Castell Odo: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 10: Llinell 10:
{{Bryngaerau Cymru}}
{{Bryngaerau Cymru}}


[[Categori:Adeiladau ac adeiladwaith yng Ngwynedd]]
[[Categori:Bryngaerau Cymru]]
[[Categori:Bryngaerau Cymru]]
[[Categori:Hanes Gwynedd]]
[[Categori:Hanes Gwynedd]]

Fersiwn yn ôl 20:18, 28 Mawrth 2009

Delwedd:Castell Odo.jpg
Castell Odo

Bryngaer sy'n dyddio o ddechrau Oes yr Haearn ac a leolir gerllaw Aberdaron, Gwynedd, yw Castell Odo. Mae'n gorwedd ger y ffordd B4413, rhyw filltir a hanner o'r pentref.

Mae'r gaer ar fryn gweddol fychan, sydd wedi ei amgylchynu gan ddau gylch o amddiffynfeydd. Y cylch allanol yw'r hynaf, ac ymddengys ei fod wedi bod o bren yn wreiddiol, cyn i'r wal bren gael ei throi yn amddiffynfeydd pridd. Ceir olion cytiau crwn ar ben y bryn, rhai efallai wedi eu hadeiladu cyn i'r amddiffynfeydd gael eu codi. Darganfuwyd crochenwaith yma sy'n dyddio o ddiwedd Oes yr Efydd, felly credir fod y safle yma yn un o'r cynharaf o'i bath yng Nghymru. Gellir gweld olion o leiaf wyth tŷ cerrig tu mewn i'r amddiffynfeydd.

Llyfryddiaeth

  • Lynch, Frances (1995) Gwynedd (A guide to ancient and historic Wales) (Llundain:HMSO) ISBN: 0-11-701574-1