David Davies (Dai'r Cantwr): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dafyddt (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau) Gwybodlen using AWB |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
{{Gwybodlen person/Wicidata | fetchwikidata=ALL | onlysourced=no | suppressfields= dinasyddiaeth | nationality = {{banergwlad|Cymru}} | dateformat = dmy}} |
|||
Bu'r [[baledwr]] '''Dai'r Cantwr''' (c. [[1812]] – [[10 Awst]] [[1874]]) (neu '''David Davies''' i roi iddo'i enw llawn) yn amlwg iawn yn [[Helyntion Beca]]; alltudiwyd ef i ugain mlynedd oherwydd ei ran yn yr ymgyrch.<ref>'Helynt y Beca' gan V. Eirwen Davies, tud 42; [[Gwasg Prifysgol Cymru]], 1961.</ref> Roedd yn ddyn tal â gwallt gwinau a barf browngoch. |
Bu'r [[baledwr]] '''Dai'r Cantwr''' (c. [[1812]] – [[10 Awst]] [[1874]]) (neu '''David Davies''' i roi iddo'i enw llawn) yn amlwg iawn yn [[Helyntion Beca]]; alltudiwyd ef i ugain mlynedd oherwydd ei ran yn yr ymgyrch.<ref>'Helynt y Beca' gan V. Eirwen Davies, tud 42; [[Gwasg Prifysgol Cymru]], 1961.</ref> Roedd yn ddyn tal â gwallt gwinau a barf browngoch. |
||
Fersiwn yn ôl 13:02, 19 Ebrill 2018
David Davies | |
---|---|
Un o faledi Dai'r Cantwr: Hiraeth am Gymru o Affrica, lle cafodd ei alltudio | |
Ganwyd | 1812 Llancarfan |
Bu farw | 10 Awst 1874 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd |
Bu'r baledwr Dai'r Cantwr (c. 1812 – 10 Awst 1874) (neu David Davies i roi iddo'i enw llawn) yn amlwg iawn yn Helyntion Beca; alltudiwyd ef i ugain mlynedd oherwydd ei ran yn yr ymgyrch.[1] Roedd yn ddyn tal â gwallt gwinau a barf browngoch.
Ganwyd ef yn Nhregof (neu Dreguff ar lafar), Llancarfan,[2] a bu'n chwarelwr am rai blynyddoedd ac yn was fferm ac yn weithiwr diwydiannol yn Nhredegar cyn ymsefydlu ym Mhontyberem. Bu hefyd yn pregethu ac mae'n bosibl mai ef a enillodd y Delyn yn Eisteddfod y Fenni ym 1838.
Tra'n ceisio dychryn Rheolwr gwaith glo Pontyberem, gweiddodd, Ni chaiff Sais fod yn rheolwr yng Nghymru, mwyach! Fe'i daliwyd yn nhafarn y Plough and Harrow ym Mhump-hewl a'i gyfaill Sioni Sgubor Fawr yn y Tymbl. Yn y brawdlys yng Nghaerfyrddin ar 22 Rhagfyr dedfrydwyd Sioni i alltudiaeth am oes, a Dai'r Cantwr i ugain mlynedd o alltudiaeth.
Pan gyrhaeddodd Wlad Van Diemen's Land (neu Tasmania heddiw), roedd yn 31 oed a hynny yng gorffennaf 1844.
Y baledwr
Tra yng ngharchar Caerfyrddin, ysgrifennodd:
- Drych i fyd wyf i fod,
- Collais glod allswn gael.
- Tost yw'r nod, ddyrnod hael
- I'w gafael ddaeth a mi.
- Yn fy iengtid drycfyd ddaeth,
- Yn lle rhyddid - caethfyd maith,
- Chwanegwyd er fy ngofid.
- Alltud wyf ar ddechrau nhaith...
Cyfeiriadau
- ↑ 'Helynt y Beca' gan V. Eirwen Davies, tud 42; Gwasg Prifysgol Cymru, 1961.
- ↑ Y Bywgraffiadur Ar-Lein, Y Llyfrgell Gendlaethol.