Emilia-Romagna: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B robot yn ychwanegu: fa:امیلیا-رومانیا |
TXiKiBoT (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: roa-rup:Emilia-Romagna |
||
Llinell 69: | Llinell 69: | ||
[[qu:Emilia-Romagna]] |
[[qu:Emilia-Romagna]] |
||
[[ro:Emilia-Romagna]] |
[[ro:Emilia-Romagna]] |
||
[[roa-rup:Emilia-Romagna]] |
|||
[[ru:Эмилия-Романья]] |
[[ru:Эмилия-Романья]] |
||
[[scn:Emilia Rumagna]] |
[[scn:Emilia Rumagna]] |
Fersiwn yn ôl 18:54, 1 Ebrill 2009
Rhanbarth yng ngogledd yr Eidal yw Emilia-Romagna. Roedd y boblogaeth yn 2006 yn 4,187,557. Y brifddinas yw Bologna; dinasoedd pwysig eraill yw Modena, Parma, Reggio Emilia, Ravenna a Rimini.
Saif Emilia-Romagna rhwng y Môr Adriatig yn y dwyrain, afon Po yn y gogledd a mynyddoedd yr Appenninau yn y de. Ffurfiwyd y rhanbarth trwy uno rhanbarthau hanesyddol Emilia a Romagna. Caiff Emilia ei henw o'r via Æmilia, y ffordd Rufeinig o Rufain i ogledd yr Eidal.
Rhennir y rhanbarth yn naw talaith: Bologna, Ferrara, Forlì-Cesena, Modena, Parma, Piacenza, Ravenna, Reggio Emilia a Rimini. Amaethyddiaeth a'r diwydiant bwyd yw'r elfen bwysicaf yn yr economi, gyda diwydiannau bwyd yn Parma a Bologna. Mae'r diwydiant ceir yn bwysig hefyd, gyda Ferrari, Ducati, Lamborghini a Maserati yn cael eu cynrychioli yma. Mae mentrau cydweithredol yn arbennig o gyffredin yn Emilia-Romagna, ac mae'r chwith yn gryf yma yn wleidyddol.
|