West Side Story: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Pwyll (sgwrs | cyfraniadau) Tudalen newydd: bawd|dde|Recordiad gwreiddiol y cast Mae '''West Side Story''' yn sioe gerdd ac yn lyfr gan Arthur Laurents, cerddoriaeth gan [[… |
Pwyll (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 24: | Llinell 24: | ||
*Tiger |
*Tiger |
||
*Mouth Piece |
*Mouth Piece |
||
| |
|||
'''Eu Merched''' |
'''Eu Merched''' |
||
*Velma, |
*Velma, |
Fersiwn yn ôl 19:00, 21 Mawrth 2009
Mae West Side Story yn sioe gerdd ac yn lyfr gan Arthur Laurents, cerddoriaeth gan Leonard Bernstein, a'r geiriau gan Stephen Sondheim. Mae'r sioe gerdd yn seiliedig ar ddrama William Shakespeare, Romeo and Juliet.
Lleolir y sioe gerdd ar Ochr Orllewinol Dinas Efrog Newydd yng nghanol y 1950au ac mae'n ymdrin â'r gwrthdaro rhwng dau griw o arddegwyr o gefndiroedd ethnig a diwylliannol gwahanol. Mae'r prif gymeriad, Tony sy'n aelod o'r giang Americanaidd, yn cwympo mewn cariad gyda Maria, sy'n chwaer i arweinydd y giang o Puerto Rico. Ystyrir y sioe yn drobwynt yn hanes theatr cerddorol Americanaidd yn sgîl eu themâu tywyll, cerddoriaeth soffistigedig, golygfeydd dawns ymestynnol a'r ffocws ar broblemau cymdeithasol. Daeth sgôr Bernstein ar gyfer y sioe gerdd yn boblogaidd iawn; mae'n cynnwys y caneuon "Something's Coming," "Maria," "América," "Somewhere," "Tonight," "Jet Song," "I Feel Pretty," "One Hand, One Heart," a "Cool."
Dynododd y cynhyrchiad gwreiddiol ar Broadway ym 1957, a gafodd ei gyfarwyddo a'i goreograffio gan Jerome Robbins a'i gynhyrchu gan Robert E. Griffith a Harold Prince, gynhyrchiad cyntaf Sondheim ar Broadway. Rhedodd y sioe am 732 o berfformiadau, cyn mynd ar daith. Cafodd ei enwebu am Wobr Tony am y Sioe Gerdd Orau yn 1957, ond aeth y wobr i The Music Man gan Meredith Willson. Enillodd Wobr Tony yn 1957 am goreograffeg Robbins. Cafodd y sioe rediad hirach byth yn Llundain, a gwelwyd llwyddiant rhyngwladol, gan arwain at ffilm o'r sioe gerddorol ym 1961. yn aml, perfformir West Side Story gan ysgolion, theatrau lleol ac yn achlysurol, gan gwmnïau opera.
Cymeriadau
Y Jets
|
Eu Merched
|
Y Sharks
|
Eu Merched
|
Yr Oedolion
|