Swediaid: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ehangu fymryn
Tagiau: Golygiad cod 2017
B cat
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 9: Llinell 9:


[[Categori:Swediaid| ]]
[[Categori:Swediaid| ]]
[[Categori:Grwpiau ethnig yn Ewrop]]
[[Categori:Cenhedloedd y gwledydd Nordig]]
[[Categori:Sweden]]
[[Categori:Grwpiau ethnig yn y Ffindir]]
[[Categori:Grwpiau ethnig yn Sweden]]
[[Categori:Pobloedd Germanaidd]]

Fersiwn yn ôl 21:55, 20 Ebrill 2018

Cenedl a grŵp ethnig sy'n frodorol i wlad Sweden ym mhenrhyn Llychlyn yng Ngogledd Ewrop yw'r Swediaid. Hefyd mae cymunedau Swedaidd hirsefydlog yn y Ffindir, gan gynnwys Ynysoedd Aland yn y Môr Baltig. Maent yn siarad yr iaith Swedeg.

Maent yn perthyn yn agos i'r Norwyaid a'r Daniaid, ac mae peth cyd-eglurder rhwng Swedeg, Norwyeg, a Daneg. Mae'r mwyafrif o Swediaid yn Lwtheriaid, a lleiafrif mawr yn ddigrefydd.

Llwythau Germanaidd oedd trigolion Sweden a Norwy: y Svear, y Dani, y Gothiaid, a'r Llychlynwyr. Bu gwrthdaro rhwng y bobloedd hyn am oesoedd, ac hanes hir o ymfudiad gan y Llychlynwyr. Yn y 12g, brwydrodd Erik IX Jedvardsson i uno ac ehangu tiriogaeth y Swediaid. Ar ddiwedd y 14g, unwyd Sweden, Denmarc a Norwy dan Undeb Kalmar. Llwyddodd Sweden i ennill annibyniaeth dan Gustav I Vasa yn yr 16g. Unwyd Sweden a Norwy o 1814 i 1905.

Cyfeiriadau