Swediaid: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cychwyn
Tagiau: Golygiad cod 2017
 
ehangu fymryn
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 1: Llinell 1:
[[Cenedl]] a [[grŵp ethnig]] sy'n frodorol i wlad [[Sweden]] ym mhenrhyn Llychlyn yng ngogledd Ewrop yw'r '''Swediaid'''. Hefyd mae cymunedau Swedaidd hirsefydlog yn [[y Ffindir]], gan gynnwys [[Ynysoedd Aland]] yn y [[Môr Baltig]]. Maent yn siarad yr iaith [[Swedeg]].
[[Cenedl]] a [[grŵp ethnig]] sy'n frodorol i wlad [[Sweden]] ym mhenrhyn [[Llychlyn]] yng [[Gogledd Ewrop|Ngogledd Ewrop]] yw'r '''Swediaid'''. Hefyd mae cymunedau Swedaidd hirsefydlog yn [[y Ffindir]], gan gynnwys [[Ynysoedd Aland]] yn y [[Môr Baltig]]. Maent yn siarad yr iaith [[Swedeg]].

Maent yn perthyn yn agos i'r [[Norwyaid]] a'r [[Daniaid]], ac mae peth cyd-eglurder rhwng Swedeg, [[Norwyeg]], a [[Daneg]]. Mae'r mwyafrif o Swediaid yn [[Lwtheriaeth|Lwtheriaid]], a lleiafrif mawr yn ddigrefydd.

Llwythau [[Pobloedd Germanaidd|Germanaidd]] oedd trigolion Sweden a [[Norwy]]: y [[Svear]], y [[Dani]], y [[Gothiaid]], a'r [[Llychlynwyr]]. Bu gwrthdaro rhwng y bobloedd hyn am oesoedd, ac hanes hir o ymfudiad gan y Llychlynwyr. Yn y 12g, brwydrodd Erik IX Jedvardsson i uno ac ehangu tiriogaeth y Swediaid. Ar ddiwedd y 14g, unwyd Sweden, [[Denmarc]] a [[Norwy]] dan [[Undeb Kalmar]]. Llwyddodd Sweden i ennill annibyniaeth dan [[Gustav I Vasa]] yn yr 16g. Unwyd Sweden a Norwy o 1814 i 1905.


== Cyfeiriadau ==
== Cyfeiriadau ==

Fersiwn yn ôl 21:11, 20 Ebrill 2018

Cenedl a grŵp ethnig sy'n frodorol i wlad Sweden ym mhenrhyn Llychlyn yng Ngogledd Ewrop yw'r Swediaid. Hefyd mae cymunedau Swedaidd hirsefydlog yn y Ffindir, gan gynnwys Ynysoedd Aland yn y Môr Baltig. Maent yn siarad yr iaith Swedeg.

Maent yn perthyn yn agos i'r Norwyaid a'r Daniaid, ac mae peth cyd-eglurder rhwng Swedeg, Norwyeg, a Daneg. Mae'r mwyafrif o Swediaid yn Lwtheriaid, a lleiafrif mawr yn ddigrefydd.

Llwythau Germanaidd oedd trigolion Sweden a Norwy: y Svear, y Dani, y Gothiaid, a'r Llychlynwyr. Bu gwrthdaro rhwng y bobloedd hyn am oesoedd, ac hanes hir o ymfudiad gan y Llychlynwyr. Yn y 12g, brwydrodd Erik IX Jedvardsson i uno ac ehangu tiriogaeth y Swediaid. Ar ddiwedd y 14g, unwyd Sweden, Denmarc a Norwy dan Undeb Kalmar. Llwyddodd Sweden i ennill annibyniaeth dan Gustav I Vasa yn yr 16g. Unwyd Sweden a Norwy o 1814 i 1905.

Cyfeiriadau