Pen-y-bryn, Abergwyngregyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
|||
Llinell 22: | Llinell 22: | ||
[[Categori:Hanes Cymru]] |
[[Categori:Hanes Cymru]] |
||
[[Categori:Hanes Gwynedd]] |
[[Categori:Hanes Gwynedd]] |
||
[[Categori:Plasdai |
[[Categori:Plasdai Sir Conwy]] |
||
[[Categori:Teyrnas Gwynedd]] |
[[Categori:Teyrnas Gwynedd]] |
||
Fersiwn yn ôl 06:33, 28 Mawrth 2009
Safle llys tywysogion Gwynedd yn Abergwyngregyn oedd Garth Celyn. Yn wreiddiol, Aberffraw oedd prif lys brenhinllin Gwynedd, ond Garth Celyn, prif lys cantref Arllechwedd, oedd y prif lys yn ystod teyrnasiad Llywelyn Fawr, a pharhaodd yn brif lys yng nghyfnod ei olynwyr Dafydd ap Llywelyn a Llywelyn ap Gruffudd. Saif mewn safle strategol bwysig, lle mae'r hen ffordd o'r dwyrain dros Fwlch y Ddeufaen yn disgyn at arfordir Afon Menai a'r fferi drosodd i Llanfaes ar Ynys Môn.
Yma y bu farw Siwan, gwraig Llywelyn Fawr a Dafydd ap Llywelyn, ac yma y cafwyd Gwilym Brewys yn ystafell wely Siwan yn 1230. Ceir nifer o lythyrau a dogfennau eraill sy'n nodi ei bod wedi eu hysgrifennu yng Ngarth Celyn.
Yn ddiweddar, haerwyd mai safle'r llys yw lle saif Pen y Bryn, plasdy a adeiladwyd yn wreiddiol gan Rhys Thomas a'i wraig Jane, a gafodd y tiroedd hyn yn 1553. Dywedir iddynt adeiladu'r plasdy ar adfeilion y llys. Saif Pen y Bryn ar godiad tir ychydig i'r gorllewin o ganol pentref Abergwyngregyn (SH653726).
Delweddau
-
Y tŷ a'r tŵr lle carcharwyd Siwan.
-
Golwg manwl o'r tŵr.
-
Y tŵr eto.
-
Llun manwl.
-
Y capel y tu ôl i'r tŵr.
-
Yr hen fynedfa i Arth Celyn, drwy'r porth hwn
-
Y tu fewn i'r porth yn 2004