Iaith ddadelfennol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Glanhawr (sgwrs | cyfraniadau)
Glanhawr (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Iaith heb [[ffurfdroadau]] sy'n cyfleu perthnasau gramadegol drwy defnyddio [[geiryn|geirynnau]] neu drwy [[safle geiriau|safle gair]] neu ymadrodd mewn perthynas i eiriau eraill yw '''iaith analytig'''.
Iaith heb [[ffurfdroad|ffurfdroadau]] sy'n cyfleu perthnasau gramadegol drwy defnyddio [[geiryn|geirynnau]] neu drwy [[safle geiriau|safle gair]] neu ymadrodd mewn perthynas i eiriau eraill yw '''iaith analytig'''.


==Dosbarthu ieithoedd==
==Dosbarthu ieithoedd==
Llinell 10: Llinell 10:
Yn fwy diweddar mae ieithyddion wedi dechrau meddwl am ieithoedd gwahanol ar raddfa lle mae'r ieithoedd mwy analytig ar un ochr a'r ieithoedd mwy synthetig ar yr ochr arall. Oherwydd hyn, mae'n rhesymol i alw ieithoedd gydag [[morffem|mpw]] sydd yn hafal i un yn ieithoedd ynysig, ac yr ieithoedd i gyd gydag [[morffem|mpw]] yn fwy nag un yn synthetig. Felly mae ieithoedd fel [[Saesneg]] a [[Norwyeg]] yn [[iaith synthetig|ieithoedd synthetig]] ond ar yr ochr analytig gan fod eu [[morffem|mpw]] yn weddol o isel (er yn uwch nag un). Mae ieithoedd fel [[Rwsieg]] a [[Lithwaneg]] ar yr ochr synthetig gan fod [[morffem|mpw]] uchel iawn ganddynt.
Yn fwy diweddar mae ieithyddion wedi dechrau meddwl am ieithoedd gwahanol ar raddfa lle mae'r ieithoedd mwy analytig ar un ochr a'r ieithoedd mwy synthetig ar yr ochr arall. Oherwydd hyn, mae'n rhesymol i alw ieithoedd gydag [[morffem|mpw]] sydd yn hafal i un yn ieithoedd ynysig, ac yr ieithoedd i gyd gydag [[morffem|mpw]] yn fwy nag un yn synthetig. Felly mae ieithoedd fel [[Saesneg]] a [[Norwyeg]] yn [[iaith synthetig|ieithoedd synthetig]] ond ar yr ochr analytig gan fod eu [[morffem|mpw]] yn weddol o isel (er yn uwch nag un). Mae ieithoedd fel [[Rwsieg]] a [[Lithwaneg]] ar yr ochr synthetig gan fod [[morffem|mpw]] uchel iawn ganddynt.


Mae ieithoedd de-orllewin Asia fel [[Fietnameg]], [[Thaieg]] a [[Tseinaeg|Thseinaeg]] yn dueddol o fod yn ynysig. Yn [[Tseinaeg|Nhseinaeg]] dim ond un [[morffem]] sydd i bob gair ac felly ni ddefnyddir [[ffurfdroadau]] i fynegi [[cyflwr gramadegol|cyflwr]] neu amser, ond yn hytrach mae hi'n dibynnu ar gyd-destun, safle a [[geiryn|geirynnau]]. Er enghraifft yn y frawddeg ganlynol defnyddir geiryn i ddangos y dyfodol, a dibynnir ar drefn y geiriau i ddangos y berthynas rhwng y [[cyflwr gramadegol|goddrych a gwrthrych]]:
Mae ieithoedd de-orllewin Asia fel [[Fietnameg]], [[Thaieg]] a [[Tseinaeg|Thseinaeg]] yn dueddol o fod yn ynysig. Yn [[Tseinaeg|Nhseinaeg]] dim ond un [[morffem]] sydd i bob gair ac felly ni ddefnyddir [[ffurfdroad|ffurfdroadau]] i fynegi [[cyflwr gramadegol|cyflwr]] neu amser, ond yn hytrach mae hi'n dibynnu ar gyd-destun, safle a [[geiryn|geirynnau]]. Er enghraifft yn y frawddeg ganlynol defnyddir geiryn i ddangos y dyfodol, a dibynnir ar drefn y geiriau i ddangos y berthynas rhwng y [[cyflwr gramadegol|goddrych a gwrthrych]]:


:{| class="wikitable" style="text-align: center;"
:{| class="wikitable" style="text-align: center;"

Fersiwn yn ôl 14:41, 30 Mawrth 2009

Iaith heb ffurfdroadau sy'n cyfleu perthnasau gramadegol drwy defnyddio geirynnau neu drwy safle gair neu ymadrodd mewn perthynas i eiriau eraill yw iaith analytig.

Dosbarthu ieithoedd

Yn draddodiadol dosberthir ieithoedd fel naill ai analytig neu synthetig. Gwnëir hyn drwy roi mesuraid morffem-y-gair (mpw or Saesneg morpheme-per-word) ar iaith. Hynny yw, mae ieithoedd analytig yn dueddol o gael un morffem i bob gair. Mae unrhyw iaith sydd â mpw yn fwy nag 1 yn iaith synthetig. Dangosir morffemau isod:

  • Yn y gair Cymraeg merch dim ond un morffem sydd ac felly mae gan y gair hwn 1:1 mpw.
  • Ond mae gan y gair gwyddoniaethau dri morffem (gwyddon-, iaeth, -au) ac felly mae gan y gair hwn 3:1 mpw.

Yn fwy diweddar mae ieithyddion wedi dechrau meddwl am ieithoedd gwahanol ar raddfa lle mae'r ieithoedd mwy analytig ar un ochr a'r ieithoedd mwy synthetig ar yr ochr arall. Oherwydd hyn, mae'n rhesymol i alw ieithoedd gydag mpw sydd yn hafal i un yn ieithoedd ynysig, ac yr ieithoedd i gyd gydag mpw yn fwy nag un yn synthetig. Felly mae ieithoedd fel Saesneg a Norwyeg yn ieithoedd synthetig ond ar yr ochr analytig gan fod eu mpw yn weddol o isel (er yn uwch nag un). Mae ieithoedd fel Rwsieg a Lithwaneg ar yr ochr synthetig gan fod mpw uchel iawn ganddynt.

Mae ieithoedd de-orllewin Asia fel Fietnameg, Thaieg a Thseinaeg yn dueddol o fod yn ynysig. Yn Nhseinaeg dim ond un morffem sydd i bob gair ac felly ni ddefnyddir ffurfdroadau i fynegi cyflwr neu amser, ond yn hytrach mae hi'n dibynnu ar gyd-destun, safle a geirynnau. Er enghraifft yn y frawddeg ganlynol defnyddir geiryn i ddangos y dyfodol, a dibynnir ar drefn y geiriau i ddangos y berthynas rhwng y goddrych a gwrthrych:

明天 朋友 生日 蛋糕
明天 朋友 生日 蛋糕
míngtīan de péngyou huì wèi zuò ge shēngri dàn'gāo
yfori fi (Geiryn israddol) cyfaill bydd i fi gwneud (erthygl) (dosbarthydd geiriau) penblwydd teisen
"Yfori bydd fy nghyfeillion yn gwneud teisen penblwydd imi."

Gellir dweud bod dim morffoleg gan ieithoedd ynysig.

Ieithoedd Analytig

Yn y rhan fwyaf o gyd-destunau mae'r term analytig yn gyfystyr â'r term ynysig felly mae iaith ynysig hefyd yn analytig. Ond nid yw ieithoedd fel Saesneg sydd ar ochr analytig y raddfa yn ynysig gan eu bod yn defnyddio ychydig o forffoleg i ddangos amser ar ferfau a'r lluosog ar enwau. Felly mae gan Saesneg mpw sydd yn uwch nag un ac felly'n synthetig. Serch hyn mae Saesneg yn dangos tueddau ynysig yn ei defnydd eang o eirynnau.

Gweler hefyd