Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Brychan"

Jump to navigation Jump to search
Ychwanegwyd 97 beit ,  4 o flynyddoedd yn ôl
dim crynodeb golygu
BNo edit summary
No edit summary
 
==Bywgraffiad==
Priododd Marchell ach Tewdrig, pennaeth Llanfaes,<ref name=":0" /> ag Anlach ap Coronac, mab i bennaeth Gwyddelig, ar yr amod y byddai eu plant yn cael eu magu ar ei thir hi. Marchell oedd yn perchen Garth Madryn. Cyfarfu rhieni Brychan yn Iwerddon ar ôl i'w fam fynd yno er mwyn dianc rhag gaeaf arbennig o oer. Ganwyd Brychan, eu hunig plentyn yng Ngarthmadrun tua'r flwyddyn 500 O.C. Ar ôl i Marchell farw etifeddodd Brychan ei thiroedd i'w trosglwyddo i'w ferched.
 
==Etifeddiaeth==
Roedd Brychan yn dad i bedwar ar hugain o ferched a tua 11 o feibion yn ôl y Cognatio de Brychan a ysgrifennwyd yn y 10g <ref name=":0" /> ond mae wedi seilio ar dogfennau hŷn sydd ymhellach ar goll <ref name=":0">Jones, TT, 1977, The daughters of Brychan, Brycheiniog Cyf.XVII</ref>. Mae'r 'Cognatio' yn enwi ei ferched fel a ganlyn: Arianwen, Rhiangar, Gwladys, Gwawr, Gwrgon, Nefydd, Lleian, Marchell, Meleri, Nefyn, Tutglid, Belyau, Ceinwen, Cynheiddon, Ceindrych, Clydai, Dwynwen, Eiluned, Goleudydd, Gwen, Ilud, Tybie, Tudful, a Tangwystl. Daeth y rhan fwyaf ohonynt yn seintiau gan sefydlu llannau yn ne a dwyrain Cymru yn bennaf. Cyfeirir at deulu ("llwyth") Brychan yn y [[Trioedd Ynys Prydain|Trioedd]] fel un o "dri llwyth seintiau Cymru" (ynghyd â theuluoedd Caw neu Coel a [[Cunedda|Chunedda]].) Mae llawer o enwau eraill wedi ychwanegu at rhestrau "plant" Brychan. Maent fel arfer yn wyrion, wyresau neu gor-wyrion iddo (e.e. Dyfnan, Dilig, Adwen, Mabon, Menefrida, Morwenna, Wenna a Gwenfyl.)
 
Enwir nifer o eglwysi, yn y de a'r canolbarth yn bennaf, ar ôl Brychan a'i ddisgynyddion; Bu Brycheiniog yn bwysig yn natblygiad Cristnogaeth Geltaidd <ref name=":1">Davies J, 1990 Hanes Cymru, Penguin</ref>. Disgrifiodd John Davies de-dwyrain Cymru fel "meithrinfa'r Eglwys Geltaidd a chroth gweithgarwch a adfywiodd Ewrop." <ref name=":1" />
1,137

golygiad

Llywio