Carolyn Harris: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
swydd dirprwy
Llinell 31: Llinell 31:


Apwyntiwyd Carolyn Harris fel Gweinidog Cysgodol Swyddfa Gartref i [[Jeremy Corbyn]] AS ar ol iddo gael ei ail-ethol yn arweinydd y Blaid Lafur.<ref>ITV [http://www.itv.com/news/2016-10-09/jeremy-corbyn-welcomes-10-returning-mps-to-shadow-team/ Wales]</ref>
Apwyntiwyd Carolyn Harris fel Gweinidog Cysgodol Swyddfa Gartref i [[Jeremy Corbyn]] AS ar ol iddo gael ei ail-ethol yn arweinydd y Blaid Lafur.<ref>ITV [http://www.itv.com/news/2016-10-09/jeremy-corbyn-welcomes-10-returning-mps-to-shadow-team/ Wales]</ref>

Ar 21 Ebrill 2018 fe'i etholwyd yn ddirprwy arweinydd Llafur Cymru gan guro ei hunig wrthwynebydd, [[Julie Morgan]]. Er fod Morgan wedi ennill mwy o bleidleisiau gan aelodau cyffredin y blaid, etholwyd y swydd drwy goleg etholiadol a roedd gan Harris fwy o gefnogaeth gan yr undebau ac aelodau etholedig.<ref>{{dyf newyddion|url=https://golwg360.cymru/newyddion/cymru/518094-ethol-carolyn-harris-ddirprwy-llafur-cymru|teitl=Ethol Carolyn Harris yn ddirprwy Llafur Cymru|cyhoeddwr=Golwg360|dyddiad=21 Ebrill 2018}}</ref>


== Canlyniadau etholiad 2017 ==
== Canlyniadau etholiad 2017 ==

Fersiwn yn ôl 14:26, 21 Ebrill 2018

Carolyn Harris
AS
Aelod Seneddol
dros Ddwyrain Abertawe
Yn ei swydd
Dechrau
8 Mai 2015
Rhagflaenydd Siân James
Mwyafrif 13,168 (37.4%)
Manylion personol
Ganwyd (1960-09-18) 18 Medi 1960 (63 oed)
Plaid wleidyddol Llafur
Alma mater Prifysgol Abertawe

Gwleidydd Prydeinig ac aelod seneddol Llafur dros Ddwyrain Abertawe ers Mai 2015 yw Carolyn Harris (ganed 18 Medi 1960).

Bywyd Personol

Ganwyd Carolyn yn etholaeth Dwyrain Abertawe, ac mae bellach yn cynrychioli'r etholaeth yn San Steffan.

Mynychodd Brifysgol Abertawe rhwng 1994 a 1998 gan astudio gradd gyfun mewn Hanes Cymdeithasol a Pholisi Cymdeithasol.

Yn dilyn y Brifysgol, gweithiodd Harris i brosiectau cymunedol fel Guiding Hand Association ac wedyn Joshua Foundation. Cyn ei gyrfa wleidyddol, gweithiodd fel cynorthwydd gwleidyddol i'w rhagflaenydd Siân James MP, a sefodd i lawr yn Mawrth 2015. Gweithiodd yn y gorffennol mewn bar ac fel gweinyddes fwyd ysgol ac mae wedi cyfeirio at hyn yn ei phrofiad o golli ei mab[1].

Gyrfa wleidyddol

Etholwyd Carolyn Harris i San Steffan yn 2015. Rhoddodd araith forwynol ar yr 8fed o Mehefin 2015 lle nododd fod Dylan Thomas yn anghywir yn ei gyfeiriad at Abertawe fel "this ugly, lovely town."

Yn ystod ei blwyddyn gyntaf yn San Steffan, canolbwyntiodd ar faterion megis Cynllun Morlyn Abertawe, trydaneiddio rheilffordd De Cymru i Abertawe a materion prynu.

Apwyntiwyd Carolyn Harris fel Gweinidog Cysgodol Swyddfa Gartref i Jeremy Corbyn AS ar ol iddo gael ei ail-ethol yn arweinydd y Blaid Lafur.[2]

Ar 21 Ebrill 2018 fe'i etholwyd yn ddirprwy arweinydd Llafur Cymru gan guro ei hunig wrthwynebydd, Julie Morgan. Er fod Morgan wedi ennill mwy o bleidleisiau gan aelodau cyffredin y blaid, etholwyd y swydd drwy goleg etholiadol a roedd gan Harris fwy o gefnogaeth gan yr undebau ac aelodau etholedig.[3]

Canlyniadau etholiad 2017

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau Canran o'r bleidlais
Llafur Carolyn Harris 22,037 63.4
Ceidwadwyr Dan Boucher 9,139 26.00
Plaid Cymru Steffan Phillips 1,689 4.8
UKIP Clifford Johnson 1,040 3.0
Dem Rhydfrydol Charley Hasted 625 1.8
Gwyrddiad Chris Evans 359 1.0

Cyfeiriadau

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Siân James
Aelod Seneddol dros Dwyrain Abertawe
2015
Olynydd:
deiliad