Clefyd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 18: Llinell 18:


Mae'r term yma yn cael ei ystyried yn llai gwael na afiechyd a clefyd ac felly defnyddir yn fwy mewn rhai sefyllfaoedd.
Mae'r term yma yn cael ei ystyried yn llai gwael na afiechyd a clefyd ac felly defnyddir yn fwy mewn rhai sefyllfaoedd.



===Cyflwyr meddygol===
===Cyflwyr meddygol===

Fersiwn yn ôl 11:06, 28 Mawrth 2009

Mae afiechyd neu clefyd yn gyflwr annormal organeb sy'n amharu ar weithrediad y corff. Mewn bodau dynol, mae clefyd yn cael ei ddefnyddio'n fwy eang - i gyfeirio at unrhyw gyflwr sy'n achosi anghysur, camweithrediad, cyfyngder, problemau cymdeithasol a/neu marwolaeth i'r person sy'n dioddef, neu broblemau tebyg ar gyfer y rhai sydd menwn cyswllt gyda'r person. Yn yr ystyr ehangach yma, mae weithiau'n cynnwys anafiadau ac anableddau, anhwylder, syndrom, haint, symtomau, ymddygiad gwyrdröedig, ac amrywiaethau anarferol mewn stwythr a gweithrediad, tra ar gyfer cyd-destynau eraill gall y rhain gael eu trin fel categoriau gwahaniaethol.

Terminoleg

Clefyd

Mae'r term yma yn llydaeni unrhyw cyflwr annormal sy'n effeithio gweithredau normal y corff.

Afiechyd

Yn gyffredinol, yr afiechyd yw symptom y clefyd.

Anhwylder

Mewn meddigyniaeth, mae anhwylder yn golygu aflonyddwch i'r corff. Gall anhwylder gael ei gategoreiddio i:-

  1. Aflonyddwch meddyliol
  2. Aflonyddwch corfforol
  3. Aflonyddwch genetig
  4. Aflonyddwch ymddygiad
  5. Aflonyddwch gweithredol

Mae'r term yma yn cael ei ystyried yn llai gwael na afiechyd a clefyd ac felly defnyddir yn fwy mewn rhai sefyllfaoedd.

Cyflwyr meddygol

Gall y term yma cwmpasu unrhywbeth meddygol. Gall fod yn clefyd, afiechyd a aflonyddwch, neu gall bod yn cyflwr megis beichiogrwydd sydd yn cadarnhaol.

Morbidrwydd

Morbidrwydd yw unrhyw cyflwr afiach. Mae'r term yn cael ei defnyddio i cyfeirio at unrhyw clefyd sy'n effeithio cleifion.

Sut mae'r corff yn atal clefydau?

Croen

Mae arwyneb y croen yn atal microbau rhag treiddio'r corff.

Gwaed yn ceulo

Mae'r gwaed yn ceulo pan yn cael ei rhyddhau o'r corff er mwyn atal microbau a firysau rhag treiddio'r corff.

Celloedd gwaed gwyn

Mae gan gelloedd gwaed gwyn dair swyddogaeth:

  1. Amlyncu bacteria
  2. Cynhyrchu gwrthgyrff - sy'n targedu a dinistrio bacteria a firysau penodol.
  3. Cynhyrchu gwrthwenwyn sy'n mynd yn erbyn y gwenwyn mae'r bacteria yn ei gynhyrchu.
Eginyn erthygl sydd uchod am feddygaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.