Iaith ddadelfennol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Glanhawr (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Glanhawr (sgwrs | cyfraniadau)
cael gwared o'r nodyn bathu termau
Llinell 36: Llinell 36:
*[[Cyflwr gramadegol]]
*[[Cyflwr gramadegol]]


{{bathu termau|termau_bathedig = iaith ynysig|termau_gwreiddiol = isolating language.}}
[[Categori:Morffoleg ieithyddol]]
[[Categori:Morffoleg ieithyddol]]



Fersiwn yn ôl 16:40, 13 Ebrill 2009

Iaith heb ffurfdroadau sy'n cyfleu perthnasau gramadegol drwy defnyddio geirynnau neu drwy safle gair neu ymadrodd mewn perthynas i eiriau eraill yw iaith analytig. Mewn ieithoedd analytig mae'r morffemau yn rhydd, hynnyw yw, mae pob morffem yn air ar wahân.

Dosbarthu ieithoedd

Yn draddodiadol dosberthir ieithoedd fel naill ai analytig neu synthetig. Gwnëir hyn drwy roi mesuraid morffem-y-gair (mpw or Saesneg morpheme-per-word) ar iaith. Hynny yw, mae ieithoedd analytig yn dueddol o gael un morffem i bob gair. Mae unrhyw iaith sydd â mpw yn fwy nag 1 yn iaith synthetig. Dangosir morffemau isod:

  • Yn y gair Cymraeg merch dim ond un morffem sydd ac felly mae gan y gair hwn 1:1 mpw.
  • Ond mae gan y gair gwyddoniaethau dri morffem (gwyddon-, iaeth, -au) ac felly mae gan y gair hwn 3:1 mpw.

Yn fwy diweddar mae ieithyddion wedi dechrau meddwl am ieithoedd gwahanol ar raddfa lle mae'r ieithoedd mwy analytig ar un ochr a'r ieithoedd mwy synthetig ar yr ochr arall. Oherwydd hyn, mae'n rhesymol i alw ieithoedd gydag mpw sydd yn hafal i un yn ieithoedd analytig, ac yr ieithoedd i gyd gydag mpw yn fwy nag un yn synthetig. Felly mae ieithoedd fel Saesneg a Norwyeg yn ieithoedd synthetig ond ar yr ochr analytig gan fod eu mpw yn weddol o isel (er yn uwch nag un). Mae ieithoedd fel Rwsieg a Lithwaneg ar yr ochr synthetig gan fod mpw uchel iawn ganddynt.

Mae ieithoedd de-orllewin Asia fel Fietnameg, Thaieg a Thseinaeg yn dueddol o fod yn analytig. Yn Nhseinaeg dim ond un morffem sydd i bob gair ac felly ni ddefnyddir ffurfdroadau i fynegi cyflwr neu amser, ond yn hytrach mae hi'n dibynnu ar gyd-destun, safle a geirynnau. Er enghraifft yn y frawddeg ganlynol defnyddir geiryn i ddangos y dyfodol, a dibynnir ar drefn y geiriau i ddangos y berthynas rhwng y goddrych a gwrthrych:

明天 朋友 生日 蛋糕
明天 朋友 生日 蛋糕
míngtīan de péngyou huì wèi zuò ge shēngri dàn'gāo
yfori fi (Geiryn israddol) cyfaill bydd i fi gwneud (erthygl) (dosbarthydd geiriau) penblwydd teisen
"Yfori bydd fy nghyfeillion yn gwneud teisen penblwydd imi."

Gellir dweud bod dim morffoleg gan ieithoedd ynysig.

Ieithoedd Analytig

Yn y rhan fwyaf o gyd-destunau mae'r term analytig yn gyfystyr â'r term ynysig felly mae iaith ynysig hefyd yn analytig. Ond nid yw ieithoedd fel Saesneg sydd ar ochr analytig y raddfa yn ynysig gan eu bod yn defnyddio ychydig o forffoleg i ddangos amser ar ferfau a'r lluosog ar enwau. Felly mae gan Saesneg mpw sydd yn uwch nag un ac felly'n synthetig. Serch hyn mae Saesneg yn dangos tueddau ynysig yn ei defnydd eang o eirynnau.

Gweler hefyd