Clefyd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Rhyshuw1 (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Rhyshuw1 (sgwrs | cyfraniadau) |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 22:09, 27 Mawrth 2009
Mae clefyd yn gyflwr annormal organeb sy'n amharu ar weithrediad y corff. Ym modau dynol, mae clefyd yn cael ei ddefnyddio'n fwy eang i gyfeirio at unrhyw gyflwr sy'n achosi anghysur, camweithrediad, cyfyngder, problemau cymdeithasol a/neu marwolaeth i'r person sy'n dioddef, neu bloblemau tebyg ar gyfer y rhai sydd menwn cyswllt gyda'r person. Yn yr ystyr mwy eang yma, mae weithiau'n cynnwys anafiadau ac anableddau, anhwylder, syndrom, haint, symptomau arunig, ymddygiad gwyrdröedig, ac amrywiaethau anarferol yn stwythr a gweithrediad, tra ar gyfer cyd-destynau eraill gellir rhain gael eu trin fel categoriau gwahaniaethol.
Sut mae'r corff yn atal afiechydon?
Croen
Mae arwyneb y croen yn atal microbau rhag treiddio'r corff.
Gwaed yn ceulo
Mae'r gwaed yn ceulo pan yn cael ei rhyddhau o'r corff er mwyn atal microbau a firysau rhag treiddio'r corff.
Celloedd gwaed gwyn
Mae gan celloedd gwaed gwyn tri swyddogaeth:
- Amlyncu Bacteria
- Cynhyrchu gwrthgyrff- mae'r gwrthgyrff yma yn targedu ac yn dinistrio bacteria a firysau penodol.
- Cynhyrchu gwrthgwenwyn sy'n mynd yn erbyn y gwenwyn mae'r bacteria yn cynhyrchu.