Ffrisiaid: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Hanes: Llaw a llygad -canrifoedd yn bennaf, replaced: 19eg ganrif → 19g (2) using AWB
B cat
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 12: Llinell 12:
|perthynol=[[Saeson]], [[Iseldirwyr]], [[Almaenwyr]]<ref name=Minahan>Minahan, James. ''[http://books.google.no/books?hl=no&id=NwvoM-ZFoAgC&q=frisians#v=snippet&q=frisians&f=false One Europe, Many Nations: A Historical Dictionary of European National Groups]'' (Greenwood Publishing, 2000).</ref>
|perthynol=[[Saeson]], [[Iseldirwyr]], [[Almaenwyr]]<ref name=Minahan>Minahan, James. ''[http://books.google.no/books?hl=no&id=NwvoM-ZFoAgC&q=frisians#v=snippet&q=frisians&f=false One Europe, Many Nations: A Historical Dictionary of European National Groups]'' (Greenwood Publishing, 2000).</ref>
}}
}}
Pobl Germanaidd sy'n byw yn ardal hanesyddol [[Ffrisia]] ac sy'n siarad [[Ffriseg]] yw'r '''Ffrisiaid'''. Heddiw, lleolir Ffrisia yng ngogledd ddwyrain [[yr Iseldiroedd]] a gogledd orllewin [[yr Almaen]] ar lannau [[Geneufor yr Almaen]].
[[Pobl Germanaidd]] sy'n byw yn ardal hanesyddol [[Ffrisia]] ac sy'n siarad [[Ffriseg]] yw'r '''Ffrisiaid'''. Heddiw, lleolir Ffrisia yng ngogledd ddwyrain [[yr Iseldiroedd]] a gogledd orllewin [[yr Almaen]] ar lannau [[Geneufor yr Almaen]].


Gellir ystyried "[[De âlde Friezen]]" yn [[anthem genedlaethol]] y Ffrisiaid.
Gellir ystyried "[[De âlde Friezen]]" yn [[anthem genedlaethol]] y Ffrisiaid.
Llinell 28: Llinell 28:
[[Categori:Grwpiau ethnig yn yr Almaen]]
[[Categori:Grwpiau ethnig yn yr Almaen]]
[[Categori:Grwpiau ethnig yn yr Iseldiroedd]]
[[Categori:Grwpiau ethnig yn yr Iseldiroedd]]
[[Categori:Pobloedd Germanaidd]]

Fersiwn yn ôl 22:12, 20 Ebrill 2018

Ffrisiaid
Friezen
Cyfanswm poblogaeth
2.3 miliwn[1]
Ardaloedd gyda niferoedd sylweddol
Ffrisia:
Ieithoedd
Ffriseg (Ffriseg Orllewinol, Ffriseg Ogleddol, Ffriseg Ddwyreiniol), Isel Sacsoneg, Almaeneg, Iseldireg, Daneg[1]
Crefydd
Protestaniaeth[1]
Grwpiau ethnig perthynol
Saeson, Iseldirwyr, Almaenwyr[3]

Pobl Germanaidd sy'n byw yn ardal hanesyddol Ffrisia ac sy'n siarad Ffriseg yw'r Ffrisiaid. Heddiw, lleolir Ffrisia yng ngogledd ddwyrain yr Iseldiroedd a gogledd orllewin yr Almaen ar lannau Geneufor yr Almaen.

Gellir ystyried "De âlde Friezen" yn anthem genedlaethol y Ffrisiaid.

Hanes

Roedd y Ffrisiaid cyntaf yn byw ar hyd yr arfordir isel ger Môr y Gogledd rhwng aber yr Afon Rhein yn yr Iseldiroedd a'r Afon Ems yn yr Almaen, ac yn Ynysoedd Ffrisia ger arfordiroedd yr Almaen a Denmarc. Ceir y cofnod cynharaf ohonynt yn y ganrif gyntaf. Roeddent yn bobl forwrol, môr-ladron a masnachwyr, ac yn cadw gwartheg. Adeiladodd aneddiadau ar dwmpathau gwneud (Hen Ffriseg: terp; lluosog: terpen) i warchod rhag llifogydd. O'r 7g hyd y 10g, chwaraeodd y Ffrisiaid rhan flaenllaw mewn masnach rhwng y Rheindir a gwledydd Môr y Gogledd a'r Môr Baltig.[4]

Gorchfygwyd y Ffrisiaid gan y Ffranciaid yn 734 a chafodd eu troi'n Gatholigion. Roedd Ffrisia yn rhan o'r Ymerodraeth Lân Rufeinig yn yr Oesoedd Canol ond yn meddu ar rywfaint o ymreolaeth. Yn yr 16g ymunodd y Ffrisiaid Gorllewinol â'r Iseldirwyr yn y Gwrthryfel Iseldiraidd yn erbyn Habsbwrgiaid Sbaen, a daethant yn rhan o Weriniaeth yr Iseldiroedd (neu Daleithiau Unedig yr Iseldiroedd). Daeth y Ffrisiaid Dwyreiniol a'r Ffrisiaid Gogleddol dan reolaeth Prwsia yn y 18g a'r 19g, ac heddiw maent yn rhan o'r Almaen. Cadwodd y Ffrisiaid eu hunaniaeth ar wahân hyd ddiwedd y 19g, ond heddiw maent wedi cymhathu'n gryf â'r Iseldirwyr a'r Almaenwyr. Yr iaith Ffriseg yw'r brif nodwedd sy'n parhau i nodi hunaniaeth y Ffrisiaid.[4]

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 1.2 Bodlore-Penlaez, Mikael. Atlas of Stateless Nations in Europe (Talybont, Y Lolfa, 2011), t. 90.
  2. Bodlore-Penlaez (2011), t. 157.
  3. Minahan, James. One Europe, Many Nations: A Historical Dictionary of European National Groups (Greenwood Publishing, 2000).
  4. 4.0 4.1 Mackenzie, John M. Peoples, Nations and Cultures: An A-Z of the Peoples of the World, Past and Present (Weidenfeld & Nicolson, Llundain, 2005), t. 333.