Brychan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
manion |
B dileu gwybodaeth anghywir |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
:''Erthygl am y sant yw hon. Am y bardd o'r 19eg ganrif gweler [[John Davies (Brychan)]].'' |
:''Erthygl am y sant yw hon. Am y bardd o'r 19eg ganrif gweler [[John Davies (Brychan)]].'' |
||
{{Gwybodlen person/Wicidata | fetchwikidata=ALL | onlysourced=no | suppressfields= dinasyddiaeth | nationality = {{banergwlad|Cymru}} | dateformat = dmy}} |
|||
Pennaeth a thad i nifer o seintiau oedd '''Brychan''' (fl. [[5g]]). Ystyrir ef yn sant weithiau gan fod cynifer o'i blant yn seintiau. Rhoes ei enw i [[Teyrnas Brycheiniog|Deyrnas Brycheiniog]] yn ne-ddwyrain [[canolbarth Cymru]]. Ei ddygwyl yw [[5 Ebrill]]. |
Pennaeth a thad i nifer o seintiau oedd '''Brychan''' (fl. [[5g]]). Ystyrir ef yn sant weithiau gan fod cynifer o'i blant yn seintiau. Rhoes ei enw i [[Teyrnas Brycheiniog|Deyrnas Brycheiniog]] yn ne-ddwyrain [[canolbarth Cymru]]. Ei ddygwyl yw [[5 Ebrill]]. |
||
Fersiwn yn ôl 14:39, 13 Mai 2018
- Erthygl am y sant yw hon. Am y bardd o'r 19eg ganrif gweler John Davies (Brychan).
Pennaeth a thad i nifer o seintiau oedd Brychan (fl. 5g). Ystyrir ef yn sant weithiau gan fod cynifer o'i blant yn seintiau. Rhoes ei enw i Deyrnas Brycheiniog yn ne-ddwyrain canolbarth Cymru. Ei ddygwyl yw 5 Ebrill.
Bywgraffiad
Cyfarfu rhieni Brychan yn Iwerddon ar ôl i'w fam fynd yno er mwyn dianc rhag gaeaf arbennig o oer. Priododd Marchell ach Tewdrig (mam Brychan) a oedd yn bennaeth Llanfaes,[1] ag Anlach ap Coronac, mab i bennaeth Gwyddelig, ar yr amod y byddai eu plant yn cael eu magu ar ei thir hi. Marchell oedd yn berchen Garth Madryn. Ganwyd Brychan, eu hunig plentyn, yng Ngarthmadrun tua'r flwyddyn 500 O.C. Ar ôl i Marchell farw etifeddodd Brychan ei thiroedd i'w trosglwyddo i'w ferched.
Etifeddiaeth
Roedd Brychan yn dad i bedwar ar hugain o ferched a tua 11 o feibion yn ôl y Cognatio de Brychan a ysgrifennwyd yn y 10g[1] ond mae wedi'i seilio ar ddogfennau hŷn sydd ymhellach ar goll[1]. Mae'r 'Cognatio' yn enwi ei ferched fel a ganlyn: Arianwen, Rhiangar, Gwladys, Gwawr, Gwrgon, Nefydd, Lleian, Marchell, Meleri, Nefyn, Tutglid, Belyau, Ceinwen, Cynheiddon, Ceindrych, Clydai, Dwynwen, Eiluned, Goleudydd, Gwen, Ilud, Tybie, Tudful, a Tangwystl. Daeth y rhan fwyaf ohonynt yn seintiau gan sefydlu llannau yn ne a dwyrain Cymru yn bennaf. Yn ol y Cognatio, Cynog, Rhun, Cledwyn, Arthen, Pabai, Rhain Dremrudd, Mathaiarn, Dingad, Cyflefwr, Berwyn a Rhawin oedd meibion Brychan. <[2]Cyfeirir at deulu ("llwyth") Brychan yn y Trioedd fel un o "dri llwyth seintiau Cymru" (ynghyd â theuluoedd Caw neu Coel a Chunedda.) Mae llawer o enwau eraill wedi ychwanegu at rhestrau "plant" Brychan. Maent fel arfer yn wyrion, wyresau neu gor-wyrion iddo (e.e. Dyfnan, Dilig, Adwen, Mabon, Menefrida, Morwenna, Wenna a Gwenfyl.)
Enwir nifer o eglwysi, yn y de a'r canolbarth yn bennaf, ar ôl Brychan a'i ddisgynyddion; Bu Brycheiniog yn bwysig yn natblygiad Cristnogaeth Geltaidd [3]. Disgrifiodd John Davies de-ddwyrain Cymru fel "meithrinfa'r Eglwys Geltaidd a chroth gweithgarwch a adfywiodd Ewrop." [3]
Ffurfwyd Brycheiniog fel cyngrhair rhwng rhai o feibion Brychan ar ôl ei farwolaeth er mwyn amddiffyn eu hunain rhag llwythau eraill.[1]
Gweler hefyd
- Rhestr o seintiau Cymru
- Santesau Celtaidd 388-680