Y Faner: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
Dafyddt (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
{{teitl italig}} |
|||
[[Delwedd:Baner Cymru Mar 4 1857.jpg|bawd|unionsyth|Cyfrol 1, rhif 1; blaendudalen rhifyn cyntaf o Faner ac Amserau Cymru; 4 Mawrth 1857]] |
[[Delwedd:Baner Cymru Mar 4 1857.jpg|bawd|unionsyth|Cyfrol 1, rhif 1; blaendudalen rhifyn cyntaf o Faner ac Amserau Cymru; 4 Mawrth 1857]] |
||
Papur newydd wythnosol, [[rhyddfrydol]] [[Cymraeg]] a gyhoeddid yn [[Dinbych|Ninbych]] oedd '''''Y Faner''''' a sefydlwyd yn [[1843]] gan [[Thomas Gee]]. Cyfunwyd y papur gyda phapur arall, ''[[Amserau Cymru]]'' a gyhoeddwyd yn [[Lerpwl]], yn [[1859]] gan y cyhoeddwyr [[Gwasg Gee]] i greu '''''Baner ac Amserau Cymru'''''. Roedd yn wythnosolyn anghydffurfiol a oedd yn ymwneud â materion cyfoes. |

Fersiwn yn ôl 13:11, 20 Ebrill 2018
Papur newydd wythnosol, rhyddfrydol Cymraeg a gyhoeddid yn Ninbych oedd Y Faner a sefydlwyd yn 1843 gan Thomas Gee. Cyfunwyd y papur gyda phapur arall, Amserau Cymru a gyhoeddwyd yn Lerpwl, yn 1859 gan y cyhoeddwyr Gwasg Gee i greu Baner ac Amserau Cymru. Roedd yn wythnosolyn anghydffurfiol a oedd yn ymwneud â materion cyfoes.
Daeth Baner ac Amserau Cymru yn ddylanwad grymus ym mywydau'r darllenwyr. Roedd yn Rhyddfrydol ei agwedd a bu'n gefn i'r werin mewn achosion Radicalaidd gan amddiffyn Ymneilltuaeth ar bob cyfle. Am rai blynyddoedd o 1861 ymlaen cyhoeddwyd y papur ddwywaith yr wythnos, a llwyddodd ei berchennog i ddenu nifer o newyddiadurwyr galluog i weithio i'r papur, pobl fel John Griffith ('Y Gohebydd'). Penodwyd ef yn ohebydd Llundain i'r 'Faner', a threuliai lawer o'i amser yn gwrando ar ddadleuon y Senedd a mynychu cyfarfodydd gwleidyddol ledled Cymru.
Y llenor T. Gwynn Jones oedd is-olygydd Baner ac Amserau Cymru yn 1890. Gweithiodd William Thomas (Islwyn) a Gwilym R. Jones ar y papur am gyfnod. Bu Hafina Clwyd hefyd yn is-olygydd a golygydd Y Faner.[1]
Cyhoeddwyd Y Faner hyd 1 Ebrill 1992,[2] cyn ei ail-fedyddio'n Y Faner Newydd tua 1997.[3]
Llinell amser
- Yr Amserau (1843-1859)
- Baner Cymru (1857-1859)
- Y Faner (1972-1992).
Papurau eraill a oedd yn perthyn i tua'r un cyfnod
- Seren Cymru (1851)
- Y Tyst Cymreig (1867)
- Y Goleuad (1869)
- Y Gwyliedydd (1877)
- Llan a'r Dywysogaeth (1881)
Gweler hefyd
- Y Faner Newydd - Cylchgrawn Cymraeg annibynnol a sefydlwyd yn 1997 gan Emyr Llywelyn ac Ieuan Wyn (a chydolygyddion). Mae'r enw yn deyrnged i'r Y Faner.
Cyfeiriadau
- ↑ BBC
- ↑ Newsplan Cymru
- ↑ papuraunewydd.llyfrgell.cymru; adalwyd 25 Mehefin 2016.