Tiger Bay: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 32: Llinell 32:




[[Categori:Ardaloedd Caerdydd]]
[[Categori:Ardaloedd golau coch]]
[[Categori:Ardaloedd golau coch]]
[[Categori:Caerdydd]]
[[Categori:Hanes Cymru]]
[[Categori:Hanes Cymru]]



Fersiwn yn ôl 19:56, 15 Ebrill 2009

Tiger Bay: llun o ddociau Caerdydd dros gan mlynedd yn ôl.
Erthygl am yr ardal hanesyddol yw hon. Gweler hefyd Tiger Bay (gwahaniaethu).

Tiger Bay oedd yr enw hanesyddol am yr ardal o gwmpas porthladd Caerdydd, Cymru, yn cynnwys Tre-Biwt (Butetown). Ar un adeg hwn oedd un o borthladdoedd mwyaf a phrysuraf y byd. Ar ôl cyfnod hir o ddirywiad, mae'r ardal wedi cael ei hadnewyddu ac yn cael ei hadnabod fel Bae Caerdydd. Ond mae llawer o bobol leol yn dal i'w alw yn Tiger Bay o hyd.

Hanes

Chwaraeodd datblygu Dociau Caerdydd ran bwysig yn hanes datblygu dinas Caerdydd ei hun o fod yn dref arfordirol fechan i fod yn ddinas fwyaf Cymru. Trwy'r dociau hyn yr allforwyd rhan helaeth glo Cymoedd y De i weddill y byd, ac ar un adeg porthladd Caerdydd oedd un o'r prysuraf yn y byd gyda 10,700,000 tunnell o lo yn cael ei allforio ohono erbyn 1913.

Tyfodd cymuned unigryw o gwmpas ardal y dociau; daeth gweithwyr y dociau a morwyr o bob rhan o'r byd i ymsefydlu yno a daaethpwyd i'w adnabod fel 'Tiger Bay' oherwydd y llifoedd cryf yn y dŵr rhwng y dociau ac Afon Hafren.

Yn Tiger Bay roedd yna bobl o tua 45 o genhedloedd, yn cynnwys Norwyaid, Somaliaid, Iemeniaid, Sbaenwyr, Eidalwyr, Gwyddelod a phobl o'r Caribî gan roi cymeriad amlddiwyllianol arbennig i'r ardal. Yn wahanol i hanes cymunedau o fewnfudwyr mewn dinasoedd mawr fel Efrog Newydd, ymododdai cymunedau Tiger Bay i'w gilydd, gyda phobl yn cymysgu a phriodi.

Y tu allan i'r gymuned, roedd gan Tiger Bay enw am fod yn ardal frwnt a pherygl. Un rheswm am hynny oedd y ffaith fod morwyr o bob rhan o'r byd yn aros yno dros dro wrth i'w llongau gael eu llwytho neu eu dadlwytho yn y dociau. Mewn canlyniad daeth Tiger Bay yn ardal golau coch adnabyddus]] ac roedd lefel trais a throsedd yn uchel hefyd a'r drwgweithredwyr yn dianc ar eu llongau o afael y gyfraith. Ond i'r bobl leol oedd yn byw yno ac yn ei adnabod roedd Tiger Bay yn lle cyfeillgar.

Ar ôl yr Ail Ryfel Byd byd trai ar lewyrch y dociau ac aeth Tiger Bay yn ardal ddifreintiedig gyda nifer o adeiladau gwag a dim gwaith. Dadrywiodd yn gyflym. Yn y 1960au dymchwelwyd y rhan fwyaf o'r tai teras, y tafarnau niferus a'r siopau cornel.[1]

Diwylliant a phobl

Yn y 19eg ganrif, yng ngweddill Cymru a'r tu hwnt, roedd gan Tiger Bay dipyn o enw fel lle garw. Daeth yr enw "Tiger Bay" yn rhan o fratiaith y morwyr ar draws y byd am unrhyw ardal gyffelyb.[2]

Canodd Meic Stevens am y 'Bay' a dociau Caerdydd.

Mae pobl o Tiger Bay yn cynnwys y gantores Shirley Bassey a'r pêl-droediwr rhyngwladol Ryan Giggs.

Cyfeiriadau

Gweler hefyd

Dolenni allanol