'n byw yng [[Caerdydd|Nghaerdydd]].

Fersiwn yn ôl 21:29, 15 Ebrill 2009

Mererid Wigley

Newyddiadurwraig ddarlledu yw Mererid Wigley (ganwyd 11 Hydref 1976) sydd ar hyn o bryd yn cyflwyno rhaglen Ffermio a Bwletin Ffermio ar S4C.

Magwyd Mererid ar fferm yn Nhalywern ger Machynlleth, sydd wedi bod yn nwylo'r teulu ers dechrau'r 17eg Ganrif, ac fe gafodd ei haddysg yn Ysgol Gynradd Glantwymyn ac yna'n Ysgol Uwchradd Bro Ddyfi.

Bu'n aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Bro Ddyfi a bu'n cystadlu'n Rali'r Sir, y Sioe Amaethyddol a'r Eisteddfod. Ymddiddorodd mewn ysgrifennu creadigol tra'n aelod o'r clwb, ac fe enillodd gadair Eisteddfod Sir y Ffermwyr Ifanc dair blynedd yn olynol, pan yn 17, 18 ac 19 oed.

Wedi gadael ysgol, aeth i astudio Llenyddiaeth Gymraeg a Llên y Cyfryngau ym Mhrifysgol Cymru Bangor. Tra yno, fe gafodd gyfle i weithio'n achlysurol i BBC Radio Cymru, ar y rhaglenni radio i bobl ifanc, Y Doctor Newyddion ac Y Profiad ac yna, yn cyflwyno'r bwletinau newyddion lleol o Aberystwyth.

Gadawodd Bangor wedi tair blynedd a symud i Gaerdydd lle bu'n gwneud cwrs ôl-radd mewn Newyddiaduraeth Ddarlledu, ac wedi hynny, fe ymunodd ag Adran Newyddion y BBC.

Bu'n gweithio am gyfnod byr ar y rhaglen deledu Newyddion cyn ymuno â thîm Ffeil, y rhaglen newyddion i blant, lle treuliodd chwe blynedd yn gohebu a chyflwyno ac, wrth gwrs, yn cwrdd â channoedd o blant dros Gymru gyfan!

Gadawodd Mererid y BBC yn 2004 er mwyn ymuno â thîm cyflwyno Ffermio yn Ionawr 2005, gan ddod yn brif gyflwynydd ar Bwletin Ffermio, chwaer rhaglen y gyfres.

Yn 2008, sefydlodd ei chwmni ei hun Sili Bilisy'n cynhyrchu dillad i fabanod.

Mae'n byw yng Nghaerdydd.