Y we fyd-eang: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Curiad |
Curiad |
||
Llinell 3: | Llinell 3: | ||
Dyfeisiwyd y We Fyd Eang gan [[Tim Berners-Lee]] a [[Robert Cailliau]] pan roeddent yn gweithio yn [[CERN]] yng [[Geneva|Ngenefa]], [[Y Swistir]] a [[Ffrainc]] yn 1989. Ceir sawl dyddiad am enedigaeth y We fyd-eang, a'r mwyaf poblogaidd o'r rhain yw'r dyddiad pan gyhoeddodd [[Tim Berners-Lee]] femo yn gwahodd pobl y tu allan i [[CERN]] i gydweithio ar y prosiect.<ref>[http://www.dw.com/en/hyperlink-when-tim-berners-lee-invented-the-world-wide-web-not-the-internet/a-19448729 dw.com;] adalwyd 6 Awst 2016.</ref> |

[[Delwedd:Hafan Curiad.PNG|bawd|chwith|Rhan o wefan Curiad, y wefan Gymraeg gyntaf; Medi 1997.]] |
|||
[[Delwedd:CERN cydsyniad.PNG|bawd|chwith|Cytundeb CERN i ganiatau i weddill y byd ddefnyddio'r we.]] |
[[Delwedd:CERN cydsyniad.PNG|bawd|chwith|Cytundeb CERN i ganiatau i weddill y byd ddefnyddio'r we.]] |
||
Fersiwn yn ôl 06:25, 2 Mai 2018
Mae'r We Fyd-Eang yn gasgliad o ddogfennau uwch-destun (neu hypertext; gweler HTTP), lle defnyddir y rhyngrwyd i'w cysylltu. Gyda phorwr gwe, gall defnyddiwr weld tudalennau sy'n cynnwys testun, delweddau, sain a fideo, a theithio o dudalen i dudalen gan ddefnyddio hyperlinks.
Dyfeisiwyd y We Fyd Eang gan Tim Berners-Lee a Robert Cailliau pan roeddent yn gweithio yn CERN yng Ngenefa, Y Swistir a Ffrainc yn 1989. Ceir sawl dyddiad am enedigaeth y We fyd-eang, a'r mwyaf poblogaidd o'r rhain yw'r dyddiad pan gyhoeddodd Tim Berners-Lee femo yn gwahodd pobl y tu allan i CERN i gydweithio ar y prosiect.[1]
Ar 30 Ebrill 1993, rhoddodd CERN ganiatad i'r we gael ei defnyddio'n agored ac am ddim gan weddill y byd.
Y We yn Gymraeg
Y tro cyntaf y soniwyd yn Gymraeg am y we oedd ar 23 Gorffennaf 1969 gan y gwyddonydd Owain Owain: 'Yn syml, mae'r gyfundefn hwn o gyfrifyddion (neu gyfrifiaduron) yn ei gwneud hi'n bosib i gofnodi y cyfan o wybodaeth yr hil ddynol drwy'r oesau mewn un lle, mewn modd sy'n galluogi unrhyw unigolyn - o'i gartref ei hun er enghraifft - archebu a derbyn unrhyw ran o'r wybodaeth honno.... Rydych am weld cerflun mwyaf o geffyl sydd mewn bod? Yna, o'ch cadair freichiau, a chyn i'r bys olaf adael y botwm olaf, fe fydd llun y ceffyl ar y llen deledu yn eich ystafell.' Neu gynllun pensaerniol Eglwys St Pedr yn Rhufain? Pwyswch fotymau eraill a dyna'r cynllun pensaerniol yn dilyn y ceffyl mewn llai na chwinciad!'[2]
Y wefan Gymraeg gyntaf oedd Curiad a lansiwyd gan Dafydd Tomos ar y rhestr ebyst WELSH-L ar 13 Ebrill 1995. Roedd y wefan yn cynnwys gwybodaeth am gigs, bandiau, adolygiadau a siartiau Cymraeg. Roedd yn gwbl ddwyieithog i ddechrau cyn ail-lansio yn uniaith Gymraeg yn 2005. Mae rhan helaeth o'r deunydd ar gael hyd heddiw wedi'i archifo.[3][4]
Rhoddwyd y gyfrol Gymraeg gyntaf ar y we ar 1 Rhagfyr 1996, sef cyfrol o farddoniaeth gan Robin Llwyd ab Owain: Rebel ar y we.[5]
Cyfeiriad
- ↑ dw.com; adalwyd 6 Awst 2016.
- ↑ Gwefan Owain Owain
- ↑ listserv.heanet.ie; adalwyd 2 Mai 2018.
- ↑ tiki-toki.com; adalwyd 2 Mai 2018.
- ↑ Rhedeg ar Wydr