Clefyd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Purbo T (sgwrs | cyfraniadau) |
Rhyshuw1 (sgwrs | cyfraniadau) |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 10:39, 28 Mawrth 2009
Mae afiechyd neu clefyd yn gyflwr annormal organeb sy'n amharu ar weithrediad y corff. Mewn bodau dynol, mae clefyd yn cael ei ddefnyddio'n fwy eang - i gyfeirio at unrhyw gyflwr sy'n achosi anghysur, camweithrediad, cyfyngder, problemau cymdeithasol a/neu marwolaeth i'r person sy'n dioddef, neu broblemau tebyg ar gyfer y rhai sydd menwn cyswllt gyda'r person. Yn yr ystyr ehangach yma, mae weithiau'n cynnwys anafiadau ac anableddau, anhwylder, syndrom, haint, symtomau, ymddygiad gwyrdröedig, ac amrywiaethau anarferol mewn stwythr a gweithrediad, tra ar gyfer cyd-destynau eraill gall y rhain gael eu trin fel categoriau gwahaniaethol.
Sut mae'r corff yn atal afiechydon?
Croen
Mae arwyneb y croen yn atal microbau rhag treiddio'r corff.
Gwaed yn ceulo
Mae'r gwaed yn ceulo pan yn cael ei rhyddhau o'r corff er mwyn atal microbau a firysau rhag treiddio'r corff.
Celloedd gwaed gwyn
Mae gan gelloedd gwaed gwyn dair swyddogaeth:
- Amlyncu bacteria
- Cynhyrchu gwrthgyrff - sy'n targedu a dinistrio bacteria a firysau penodol.
- Cynhyrchu gwrthwenwyn sy'n mynd yn erbyn y gwenwyn mae'r bacteria yn ei gynhyrchu.